Trafod tiwn y flwyddyn 2016

Yn fy marn i, heb amheuaeth, dyma yw tiwn y flwyddyn 2016.

Gadewch sylw os ydych chi am gytuno/anghytuno/awgrymu tiwn arall.

Gwynt a Glaw gan Gwyllt yn gân rap ddigri ac… amserol, os taw dyna yw’r gair.

Mae’n rhaid canmol Amlyn Parry am ei eiriau ffraeth, sy’n cyfeirio at newid hinsawdd a gaeaf glawog 2015-16 ymhlith pethau eraill, a’i berfformiad, a Frank Naughton o stiwdio Tŷ Drwg, Grangetown, Cymru am ei guriadau, samplau, ei gynhyrchiad mawr.

Gyda llaw mae dal amser i wylio’r rhaglen teledu I’r Gwyllt am daith Amlyn Parry i Papua Guinea Newydd.

Os ydych chi eisiau clywed rhagor o diwns…

Mae Radio Cymru wedi gofyn i mi recordio mics o’r gerddoriaeth gwnes i fwynhau eleni. Roedd sut gymaint o gerddoriaeth wych yn 2016 ac roedd hi’n hawdd creu rhestr fer – ond anoddach cael hi i lawr i 34 munud.

Tiwniwch mewn i raglen Huw Stephens heno am 7yh ac y bydd y mics ymlaen rhwng 9yh a 10yh.

O Lundain: pwt o fy rhwystredigaeth

“Dwi wedi bradychu fy nghyd Gymry drwy wneud y penderfyniad i fynychu coleg celf yn Llundain ac ddim cystal Cymraes a rhai o fy ffrindiau sydd wedi aros yn ei mamwlad. Drwy adal dwi ogystal yn neilltuo fy hun o ddiwylliant Cymreig ac ar yr un pryd yn methu cyfrannu iddo. Fy mrad mwyaf eithafol?”

“Dwi’n siarad Saesneg yn ddyddiol.”

Am lwyth o gachu. Braf fyddai cael deud mai synnu fuasa’ chi i wybod faint o bobol sydd efo’r agwedd yma, ond i’r gwrthwyneb yw’r gwir. ‘Da ni gyd yn nabod o leiaf un. Yn anffodus dwi’n nabod oleia’ dau lond llaw.

Dwi’n fwy gwladgarol nac erioed ac wedi mopio yn llwyr gyda’r syniad o berthyn i rywle, ac wedi sylweddoli pa’ mor lwcus ydw i. Nid oes miloedd o siaradwyr Cymraeg yn Llundain ond mae ‘na lwythi ac felly dwi’n teimlo’n sbesial yno, mor gywilyddus a hunan bwysig ma’ hyna’n ymddangos i bobol sydd ddim yn teimlo’r un dynfa reddfol, ond dwi’m yn mynd i wadu fy malchder. Dyna’r gwir.

Ar y llaw arall, dwi’n mynd i bwysleisio pa mor ffiaidd dwi’n feddwl ydi pobol sydd efo agwedd naïf tuag at y Saeson. Yn gyffredinol ‘da ni’n rhy barod i gymryd yn ganiatol mai ni yw’r unig rai gyda diwylliant, iaith a hanes ac o fy mhrofiad i yn amharchus a hiliol tuag atyn nhw, pam ddiawl ydym ni’n disgwyl parch yn ôl? Cyfaddefaf fy mod wedi gorfod dysgu hyn o gamgymeriadau personol. Mae cymdeithas Gymreig yn gyffredinol wedi magu y mwyafrif i fod yn bobol hiliol a chwerw. Mae bywyd yn mynd yn ei flaen a rhaid i Gymru dderbyn hynny. Oes rhaid perfformio mwy o ddramau am chwareli a phyllau glo a Thryweryn? Be am ddathlu ein Cymru fodern hefyd? Nid anghofio. Datblygu.

