MOBO, Mr Phormula a rap ar yr ymylon

O’n i’n edrych ymlaen i weld pennill rap Cymraeg (neu dwyieithog) gan Mr Phormula ar y gwobrau MOBO ymhlith rhai o’r artistiaid hip-hop mwyaf addawol ar hyn o bryd. Yn anffodus penderfynodd y digwyddiad i beidio rhoi statws ‘cyntaf o’i fath yn y Gymraeg’ ar Phormula, druan. Ond yn ôl sgyrsiau mae MOBO yn meddwl dyw’r artistiaid i gyd tu ôl UK Rap Anthem ddim yn digon adnabyddus eto. Mae’r penderfyniad yn siom ond dyw hynny ddim yn syndod oherwydd y tensiwn rhwng amcanion diwylliannol a phwerau masnachol o fewn MOBO – neu unrhyw seremoni gwobrau cerddorol sydd i fod i ddathlu lleiafrif(oedd).

Wrth gwrs fyddan ni ddim yn gwybod beth oedd pennill Mr Phormula i fod ond mae modd gwrando ar fersiwn stwdio o’r posse cut UK Rap Anthem ar YouTube, gan gynnwys y gytgan trawiadol ‘welcome to my ends bro, it’s a kennel for the dogs…’ gyda chyfarthiadau cyson yn y cefndir:

Mae’r rapwyr ar y gân i gyd yn byw o fewn yr endid gwleidyddol Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon:

  • English Frank (Llundain)
  • Jun Tzu (Belffast)
  • Roxxxan (canolbarth Lloegr)
  • Tez Kidd (gogledd Lloegr)
  • Shotty Horroh (gogledd orllewin Lloegr)
  • Madhat McGore (Yr Alban)
  • Mic Righteous (de ddwyrain Lloegr)
  • Flow Dem (Caerdydd, Casnewydd a Bryste)
  • Mr Phormula (Llanfrothen)

Comisiynodd y cyflwynydd Charlie Sloth a’i dîm yn yr orsaf radio ‘urban’ BBC 1Xtra y gân ar gyfer y gwobrau MOBO. Aeth Charlie Sloth ar daith i greu ffilm dogfen er mwyn esbonio amcanion y gân a chwrdd â’r artistiad yn y rhestr uchod. Os wyt ti eisiau gweld y cyfweliad gyda Mr Phormula a Hoax MC yn unig cer i 6:40.

Er doedd eu hymdrech nhw ddim yn hollol llwyddiannus ac efallai fyddai steil Sloth ddim at dant pawb, maen nhw yn haeddu ychydig o glod. Mae’n anodd meddwl am unrhyw beth arall o’r cyfryngau Prydeinig sydd yn wneud gymaint o ymdrech i fod yn gynhwysfawr, i ‘gynrychioli’ mewn iaith hip-hop. Pa mor aml ydyn ni’n gweld ymdriniad mor deg o bob cwr o Brydain ar Newsnight, er enghraifft? Dyma cwestiwn sydd yn bwysig i’w ofyn tra rydyn ni’n gwylio rhaglennu. Rydyn ni’n sylwi y farn ymhlyg bod llefydd tu allan i Lundain yn hollol di-nod a diflas trwy’r amser (heblaw pan mae rhywbeth difrifol iawn wedi digwydd). Dyma pam maen nhw yn derbyn dim ond ychydig bach o sylw fel clipiau tocenistaidd yn ystod digwyddiadau mawr (e.e. ‘and now it’s back to the studio…’ ar ôl tri munud o gyfweliadau ar brys) neu, yn achos Cymru yn ystod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd gan Danny Boyle, portread syml a nawddoglyd.

Mae presenoldeb y rapwyr gwledig Cymreig yn herio’r gair ‘urban’. (Gyda llaw cyn iddo fe cael ei sefydlu, roedd BBC yn ystyried yr enw Radio 1 Urban ymhlith awgrymiadau eraill.) Efallai dyw ‘urban’ ddim yn ansoddair addas ar gyfer cerddoriaeth gyda gwreiddiau croenddu (ystyr fwriadol y term) rhagor. Fel a dywedodd Rakim ‘it ain’t where you’re from it’s where you’re at’. Fel a ychwanegodd Super Furry Animals ‘it’s where you’re between’.

Mae 1Xtra yn weddol rhydd i gynhyrchu cynnwys anarferol a dosbarthu cynhyrchiadau llawn (yn hytrach na chlipiau) fel yr un uchod gyda dulliau anghonfensiynol fel YouTube. Mewn gwirionedd mae gymaint o arddulliau cerddorol ar 1Xtra. Yr elfen sydd yn gyffredin yw’r ffaith bod yr orsafoedd eraill fel Radio 1 yn rhoi dim ond ychydig bach o sylw iddyn nhw neu hyd yn oed yn rhy ofnus i’w chwarae nhw yn ystod y dydd.

