Mae cylchgrawn Monocle yn wael iawn

Monocle 105

Mae cylchgrawn Monocle newydd ddathlu 10 mlynedd o fodolaeth, ac mae’n wael iawn.

Gadewch i mi ymhelaethu rhag ofn eich bod am ystyried tiwnio mewn i’w brand ar unrhyw gyfrwng neu wario arian ar gopi printiedig dros yr haf.

Yn rhifyn 105 o’r cylchgrawn (Gorffennaf/Awst 2017) mae cyfweliad â’r triawd Saint Etienne sy’n cyfeirio at eu hallbwn fel ‘electro pop’ heb unrhyw fanylion eraillo gwbl am y gerddoriaeth, datblygiad y grŵp dros ddegawdau na arwyddocad eu gwaith. Yn hytrach mae’r cyfweliad yn rhestru llwythi o enwau trefi yn Lloegr ac yn holi am eu magwriaeth yn yr Home Counties yna. Mae potensial i wneud rhywbeth hynod ddiddorol am y pwnc yna, peidiwch â chamddeall, ac mae’r band yn gallu siarad os oes rhywun sy’n gallu gofyn cwestiynau o safon. Ond mae hyn yn wan iawn ac yn ddiflas iawn.

Mae eitem am ddawnsio yn Tel Aviv sydd ond yn cyfeirio at sut gymaint o hwyl y mae’r awdur wedi ei chael mewn clybiau yna. Mae croeso i bawb yn Tel Aviv! Mae hyn at fy atgoffa o raglennu teithio ar y teledu pan mae hi’n amlwg bod y criw a’r cyflwynwyr yn cael gormod o hwyl i ganolbwyntio ar greu rhaglen o safon. Yn waeth byth does dim sôn am unrhyw gymhlethdodau yn yr ardal o unrhyw safbwynt. Ond mae cyfeiriad at ‘Hen Jaffa’. Mae’n rhyfedd iawn ac yn wleidyddol iawn.

Sut mae’r fath rwtsh yn cael goroesi? Mae rhyddiaith Monocle yn swnio’n union fel y math o destun uchelgeisiol rydych chi’n cael am ddim ar awyren. Mae’n gwerthu lifestyle i ddynion, y rhai sy’n deithio’n barhaus a’r rhai sy’n breuddwydio am ei wneud. Ie, dynion. Gweler bennawd ‘Snack In Your Trunks’, y llun ar y clawr o ddyn generig, a’r hysbysebion sy’n cynnwys dynion, Rolex ac ati. Fyddwn i ddim yn synnu os mae’r un llawryddion sy’n cynhyrchu ‘copi’ i’r brochures awyrennau yn cyfrannu at gylchgrawn Monocle hefyd.

Y gwahaniaeth yw bod Monocle yn costio £7 yn fwy na’r cylchgrawn ar yr awyren.

Yn y ‘dinasoedd gorau i drigo ynddyn nhw’ doedd dim sôn am Lanelwy chwaith.

Y clips Vine gorau… erioed? #ripvine

ripvine1
RIP Vine!

Dim mwy o fideos 6 eiliad.

Dim mwy o glips mini ‘You’ve Been Framed’ esque.

Dim mwy o phenomenonau dros nos.
(wel, ok, tan yr app nesa’)

Dewch i ni lawenhau. A chofio!

Er mai dim ond cwta 6 eiliad ydi pob Vine, dwi wedi treulio oria’ os nad wythnosa’ o ‘mywyd i yn mynd o un fideo i’r llall.

A god, dwi ‘di chwerthin.

Dyma rai o fy uchafbwyntia’.

‘Looks cute’

Achos dyma sut dwi. Ers…..erioed.
“Hmm, looks cute, I wish I could get it, but….”

Be’ ydi Guilt trip yn Gymraeg tybad…

Peintia fi fel un o dy gŵn Ffrengig

Pwy sy’ ddim yn licio anifeiliaid?! Yn enwedig rhai sy’n powsio?!
*disclaimer – ma’na LWYTH o Vines anifeiliad allan yna. Pob un gwerth eu gweld!

Limmy

‘If ya think the world’s a terrible place…’

Cymeriad gafodd ei greu oherwydd ac ar gyfer Twitter / Vine.

Dyma un o fy hoff vines ganddo fo, ond mi roedd hi’n anodd dewis.

Nain

Jonathan Williams o Fangor ydi un o fy hoff Vinewyr o Gymru.

Ma’ ‘Smug in shit places’ werth eu gweld hefyd.

Okay

Dyma Vine sydd wedi troi’n phenomenon – a sawl video arall wedi deillio o’r un yma. Ciwt. Fydd’na neb yn deud ‘ok’ ‘run fath byth eto.

