Carnifal Aberaeron: pared o anwybodaeth

Mae’n debyg bod pawb wedi clywed am y stori erbyn rwan. Roedd fflôt hiliol wedi’i gynnwys fel rhan o garnifal Aberaeron ac fe wnaeth cannoedd o bobol ei amddiffyn. Dyna yw craidd y stori’n wir. Oes, mae manylion bellach am bwy sydd wedi dweud a datgan be, pwy sydd wedi newid eu meddyliau, pwy sydd wedi ymddiheuro a maddeuo. Ond yn syml iawn, fe ddigwyddodd rhywbeth hiliol a chafodd y weithred hynny ei amddiffyn.

Yw lliwio’ch wyneb gwyn yn frown neu’n ddu’n hiliol? Ydi. Yw chwarae cân sy’n trafod pobol Jamaica yn nhermau gwawdlun hiliol yn hiliol? Syrpreis! Ydi. Yw amddiffyn y pethau hyn fel hwyl ddiniwed yn hiliol? Ydi. A yw’n bosib nad oedd gan y bobol oedd yn gyfrifol am y fflôt na’u ffrindiau na threfnwyr y carnifal unrhyw amcan o ba mor hiliol oedd eu gweithredodd? Ydi, ond nid bwriadol yw bob math o hiliaeth. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n cymryd cyfleoedd fel rhain i ymddiheuro ac i ddysgu, nid i weiddi amddiffyniad o’n hunain neu’n ffrindiau.

Fy siom mwyaf i yn y llanast hwn i gyd yw’r gymharol distawrwydd oedd i’w gael gan Gymry Cymraeg. Wrth edrych ar Twitter pan mae sarhad diweddaraf yn erbyn yr iaith wedi’i brintio, mae bron pob yn ail trydariad ar fy ffrwd i’n ymateb cryf. Roedd cryn ddistawrwydd i’w weld ar Twitter pan ddaeth y stori am y carnifal i’r golau dydd. Rhai ail-drydariadau o ddolenni straeon newyddion, falle, ond prin oedd yr ymatebion ffyrnig o’n i wedi arfer â nhw. Rydw i’n falch iawn o weld erbyn rwan bod pobol fel @Madeley wedi gwneud cryn ymdrech i ymateb yn gryf i’r digwyddiadau ond mae rhai o’r ymatebion iddyn nhw wedi bod yn ffiaidd i’w darllen.

Mae’n rhaid i ni wynebu’r anwybodaeth sydd yn amlwg i’w gael o hyd yn ein cymdeithasau ni. Mae angen cael sgyrsiau anghyfforddus. Mae angen herio pobol a herio’n hunain. Mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy’n barchus, yn sicr, ond mwy na dim byd mae angen ei gwneud. Nid trwy ddistawrwydd mae newid agweddau na dysgu.

Mae’r wythnos diwethaf wedi’n siomi fi’n llwyr fel Cymraes. Mae’n rhaid i ni wneud yn well.

Llun gan Aeronian (CC BY SA)

4 sylw ar “Carnifal Aberaeron: pared o anwybodaeth”