Byddai mwy o bresenoldeb o gynnwys Cymraeg yn rhwybeth i’w groesawu (anfonwch eich recordiau hip-hop Cymraeg i 1Xtra ar unwaith!).

Ond yn anffodus os yw’r ymdrechion i gynrychioli yn well yn arwydd o rywbeth ehangach o hyn ymlaen, dyw 1Xtra ddim yn prif ffrwd yn y gorfforaeth o bell ffordd. Mae’r ‘Xtra’ yn dadorchuddio’r sefyllfa: gorsaf ar yr ymylon. Roedd y BBC dan bwysau i gefnogi cerddoriaeth gyda gwreiddiau croenddu yn enwedig artistiaid newydd. 1Xtra yw’r consesiwn ac mae’n haws i gynnal gorsaf digidol-yn-unig arall nag adolygu ac adnewyddu’r gorsafoedd prif ffrwd.

Y tro diwethaf a gwnes i ymchwilio roedd/mae un stiwdio i 1Xtra yn unig. Roedd rhywun o’r BBC yn Llundain pryd hynny yn dehongli’r sefyllfa yn bersonol i fi fel bwriad i ail-creu’r teimlad o orsaf radio morleidr du heblaw am y drwydded, ond o’n i’n methu osgoi’r ffaith bod un stiwdio hefyd yn lot rhatach.

Y greadigaeth o Kreayshawn

Kreayshawn yw rapiwr sy’n dod o Ddinas Oakland, Califfornia, UDA. Er bod hi’n cyfeirio at labeli fasiwn Gucci, Fendi, Louis a Prada yn y cân yma ac yn dawnsio o flaen eu siopau mae hi’n mynnu dyw hi ddim yn eu gwisgo. Ar YouTube ti’n gallu gweld lot fawr o barch/casineb yn y sylwadau, rhai o’i fideos a ffilmiau ar gyfer artistiaid eraill a chyfweliad gyda Nardwuar lle mae hi’n siarad am hip-hop, crunk, band punk ei fam a jazz gan Sun Ra. Well i ni beidio cymryd ei geiriau 100% o ddifri, fel Jeremy Clarkson.

Lowkey: hip hop, terfysgoedd a thynerwch

Yn ddiweddar darganfyddais artist sydd heb fy nghyffroi gymaint ers os pys. Digwydd gwylio rhaglen ddogfen a gweld rapiwr ‘gwleidyddol’ o’r enw Lowkey. Dyma ni eto efallai byddwch yn meddwl, ond dyma pam credaf fod cerddoriaeth gwleidyddol mor bwysig.

Does dim modd gwadu’r ffaith fod gwleidyddiaeth yn rheoli bywydau pob un ohonom, o ein hiechyd, ein haddysg i’n swydd (neu’r ffaith does dim swyddi). Mae cerddoriaeth sydd ‘ddim yn wleidyddol’ canol y ffordd ddim yn dianc rhag fod yn rhyw fath o ddatganiad gwleidyddol yn eu hun. Mae cerddoriaeth o’r fath yn meithrin apathi a gyrru’r neges i bawb fod y ffordd y mae pethau’n gweithio yn bresenol yn y byd yn rhywbeth dylwn fodloni arno. Sut all unrhywun call dderbyn hyn os ynt yn gwynebu gwirionedd erchyllderau tlodi ac argyfwng ecolegol y ddaear, a’r holl beth mor ddiangen? Mae pob cerddoriaeth yn wleidyddiol, yn ymwybodol neu anymwybodol.

Engrhaifft o’r perthynas rhwng gwleidyddiaeth a cherddoriaeth yw’r modd mae rhai fel wedi beio cerddoriaeth hip hop am y terfysgoedd diweddar (e.e. David Starkey ar Newsnight). Mae ymateb llawer o bobol i’r terfysgoedd wedi bod yn ddychrynllyd. Sut all pobol ddim gweld bod ceisio deallt be achosodd y terfysgoedd ddim yn golygu eu bod yn cytuno a hyn a wnaeth llawer o’r terfysgwyr? Mae hen ddywediad Affricanaidd yn hynod weddys yn y cyd destyn yma: ‘If young men are not initiated into the village, they will burn it down – just to feel its warmth’.