My mum’s car

Phenomenon arall – un o’r rhai mwya’ poblogaidd o Brydain dwi’n siŵr. Dwi’n euog o fod wedi ei ail greu efo Mam.

Lwp perffaith

Weithia’ ma’na stwff cŵl fel hyn ar Vine.

Ond nôl â ni at y stwff doniol.

Ta-ta tylwyth teg

Chwerthin ar fideos fel hyn sy’n g’neud i fi gwestiynnu os dwi’n berson drwg a’i peidio.

Siop hiliol?

Merch ifanc yn sylwi ar anffafriaeth hiliol mewn siop.

BRUH

LLWYTH o fideos ‘bruh’ ar Vine.

Wele’r gwreiddiol o’r cyhuddedig yn llewygu >>>

Ma’ rhywun wedi ychwanegu ‘bruh’ fel sain dros y clip.

Ma’ rhein wedi cael eu hychwanegu i ddiwadd fideos i gynrychioli, wel, rhywun yn ca’l jaman. Basically.
e.e.

Mr postman

Ma’ hwn ‘di ticlo fi de.

Avocado

Mor ddiolchgar! Ciwt.

Cerryg yr Afon

Dyma Vine nesh i sy’ ‘di ca’l cryn dipyn o sylw.

Mi o’n i ar fys o Fangor i G’narfon, ac wrth fynd drw Felinheli, sylwi bod un o’r stops wedi ei enwi ar ôl un o ganeuon Iwcs a Doyle.

Blocking out the haters

Ac os nad yda chi’n meddwl bod y Vine nesh i yn ddoniol, neu bod fy newis i o’r 10 uchaf yn rybish, wel dyma fy ymateb i ichi

#ripvine

Fideos nawr! Diffyg rhyfedd cynhyrchu annibynnol ar y we

Helo. Elidir dwi. Ac mae gen i bethau i’w dweud. Ewch i nôl panad.

Flwyddyn diwetha, wnes i a fy nghyfaill Dafydd Prys sefydlu’r wefan Fideo Wyth. Os ‘da chi ddim ‘di clywed amdanom ni, peidiwch a phoeni. Dim chi ‘di’r unig un.

Ar Fideo Wyth, ‘da ni’n trafod bob math o stwff nyrdi, efo ffocws cryf ar gemau fideo. Ac ar ben sgwennu erthyglau, ‘da ni hefyd yn gwneud cynnwys fideo’n weddol gyson. Fel allwch chi ddisgwyl o’r enw. ‘Da ni’n gwneud adolygiadau, adroddiadau byw, trefnu digwyddiadau… ‘da ni wedi atgyfodi’r rhaglen S4C Mega o’r 90au cynnar (y tro diwetha i’r sianel roi unrhyw fath o sylw estynedig i gemau fideo, gyda llaw). Flwyddyn yma, fe wnaethon ni ddechrau cyflwyno eitemau ar raglen Y Lle. ‘Da ni’n hefyd yn gwneud fideos comedi. Dyma un gweddol boblogaidd ella wnewch chi licio. Mae Rhys Mwyn ynddo fo.

Y gwir ydi, dyna ydi’n fideo mwya poblogaidd hyd yn hyn. Ac efo twtsh yn llai na 500 o wylwyr (wrth i fi sgwennu hwn), mae’n deg dweud ein bod ni ddim yn union yn rhoi’r byd ar dân. Mae ‘na ddau reswm am hyn.

Yn gynta, ‘da ni’n rybish am hyrwyddo ein hunain. Fysa chi’n meddwl erbyn hyn fysa ganddo ni grys-T neu rwbath. Ond na. Dim byd. Sori.

Ac yn ail, dydi’r syniad o wneud (a gwylio) cynnwys fideo eich hun yn Gymraeg ddim cweit wedi cydio yn nychymyg pobol eto. A dwi ddim yn siŵr iawn pam. Dydi hi erioed wedi bod yn haws creu cynnwys safonol eich hun. Ac yn fwy pwysig, mae angen cynnwys Cymraeg arnom ni rŵan yn fwy nag erioed o’r blaen.

Nôl yn yr 80au, pan gafodd S4C ei sefydlu, roedd cael un sianel yn beth hollol naturiol. Dim ond pedair sianel oedd ‘na i gyd, wedi’r cwbwl. Ac roedd y ffordd oedd S4C yn cael ei redeg yn hollol naturiol hefyd, yn dilyn fformiwla’r hollol sianelau eraill: sawl comisiynydd, pob un yn edrych ar ôl adran wahanol, yn ateb i un pennaeth.

Ond bellach, ydi hi’n gwneud synnwyr cael un sianel yn trio plesio pawb yng Nghymru? Ac un comisiynydd yn penderfynu, er enghraifft, pa siâp ddylai “comedi Cymraeg” gymryd?

