Supercuts: dadansoddi cliché Hollywood a mwy trwy fideo

Fy obsesiwn newydd yw Supercuts, fideos doniol sydd yn casglu clipiau ar thema. Maen nhw wedi bodoli am flynyddoedd yn ôl y sôn ond nawr mae rhywun o’r UDA o’r enw Andy Baio wedi casglu pob un o YouTube a Vimeo.

Bydd yr enghreifftiau isod yn egluro’r apêl.

Dyma casgliad o ffilmiau lle mae cymeriad yn dweud ‘You just don’t get it, do you?’.

Dw i’n caru’r casgliad yma o sinau gyda drych mewn ffilmiau arswyd.

Mae’r diweddar Steve Jobs yn dweud ‘Boom’ mewn cyflwyniad sawl gwaith. Joio.

Mae cyfanswm o 295 fideo Supercut ar y wefan supercut.org hyd yn hyn gan gynnwys ffilm, gemau, teledu a bywyd go iawn.

Gweler hefyd: Kevin Kelly, sefydliwr cylchgrawn Wired, yn trafod Supercuts.

Teyrnged i Tony Curtis, seren go iawn

Teyrnged i Tony Curtis:

Un o’r ychydig ser go iawn a oedd yn weddill o oes aur Hollywood.

Ond mae’na for a mynydd rhwng dau o’i brif gymeriadau – Sidney Falco yn y Sweet Smell of Success a Jerry yn Some Like It Hot. Y naill yn greadur y cysgodion cyfryngol a’r llall yn dianc rhag y “mob” mewn sgert a sacsoffon!

O’i ddecreuad yn y theatr Yiddish yn Chicago aeth e trwy’r dosbarthiadau actio ewropiaidd ei naws ar ddiwedd y 40au cyn cyrraedd Hollywood.  Roedd’na un peth mawr o’i blaid – roedd e’n hynod golygus! O ganlyniad roedd ei acen Bronx i’w glywed ble bynnag yr aiff e – fel swashbuckler, milwr Rhufeinig neu’r gwr ar y trapeze…

Mwy gyda fideos ar blog O Bell.