Ar ôl blynyddoedd o’r tabloids a papurau asgell dde (daiff dyfyniad Malcom X i’m meddwl yma ‘If you’re not careful, the newspapers will have you hating the people who are being oppressed, and loving the people who are doing the oppressing.’), a hyd yn oed adloniant ysgafn fel Jeremy Kyle son am yr ‘is-ddosbarth’ mewn modd mor ffiaidd, am ir (er mai cyfalafwyr a bancwyr yw’r problem go iawn) does dim rhyfedd bod pobol fel hyn ddim yn teimlo fel rhan o’m cymdeithas.

Dyma top 5 Lowkey, oedd torri nhw lawr yn uffar o job… Nes i ysgrifennu mwydradau hirfaeth am y traciau yma, maent yn anhygoel dim ond i’w dileu ar ol sylweddoli maent yn siarad drost eu hunain a diflas yw bw dwi’n ei hysgrifennu amdanynt.

Maent i gyd eithaf ‘gwleidyddol’ ond hefyd mae traciau ynglun a theimladau personol fel Bars for my Brother (ble mae’n galaru am ei frawd a gyflawnwyd hunan laddiad). Mae rap fel Who Really Cares? yn un personol a emosiynol hefyd ond yn cyfuno teimladau yr unigolyn a ei ymwybyddiaeth o ddioddefaint byd eang mewn cyd destyn gwleidyddol. Dyma ni ta waeth:

Revolution Music

Who Really Cares
Fideo ar YouTube

One World

Bars for my Brother
Fideo ar YouTube

Alphabet Assassin

Does dim byd tebyg i glywed cerddoriaeth dachi’n teimlo sydd ar yr un tonfedd a’ch ymenydd a’r un curiad a’ch pyls mor roquefort drewllyd o gawsllyd a ma’n swnio.

RIP Rammellzee, arloeswr hip-hop

Bu farw Rammellzee (neu RAMMΣLLZΣΣ) yn Far Rockaway, Queens, Efrog Newydd wythnos yma.

Oedd e’n rhan bwysig o’r sin hip-hop (y sin gynnar yr 80au yn enwedig) fel cerddor ac artist graffiti. Mae’r fideo yn dangos e ar y llwyfan yn rapio yn y ffilm Wild Style.

Mae fe’n enwog am y can Beat Bop o 1983 gyda K-Rob. Mae cefnogwyr hip-hop yn galw’r record 12″ y holy grail o recordiau hip-hop achos mae pobol yn fodlon talu prisiau gwallgof amdano fe. Mae pob copi yn dod gyda chlawr sydd wedi cael ei pheintio gan Jean Michel-Basquiat.

Radio Amgen, cyfweliad gyda Steffan Cravos

Mae’n annodd coelio fod yr orsaf weradio Radio Amgen wedi bod yn mynd ers bron i ddegawd erbyn hyn. Mae’r orsaf wedi darlledu dros 170 o sioeau ers 2001 – micsys o gerddoriaeth tanddaearol newydd gyda’r pwyslais ar hip hop, electroneg, drwm a bas, bwtlegs, tecno, swn a dyb. Mae pob un o’r sioeau hyn dal ar gael i wrando a lawrlwytho o radioamgen.com – ewch i’r archif am y rhestr llawn.

Dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi datblygu a tyfu yn araf bach a heb ffwdan i fod yn drysor cenedlaethol (ymddiheuriadau i Stephen Fry). Mae bodolaeth parhaol yr orsaf yn arbennig o bwysig nid yn unig yng nghyd destun tirlun cerddorol ‘mainstream’ Cymru, ond hefyd y  ‘Sîn Roc Gymraeg’, byd mewnblyg lle mae bandiau ffync gwael yn gael eu cysidro yn ‘alternative’ a ‘edgy’. Heb swnio fel ormod o hipi, mae gwir angen presenoldeb fel Radio Amgen i herio’r sefydliadau hyn – mae bodolaeth yr orsaf yn cyfrannu’n enfawr tuag at amrywiaeth a iechyd ein diwylliant cerddorol.

Y dyn tu ol i Radio Amgen yw Steffan Cravos – yr un person a fu’n gyfrifol am chwyldroi/dyfeisio cerddoriaeth hip hop Cymraeg ar droad y ganrif gyda’r Tystion.  Sioe gynta’r orsaf oedd mics gan DJ Lambchop (aka Cravos), a’r trac gynta un ar y sioe honno oedd y clasur tanddaearol Cymreig “Dwi’n Licio Dafydd Iwan” gan Gwallt Mawr Penri (aka Dyl Mei).

Sut ddechreuodd yr orsaf?