Wel, nag’di. Fel arall, fyswn i ddim yn sgwennu hwn.

Dydw i ddim yn bwriadu gweld bai ar S4C, gyda llaw, na galw am ddiwedd y sianel, nac unrhywbeth fel’na. Ond mae’r cyfle yma rŵan i gynhyrchu bob math o stwff mwy ymylol o gwmpas piler mawr S4C, sy’n sefyll yng nghanol bob dim.

(Mae ‘na ddadl i’w wneud, wrth gwrs, nad ydi stwff am gemau fideo a ffuglen wyddonol a ffantasi yn ymylol o gwbwl, yn enwedig i’w gymharu efo rhywbeth fel – o, dwi’m yn gwbod – Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Ond wnawn ni adael hwnna lonydd am y tro.)

Mae’n rhyfedd cyn lleied o bobol sydd wedi meddwl am wneud eu cynnwys Cymraeg eu hun a’i sticio ar YouTube. Dwi wedi bod yn gweithio fel awdur a sgriptiwr am dair mlynedd erbyn hyn, yn treulio lot gormod o fy amser yn gwylio YouTube, a wnes i ddim meddwl am y peth. Achos dydi’r Cymry, ar y cyfan, ddim yn gwneud. Sy’n od, achos yn mhob rhan arall o’r byd creadigol, mae gan y Cymry agwedd hynod o iach at greu stwff yn annibynnol.

Mae ‘na gannoedd o awduron a beirdd yn mynd ati i sgwennu nofelau, straeon byrion a barddoniaeth, wedi eu cynnal gan rwydwaith gref o wahanol gyrff a chwmnïau. Mae gwaith sgriptwyr i’w weld mewn ambell noson o ddrama annibynnol ar hyd y lle, ac yn yr Eisteddfod bob blwyddyn. Dydi cyflwr blogiau Cymraeg erioed wedi bod yn gryfach, efo’r Blogiadur yn tynnu pob dim at ei gilydd a’i roi mewn un lle. Ac wrth gwrs, dyna’r Sîn Gerddoriaeth Gymraeg – cyflawniad mwya diwylliant Cymraeg dros yr hanner canrif diwetha, heb os nac oni bai. Mae’r ffaith bod pobol ifanc yn dal i godi gitârs, neu feicroffons, neu offerynnau pres, neu’n twidlo efo’u cyfrifiaduron, er mwyn gwneud cerddoriaeth Gymraeg wreiddiol a diddorol, yn beth y dyliwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono fo.

Ond o ran cynnwys fideo? Boed o’n gomedi, yn ddrama, yn stwff ffeithiol? Wel, dydi’r dewis ddim yn grêt.

Ac o’r stwff sydd yn bodoli, mae’n nodedig iawn bod lot ohono fo wedi ei wneud gan blant – yn cynnwys sawl fideo am y gêm Minecraft

(Cofio pan ddywedais i bod gemau’n berthnasol? Ddim i ymddangos yn smyg na’m byd, ond…)

… ac ambell i flog.

Na, dim blog. Flog. Vlog yn Saesneg. Mae’r ffaith bod hyd yn oed y gair Cymraeg am y peth yn ddryslyd yn deud lot, dydi?

O gael dewis, stwff ar wefannau fel YouTube a Twitch mae plant yn dueddol o wylio dyddiau yma, yn hytrach na theledu byw. A dydi’r arfer yna ddim yn mynd i newid unrhywbryd yn fuan. Rheswm arall, felly – os nad y rheswm pennaf – pam bod pethau angen newid.

Oni bai am hynny? Wel, mae angen llongyfarch criw’r rhaglen Y Neuadd am fynd yn syth at YouTube i’w ddarlledu, ac mae’n dda gweld ei fod wedi bod yn dipyn o lwyddiant. Ar yr un pryd, mae lot o gast a chriw’r rhaglen yn enwau cyfarwydd i wylwyr S4C beth bynnag. I fod yn llwyddiannus, dwi’n meddwl y dylai unrhyw “sîn” o gynnwys fideo Cymraeg feithrin talentau cwbwl newydd, yn gweithredu y tu allan i’r system sy’n bodoli’n barod, ac yn gwneud pethau na fyddai’n cael eu dangos ar sianel fel S4C.

I hynny allu digwydd, mae’n rhaid i lot o bethau newid. Ond mae angen i’r newid yna ddigwydd, ac yn fuan, neu fydd darlledu Cymraeg yn dod yn gwbwl amherthnasol.

Wel… yn fwy amherthnasol nag ydi o’n barod, o leia.