Dwi’n clywed bron i bum iaith wahanol ar y stryd bob dydd ym Mhrifddinas Lloegr. Fel hyn fydd hi yng Nghymru yn y dyfodol? Yn hytrach na ceisio gwarchod y swigen fach Gymreig pam na allwn ni dderbyn hyn a’ chroesawu bobol o bob cwr o’r byd? Ma’ hi’n oes y ‘hipster’. Os allai ‘hipsters’ neud sbecdols pot jam a Birkenstocks efo sana’ yn cŵl mae gen i ffydd y gall ‘hipsters’ Cymreig neud siarad Cymraeg yn cŵl! Dwi’n llwyr derbyn mai ofnau y Cymry ydi colli iaith ond yn hytrach na ceisio arafu datblygiad ein diwylliant yn yr ymgais i’w warchod pam na allwn ni weithio o amgylch y broblem a cymeryd y reolaeth sydd ei angen? Atgyfnerthu yr iaith drwy ein celfyddydau modern. Dwi’n ymwybodol bod llawer o bobol yn symud i Gymru ac yn hytrach na mynd ati i ddysgu yr iaith mae nhw’n ei anwybyddu, achos eu bod nhw’n teimlo ei fod yn ddi-angen. Felly, yn lle cwyno a chasau yr unigolion yma (sydd ond yn ei neilltuo nhw fwy) mae’n rhaid i ni ysbrydoli nhw, dangos iddyn nhw eu bod nhw’n methu allan! Er gwaetha’r modd nid drwy fygrwthan am ddewisiadau ‘creadigol’ Radio Cymru ac S4C y mae hi’n bosib newid pethau, nid yw’n hawdd cyflawni dim drwy gwyno.

Fy mhroblem i, a phroblem mwyaf diwylliant Cymreig ydi ein bod ni yn anghyfforddus efo unrhyw ddiwylliant ‘blaw yr un ‘rydym wedi arfer hefo. Pan o’ni yn astudio Diploma mewn Celf Sylfaenol cefais fy nghyflwyno i’r syniad o gyfuno fy niddordeb mewn actio hefo fy angerdd tuag at Gelf. Ers hynny dwi wedi mwynhau perfformio darnau celf gweledol llawer mwy na pheintio. Fodd bynnag, fel artist ‘does gen i ddim platfform sylweddol i anelu i berfformio ynddo nac i arddangos y gwaith hwn a ‘does yna ddim ddigon o oria’ mewn oes i lenwi ffurflenni y Cyngor Celfyddydau. Yn blwmp ac yn blaen, dwi’n methu cynhyrchu incwm yn Nghymru yn gwneud be dwi eisiau ei neud. Yr un hen stori i griw y Sin Roc Gymraeg, actorion ac ysgrifennwyr y wlad.

Dwi’n ceisio dod i ddaeall pam ‘da ni mor ar ei hôl hi gyda’n agwedd at ein celfyddydau, pam nad ydi ein gwlad wedi cael ei gyflwyno i amrywiaeth ehangach o gelf mewn cymhariaeth a mannau eraill yn y DU ac Ewrop? Yn rhy aml nid yw diwylliant yn cael ei ystyried yn ganolog ym mhryderon y llywodraeth. Ond fel ‘da ni’r Cymru yn or-ymwybodol ohono yn ôl ein hanes, dyna mae pobol yn ei gofio, mae ei effaith ar fywydau pobol yn ddwys. Mae gan y llywodraeth ei ran i chwarae. Nid rôl rheoli, ond rôl i gefnogi, hwyluso, galluogi a stiwardio. Ond nid yw’r cyllid ar gael ar raddfa fawr ac nid yw gwleidyddiaeth Prydeinig yn ddigon cefnogol chwaith. Mi’r ydw i felly wedi derbyn y galla i ddim newid na chyflymu globaleiddio yng Nghymru fwy ac y gallwch chi.

