Datganolwch y gofod – yn awr! Effaith #BilCymru ar #Cymruddyfodoliaeth

Mae Stephen Crabb AS yn israddio Cymru mewn sawl ffordd, nid yn unig ar y blaned hon.

Llais Cymru yn San Steffan yw Ein Hysgrifenydd Gwladol – i fod. I’r rhai sydd ddim yn dilyn, mae e a Swyddfa Cymru yn derbyn bod angen model ‘cadw pwerau‘ yn hytrach na ‘rhoi pwerau’. Dyna un peth sy’n wneud popeth yn symlach – o’r diwedd. Hynny yw, maen nhw yn enwi’r pwerau sy’n aros yn San Steffan er mwyn i bawb gymryd yn caniataol bod pob maes arall o dan ystyriaeth y Cynulliad. Yn hynny o beth Cymru 2015 = Yr Alban 1998 ond sgwrs arall ydy hynny.

Mae sawl pŵer yn aros gyda San Steffan o hyd, fel y rhai dros: werthu a chyflenwi alcohol, gwasanaethau Rhyngrwyd, cyffuriau a sylweddau seicoweithredol, ‘eiddo deallusol’, gorsafoedd ynni niwclear sy’n cael ei redeg o Tseina ayyb ayyb…

Dyma’r adran fer o’r ddogfen sy’n sôn am y gofod allanol:

bil-cymru-y-gofod-allanol

Mae sylwebyddion o bob lliw gwleidyddol wedi mynegi siom am y bil am lawer o resymau. Mae unrhyw un sy’n beirniadu’r drafft yn nashi sympathiser yn ôl Tŷ Gwydyr yn Llundain (nid y band), hyd yn oed Toris sy’n mynegi pryder a Carwyn Jones AC sydd ei hun yn rhybuddio bydd sarhau pobl Cymru yn arwain at ‘surge in nationalism’.

Mae ystyriaethau daearol fel hyn yn bwysig ond mae agwedd Crabb yn effeithio ar yr holl fydysawd.

Mae hi wedi dod i’r amlwg nad yw e na Swyddfa Cymru wedi dilyn datblygiadau cyffrous ym maes/mudiad Cymruddyfodoliaeth. Fel arall bydden nhw wedi sylweddoli ein gwir botensial.

Y realiti yw bydd angen pwyllgorau Cynulliad a deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau unrhyw fenter Gymreig o bwys yn y gofod. Ond fydd ddim pwerau i Gymru dros weithredoedd yn y gofod o gwbl.

Pe tasen ni eisiau saethu asteroid sy’n peryglu bywyd gyda Lembit-laser? Gofynnwch i San Steffan.

Neu daflunio delwedd o Superted ar y lleuad? Nope.

Cadeirio prifardd ar blaned arall? Sori, wrong number. Ceisiwch Lundain.

Datganolwch Y Gofod – Yn Awr!