Mae angen rhyw fath o rwydwaith o fideos gwreiddiol Cymraeg, fel y Blogiadur, er mwyn rhoi popeth mewn un lle, hawdd i’w gyrraedd. Yn ddelfrydol, mae angen system o gefnogi cynhyrchwyr cynnwys Cymraeg yn ariannol – un ai drwy S4C, neu gorff newydd. Ond yn bwysicach na dim, mae angen gwylwyr. O fy mhrofiad fy hun, does dim byd yn rhoi mwy o foddhad i mi nag eistedd i lawr dros gyfnod o ddiwrnod neu ddau a chreu fideo newydd allan o ddim. Ond dydi’r teimlad wedyn, wrth weld mai dim ond llond llaw o bobol sydd wedi ei wylio, ddim cweit mor foddhaol.

Serch hynny, dwi yn bwriadu gwneud llawer iawn mwy o fideos, a rheini’n fwy ac yn fwy amrywiol, dros y misoedd nesa, achos dyna’r unig ffordd allwn ni gael y bêl i rowlio. Dwi’n gwadd unrhywun sy’n darllen hwn i ymuno efo fi. Ar eich iPhone, neu eich camcorder, neu ar offer proffesiynol wedi ei ddwyn o’ch stiwdio agosa…*

* Nodyn cyfreithiol: plis peidiwch â gwneud hyn.

… neu be bynnag. Ewch amdani. Efo’n gilydd, mae ganddo ni’r gallu i wyrdroi’r cyfryngau Cymraeg yn llwyr.

Ac wedi’r cwbwl, be bynnag ‘da chi’n wneud, ellith o ddim bod mor ddrwg â Îha Sheelagh, siawns.

Cam o’r Tywyllwch: sioe Peski / Gwenno Saunders ar Radio Cardiff

Disco, dyb, electronica, pop… Dw i’n bwriadu tiwnio mewn i’r sioe radio Cam o’r Tywyllwch pob nos Iau am 8yh hyd yn oed os yw’r cyd-denant yn mynnu gwylio Pawb a’i Farn ar S4C ar yr un pryd.

Mae modd gwrando ar y sioe gyntaf penigamp gan Gwenno Saunders a chriw Peski yma. Darllediwyd y sioe yn wreiddiol ar Radio Cardiff ar nos Iau 14eg mis Chwefror 2013.

Dyma’r rhestr o draciau:

Ymestyn Dy Hun – Y PENCADLYS

Do or Die – THE LEAGUE UNLIMITED ORCHESTRA

Princess With Orange Feet – SUZANNE CIANI

Sturdy Seams / Wingsuit Dreams – R SEILIOG

Skerries – SEINDORFF

Prydferthwch – LLWYBR LLAETHOG

Program – SILVER APPLES

Opie, Davy, Foote, Trevithick & Bone – BRENDA WOOTON

The Star – MARIA MINERVA

Dim Deddf, Dim Eiddo – DATBLYGU

(First Attempt) – TONFEDD OREN

Helo Rhywbeth Newydd – POP NEGATIF WASTAD

What Would You See If You Sat On a Beam of Light – GERAINT FFRANCON

Secret Friend – PAUL MCCARTNEY

Goodbye – MARY HOPKIN

Rotolock – DAPHNE ORAM

Tears in the Typing Pool – BROADCAST

White Socks, Shiny Shoes (feat. Renee Brady) – ADAMSTOWN SOUND

Paid a Synnu – TYNAL TYWYLL

Mutterlin – NICO

Tour De France – KRAFTWERK

Bi Bop Roberts – Y CELFI CAM

Tref Londinium – GERAINT JARMAN

Dw i’n falch bod rhywun arall yn sylweddoli talent yr artist Paul McCartney.

Dilynwch Cam o’r Tywyllwch ar Twitter.

Llwyfannu Lleisiau Amgen: Y Gynghrair a Radio Cymru

Gyda’r anghydfod rhwng cerddorion Cymru a’r BBC yn parhau, mae Sianel62 wedi ymestyn gwahoddiad i’n holl gerddorion i ffilmio pwt bach yn esbonio eu safbwyntiau personol. Gyda dadl mor gymhleth â’r un yma, mae sawl barn, sawl stori, sawl llais yn cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu.

Gweler y ‘Safbwynt’ gyntaf isod gan Sam James o’r band Blaidd (yn gynt o’r Poppies).

Wrth gwrs, nid gwasanaeth newyddion yw Sianel62 – ni allwn redeg ar draws y wlad yn dilyn storïau wrth iddyn nhw dorri. Ond gallwn gynnig llwyfan amgen i’r cerddorion – cyfle i fynegi eu persbectif lle nad oes cyfle i’w gwneud yn y cyfryngau prif ffrwd. Ife dyma fydd Sianel62 yn y dyfodol falle? Llwyfan ategol, rhyw le i gyfoethogi straeon a dadleuon yn unig?