Ydw i am ddod nôl i Gymru? Dwi’m yn gwybod. Mae angen gwyrth arnai. Ond yn y cyfamser mae’n rhaid i fi a fy ffrindiau sy’ yn yr un gwch greu platfform ein hunain. Os ‘da chi eisiau ysbrydoliaeth ewch i weld un o gigs Y Ffug, drama Llais gan gwmni Cynyrchiadau Pluen neu gŵgliwch Bedwyr Williams. Rhaid i ni estyn i bocedi ein hunain, defnyddio pob ffynhonell sydd ar gael a chymryd pob mantais o’r we. Does gen i ddim yr opsiwn o fod yn bysgodyn mawr mewn pwll bach nac yn bysgodyn bach mewn pwll mawr oherwydd ar hyn o bryd, does gen i ddim pwll i hyd yn oed nofio ynddo. Gyda’n gilydd mi allwn ni ehangu gorwelion ein diwylliant a cheisio torri tir newydd gyda ein dramau a chelf. Dyma ein cyfla’ ni i greu Cymru ‘da ni eisia’ dychwelyd iddo!

Anghofiwch Edward H: Yr hen, hen, hen ffordd Gymreig o fyw

Yng nghanol paratoadau byrlymus gig Nadolig Mafon yng Nghrymych wythnos diwethaf, daeth i mi ennyd prin o glirder meddwl: nostalgia sydd ar fai. Mae’n hen jôc yn y Gymru freintiedig Gymraeg mai gair Cymraeg yw hiraeth, yn unigryw i’n hiaith a’n diwylliant; ni cheir gair sy’n cyfateb iddo yn y Saesneg dlawd. Ond hiraeth yw ein brwydr fwyaf. Pam arall y mae digwyddiadau fel Tryweryn yn dal i fod mor ganolog i’r ffordd y mae nifer fawr o genedlaetholwyr yn diffinio eu Cymreictod? Bu storm enfawr (ar Twitter, beth bynnag) y llynedd wedi i Iolo o Y Ffug bostio ‘Anghofiwch Tryweryn’ o gyfrif y band. Heb ystyried tarddiad y llinell cafwyd unigolion o bob oed yn rhegi a bloeddio mai amharch llwyr oedd y datganiad. Ai’r rhamant ynghlwm a’r symudiad yn y 60au sydd ar fai? Ai ni’r Cymry sydd wedi bod o dan orthwm ac wedi brwydro mor hir hyd nes ein bod ond yn gallu cymryd ysbrydoliaeth o’r trychinebau diwylliannol? Wedi’r cyfan, anaml iawn y sonir am lwyddiannau’r symudiad iaith Gymraeg ond am brotest symbolaidd Pont Trefechan (a doniol oedd gweld dicter nifer o Gymry nad oedd cynhyrchiad y Theatr Gen o’r digwyddiad yn ddigon nostalgic iddyn nhw). Efallai mai angen cyffredinol sydd ar Gymry i fod yn hyderus yn ein diwylliant yn lle defnyddio grym diwylliannau arall fel esgus dros fethu. Ond dadl arall yw honno. Yr eiliad o glirder meddwl i mi oedd mai nostalgia sy’n gyrru sîn roc Cymru ers y 60au a’r 70au chwyldroadol hynny. Mae bron pob symudiad ers hynny wedi bod yn ymgais i ail-fyw cyfnod Edward H a Neuadd Blaendyffryn.