Steffan Cravos: O ni’n rhedeg label o’r enw Fitamin Un ar y pryd ond doedd dim digon a arian da fi i rhyddau’r holl traciau oedd yn cael eu hanfon atai. Oedd Johnny R wedi cychwyn yr orsaf radio Cymraeg gyntaf ar y we cwpwl o flynyddoedd yn gynt (Radio D – gweler DVD Ankst ‘Crymi No.1′ am raglen ddogfen fer) a nath hwnna ysbrydoli fi i gychwyn Radio Amgen. Oedd e’n ffordd gwych o rhoi platfform i deunydd newydd yn gyflym ac ar lefel rhyngwladol. Outlet oedd Radio Amgen ar gyfer cerddoriaeth tanddaearol doedd ddim yn cael ei chwarae ar Radio Cymru.

Sut ddyliwn ni disgirifio RA? Radio we? Weradio? Gweradio?

Radio rhydd annibynnol ag onest.

Dros y blynyddoedd mae’r orsaf wedi pledu allan nifer fawr o sioeau o fewn amser byr, a wedyn wedi cymryd saib am wythnosau neu fisoedd, neu blynyddoedd maith.

Da ni yn ein pedwerydd cyfnod ond dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi cymryd seibiant am wahanol rhesymau – diffyg amser, diffyg adnoddau, gan fwyaf. Ar y foment da ni’n rhoi sioe allan bob yn ail ddydd(ish) ac yn derbyn dros 6,000 ergyd y mis.

Pam nad yw sefydliadau fel y Cyngor Celfyddydau ayb yn cefnogi’r orsaf?

Dwi ddim eisiau pres gan y CCC. Well bod yn annibynnol.

Mae na elfen politicaidd gref i’r orsaf.

Dwi wedi bod yn ymwneud a gwleidyddiaeth radical ers i fi fod yn fy arddegau, felly mae’n siwr bod hwnna yn dod drosodd weithiau yn y sioeau, yn enwedig y rhai dwi’n greu. Dwi’n teimlo hefyd fod y cyfryngau Cymraeg yn llawer rhy geidwadol o rhan allbwn, felly ma angen platfform ar gyfer cerddoriaeth heriol a syniadau radical.

Fy hoff enw ar gyfer DJ gwadd yw ‘Athro Diflas Ffwc’ – neu efallai ‘DJ Dai Trotsky’.

Athro Diflas oedd enw gwreiddiol Y Lladron. DJ Dai Trotski, ie fi oedd hwnna!

Mae Huw Stephens, ac eraill ar adegau, yn chwarae cerddoriaeth ‘tanddaearol’ ar Radio Cymru erbyn hyn. Ydi pethau wedi gwella?

Mae angen mwy. Pam ddim cael DJs i mewn a chwarae drwy’r nos (DJs go iawn hyny yw, nid radio DJs) – jyst miwsig, dim malu cachu!

Weithiau mae’n teimlo mai Radio Amgen yw’r unig allbwn ar gyfer cerddoriaeth ‘gwahanol’ o Gymru. Be fysa’n digwydd i tirlun cerddorol Cymru petai’r orsaf yn dod i ben?

Se ni’n gobeithio fase rhywun arall yn cychwyn rhywbeth tebyg… ond mae Radio Amgen yn mynd trwy gyfnodau o ddim gweithgaredd. da ni yn ein 4ydd neu 5ed cyfnod ar y foment. Da ni’n rhoi sioeau allan bob yn ail ddydd, ond wrth rheswm, nid cerddoriaeth o Gymru neu Gymraeg ydi ein darpariaeth, achos does dim digon ohono fe i gael. Fase ni’n dwli rhoi sioe dyb step Cymraeg allan – ond lle ma’r tracs? Does dim! Ma dyb step gyda ni ers 2004 fel genre newydd, ond neb yn ei gynhyrchu yn y ‘sîn gymraeg’

Oes rhaid i pobol o tu hwnt i Gymru wrando ar Radio Amgen er mwyn i ti cysidro’r gorsaf yn ‘llwyddiant’? Neu ydi hynny’n bonus?

Dim rili, ond ar ddiwedd y dydd, y we fyd ehang yw’r cyfrwng! Ma na agwedd shit yn bodoli os ti’n cael dy ‘dderbyn’ tu hwnt i Gymru (hynny yw yn Lloegr) bod ti wedi ‘llwyddo’. A dim ond wedyn bydd ti’n cael dy dderbyn yng Nghymru. Adolygiad yn yr NME – o woopie ffycin dooo – ti di ‘llwyddo’.

Ma miwsig yn gyfrwng rhywngwladol. Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth mewn ieithoedd erill nad ydw i’n deall (ond falle fi sy’n od) a dwi’n siwr bod na mwy o bobl fel fi o gwmpas y glôb.

Sa well da fi ddarlledu Radio Amgen ar FM yn ogystal a’r we – hwnna fydd y sefyllfa ddelfrydol, a basa grandawyr rhyngwladol yn fonws wedyn.