Skamma: curiad ar dy ffans fel Cantona

Falle rwyt ti wedi gweld Skamma mewn fideos lle mae fe’n cynrychioli Cymru yn y brwydrau braggadocio hiphop Don’t Flop (iaith ansaff ar gyfer y swyddfa) ym Mhryste a thu hwnt.

Yn ei gân newydd hon, sydd wedi derbyn nifer parchus o 4000 o wylwyr fideo ar YouTube mewn wythnos, mae fe’n troi ei odlau at gynhyrchiad 2-step miniog gan cynhyrchydd Stagga o Dreganna, Caerdydd (gynt o’r criw DJo Optimus Prime). Nid hon yw’r cydweithrediad cyntaf y ddau. Dechreuodd y bartneriaeth achlysurol gyda’r tiwn drom Sick As Sin yn 2009.

O ran y boi Skamma mae fe’n dod o’r Barri ym Mro Morgannwg fel cewri eraill y genedl fel Derek Brockway a Gwynfor Evans. Mae fe wedi bod yn rapio ers tro. Ydy’r plant yn deall ei gyfeiriad i Eric Cantona yn y gân tybed? Ta waeth, joia’r salwch.

The Lovely Eggs: fideo gan Casey (gyda chameo blewog anhygoel)

Dyma fideo arbennig o dda i’r cân Allergies gan y band The Lovely Eggs o Gaerhirfryn, Lloegr.

Cyfarwyddwr y fideo oedd yr artist Casey Raymond o Dreganna, Cymru (hanner o Casey + Ewan). Nodir cameo bach gan un o’r anifeiliaid blewog anhygoel.

Mae’r Lovely Eggs yn enwog am y campwaith indie pop Don’t Look at Me (I Don’t Like It). Maen nhw yn hoff iawn o gameos, y seren yn y fideo hyn oedd y comedïwr John Shuttleworth.