Meddwl oeddwn i ar y pryd am yr oedolion ifanc nad oedd yn y gig; pobl tua’r un oed a mi, rhai ychydig yn hŷn; a nifer o rheini ddim yn dod gan nad oedd bandiau yr oedden nhw’n eu hadnabod ers eu dyddiau ysgol (llynedd, Mattoidz oedd yn chwarae). Dwi’n hoff iawn o Mattoidz, ond sîn gerddoriaeth, a diwylliant yn gyffredinol yw’r hyn sy’n digwydd yn awr, ar yr eiliad hon. Y pedwar band ifanc yn chwarae i 400 o bobl y noson honno oedd y sîn a nhw oedd y diwylliant. Nhw sy’n byw’r Gymru fodern; yn palu trwyddi, yn siarad amdani, yn ei llusgo ymlaen gyda nhw. Ond nid yma y mae pobl eisiau. Mae llawer o Gymry eisiau i’w diwylliant Cymreig nhw aros lle y mae, fel novelty bach hyfryd iddyn nhw ei fwynhau pan mae nhw adref o Gaerdydd dros y Nadolig. Dwi’n cofio sefyll ar ymylon protest Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan ym mis Chwefror yn gwrando ar rhywun (ymddiheiriadau, gwn i ddim bwy) yn datgan mae eisiau i’w hardal HI aros yn Gymraeg oedd hi. Dyna pam oedd hi yn y brotest. Eisiau cadw ei hardal fach hi yr union fel yr oedd pan adawodd hi am y coleg. Pa ots am bawb arall. A dyma yw problem y sîn mewn nifer o lefydd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, lle mae nifer yn dianc i ffwrdd beth bynnag. Mae’n braf cael mynd yn ôl yno i fwynhau’r ‘diwylliant traddodiadol’ ond dydyn nhw methu aros i fynd nôl i’w dinasoedd mawr am ychydig o ddiwylliant go iawn.

Dyma pam yr oedd 5000 (3000-8000 yn dibynnu ar y ffynhonnell) yn gwylio Edward H Dafis yn yr Eisteddfod fis Awst. Wrth gwrs, mae gan bawb hawl i edmygu eu caneuon, ond peidiwch ag esgus fod eu cerddoriaeth yn berthnasol yn awr na’u bod nhw erioed wedi bod yn offerynwyr na chyfansoddwyr arbennig o safonol. Yna oherwydd yr hiraeth oedd nifer fawr; a’r peth trist yw bod nifer o’r rhai hyn wedi pasio’r hiraeth ymlaen i’w plant. Dyna lle ‘roedd bandiau ag artistiaid ym Maes B yn chwarae i gynulleidfa o wyth o bobl, a’n pobl ifanc – achubwyr yr iaith – yn gwylio hen ddyn yn canu o gopi. Petai’r digwyddiad yn un ynysig mewn sîn fywiog, hunan-gynhaoliol, buasai’n ddigwyddiad positif, ond mae gweld cynifer o bobl ifanc, a thrwch diwylliant iaith Gymraeg Cymru yn pentyru i ail-fyw gorffennol na fu, yn dorcalonnus. Pa ots os yw gigiau y dyddiau yma’n debyg i gigiau’r 70au? Dyw technoleg ddim yr un peth, dyw ein cyfryngau ddim yr un peth, a dyw pobl ifanc yn sicr ddim yr un peth. Mae’n hen bryd i’r hen ffordd Gymreig o weld ein diwylliant i newid.

Ar ben arall y sbectrwm mae bandiau ifanc, di-brofiad sy’n ysu i gael eu caneuon wedi eu clywed. Roedd yn ddiddorol i mi ddechrau sgwrsio gydag ambell i fand dros Twitter yn ddiweddar am effaith y cyfryngau ar y sîn Gymraeg, a darganfod bod nifer ohonynt yn cwyno am nad oeddent yn cael sylw ar Radio Cymru. Eto, mae ein diwylliant Cymraeg wedi mynnu mai Radio Cymru YW diwylliant; mai yma yn unig y mae’r pethau da yn digwydd; yma yn unig y cewch glod sydd werth unrhywbeth; yma y mae pob band gwerth ei halen yn cyrraedd. Rôl gorsaf radio mewn diwylliant bychan yw i ddarlunio diwylliant i gynulleidfa ehagach. Nid eu rol nhw yw i greu a hyrwyddo’r gerddoriaeth, ond yn hytrach, i ddefnyddio digwyddiadau fel dechreubwynt i’w gwaith. Gellir dadlau a ydynt yn gwneud hyn yn effeithiol ai peidio, ond cefais fraw clywed y bandiau ifanc yma’n cwyno nad oeddent ar y radio. Yn amlwg, mae angen dechreubwynt, ac mae gigiau’n cael eu cynnal dros Gymru (yn achlysurol), ond os mai llafur cariad yw eu cerddoriaeth, dylai chwarae i gynulleidfa ddim bod yn broblem. O safbwynt trefnydd gigiau, dwi’n teimlo mai arna i y mae’r cyfrifoldeb i gynnwys bandiau ifanc, addawol ar y line-up yn hytrach na swyddogaeth gorsaf radio. Yr hyn sy’n ofid ydy nad ydy Radio Cymru na rhai o gyfryngau arall amlwg Cymru wastad yn gwrando ar yr hyn sydd yn digwydd ar y gwaelod. Yn amlwg, y gigiau sy’n dod yn gyntaf ac airplay wedi hynny gyda nifer o gamau yn y canol, ac ar adegau, mae’n rhaid i fandiau ac artistiaid aberthu rhywfaint i gael y gigiau cynnar ac i roi eu sŵn eu hunain allan i’w glywed. Mae’n help os oes gyda nhw sŵn unigryw y mae pobl yn awchu i’w glywed. Rôl Radio Cymru, cwmnïau teledu a’r wasg yw i gofnodi’r digwyddiadau diwylliannol yma. I gynulleidfa ehangach, mae’n weithred holl-bwysig ond yn cael ei anghofio’n rhy aml.

Ta waeth, y noson honno roedd pedwar band go ifanc yn chwarae mewn pentref go fach mewn sir go amherthnasol i neuadd llawn o bobl ifanc nad sy’n rhan o’r brif ffrwd Gymreig gan amlaf. Yma mae diwylliant. Yma mae’r Gymru fodern. Anghofiwch Dryweryn, anghofiwch Edward H, Ni Yw yr Haul.

Llwyfannu Lleisiau Amgen: Y Gynghrair a Radio Cymru

Gyda’r anghydfod rhwng cerddorion Cymru a’r BBC yn parhau, mae Sianel62 wedi ymestyn gwahoddiad i’n holl gerddorion i ffilmio pwt bach yn esbonio eu safbwyntiau personol. Gyda dadl mor gymhleth â’r un yma, mae sawl barn, sawl stori, sawl llais yn cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu.

Gweler y ‘Safbwynt’ gyntaf isod gan Sam James o’r band Blaidd (yn gynt o’r Poppies).

Wrth gwrs, nid gwasanaeth newyddion yw Sianel62 – ni allwn redeg ar draws y wlad yn dilyn storïau wrth iddyn nhw dorri. Ond gallwn gynnig llwyfan amgen i’r cerddorion – cyfle i fynegi eu persbectif lle nad oes cyfle i’w gwneud yn y cyfryngau prif ffrwd. Ife dyma fydd Sianel62 yn y dyfodol falle? Llwyfan ategol, rhyw le i gyfoethogi straeon a dadleuon yn unig?

Dave Datblygu ar Beti a’i Phobl – rhaglen o 2001

Dave Datblygu ar Beti a'i Phobl

Des i ar draws y cyfweliad yma ar ôl trafod yr archif Desert Island Discs.

Dewisiadau Dave Datblygu yng nghwmni Beti George:
Frank Sinatra – I Get a Kick Out of You
Leonard Cohen – Avalanche
The Fall – Middle Mass
Captain Beefheart and the Magic Band – The Dust Blows Forward ‘n The Dust Blows Back

Recordiad trwy Beibl Datblygu (diolch Nic), sy’n dweud:

Yn 2001, buodd David R. Edwards ar sioe “Beti a’i Phobl”, yn siarad am ei fywyd a’i waith. Darlledwyd y cyfweliad ar 15 Gorffennaf 2001…

Diolch yn fawr i Shôn am y recordiad.