  1. Yn anffodus mae agwedd hiliol yn gyffredin iawn yn y Gymry wledig ymysg y Cymry Cymraeg tuag at bobl croen tywyll. Gallaf glywed hiliaeth yn cael ei fynegi yn feunyddiol petawn yn clustfeinio ar sgrysiau yn y dafarn, y stryd, y mart, y siop – maen dod o enau fy ffrindiau, a theulu. Dwi wedi hen arfer a;i glywed ac wedi hen flino ar ei glywed. Ond dyna hanfod cymdeithas wledig gul , oherwydd maent yn cael eu bwydo yn feunyddiol gan diferion gwenwynig y Daily Mail a ‘r cyfryngau Llundeinig. Byth yn cwrdd neu yn dod ar draws bobl o ddiwylliannau/cenhedloedd eraill , ac o ganlyniad ddim yn sylweddoli bod rhaid newid ymddygiad. Pam ichi medwl bod gyment wedi pledleisio dros Brexit?
    Mae hyn yn Enghraifft berffaith o;r hollt rhwng y “werin” a chymunedau dinesig Cymru. Maer bobl yma yn difrio mewnfudwyr, y rhai brown a’r rhai o dwyrain Ewrop ac yn adrodd yr un hen ystrydebau amdanynt, ond yn anwybodus iawn mewn gwirionedd.
    I gychwyn roeddwn i yn meddwl bod bobl yn gor-ymateb achos felna mae bois rygbi, hambones yn gallu ymddwyn, ac roedd e just yn dangos eu twpdra nhw yn fwy na dim, ond wedyn feddylies i beth os oeddwn i yn aelod o deulu du ac wedi landio yn ABeraeron y diwrnod hwnnw a gweld a chlywed y gan. Ond dwi ddim yn gweld y pwynt o crincian dannedd a taflu llwch am fy mhen am gyflwr y genedl fel mae rhai ar trydar-, beth ichi yn disgwyl? Nid chi sydd ddim wedi dioddef yn o ganlyniad i’r ioncs yna, dim White Supremacist March oedd e? A dwi yn sylweddoli bod beth rwyf yn weud ddim yn “PC” ond allai ddim rhoi fy hun mewn sgidiau rhwyun sydd wedi dioddef anaf , erlid a chasineb o ganlyniad i hiliaeth. A diw bobl yn taflu sen at yr iaith ddim yn cymharu OK , cyn i rywun neidio ar hwnnw. Byddai diddordeb gyda fi petae Cymro neu Cymraes croen-tywyll yn sgwennu erthygl am y sefyllfa ar Nation Cymru/Cymru Fyw er mwyn egluro i ioncs Aberaeron a Chymru beth yn gwmws yw y broblem yn hytrach na bod bobl gwyn yn mynd mlaen amdano.

    Ymwrolwch! Pan mae aelod o’ch teulu, cydnabod , y bachan wrth y bar, a’r fenyw yn y siop yn sbowtio ystradebau y Daily Mail a dangos twpdra a chasineb afresymol tuag at bobl oherwydd lliw eu croen, heriwch nhw yn y fan a’r lle yn hytrach na phregethu ar Facebook, dwi neud.
    Yr ironi gwyrdroedig o weld aelodau o genedl gaeth yn bychanu hil a fu dan y lach am ganrifoedd! Dwi wedi ei ddeud or blaen a dywedaf e eto, angen mwyaf y Cymry yw psychiatrist i sortio ein psyche mas

  2. Helo Gaynor, diolch am roi sylw! Dwi’n cytuno’n llwyr gyda’ch paragraff olaf, yn wir, dyna’r math o weithredu sydd angen mwyaf weithiau, yn erbyn y math o ddistawrwydd sy’n gallu bod mor ddinistriol – distawrwydd ar ôl i rhywun dweud ‘jôc’ neu ail-adrodd rhyw ‘ffaith’ angrhedadwy o’r Mail neu’r Express. Cwbl mae distawrydd felly’n dweud yw ‘caria di ‘mlaen i siarad a meddwl fel yr wyt ti’.

    Yn fy marn i – a rydw i’n siarad fel rhywun sy’n hil-gymysg ond sy’n medru ‘pasio’ fel rhywun sy’n wyn – mae pethau fel hyn yn effeithio arnom ni i gyd. Yn sicr, yn achos ‘blackface’, pobol du sy’n dioddef mwyaf, yn cael eu targedu a’i ynysu gan y ffasiwn anwybodaeth neu falais. Ond ar yr un pryd, mae’n bwysig, yn fy marn i, i bawb ddigio ac i’w gondemio, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig – fel, efallai, Cymru ar ei chyfan – ble mae, fel ‘ych chi’n dweud, mae llai o gontact i’w gael gyda poboloedd o ddiwylliannau a hiliau wahanol.

    Wedi dweud hynny, dwi’n cytuno bod angen cylwed lleisiau’r pobol penodol sydd o dan ormes, a rhywbeth dwi’n credu gryf ynddi yw medru sefyll i un ochr a chynnig pa bynnag platfform (dim ots pa mor fach!), pan fo’n briodol, i rhywun gall siarad am brofiadau’n fwy uniongyrchol.

    Gobeithiaf mwy na dim bod y digwyddiad diweddaraf yma’n medru sbarduno bobol i ddeffro a thalu mwy o sylw i beth sy’n mynd ymlaen o’u cwmpas nhw (a rydw i’n fy nghynnwys fi fy hun yn hynny), ac bod trafodaethau a sgyrsio gonest yn medru digwydd er mwyn dysgu a symyd ymlaen.

  3. Ie, mae’r tawelwch yn fyddarol, a’r peth mwyaf ffiaidd oedd ymateb bobl oedd yn dilornu y set “PC/liberal snowflakes” bondigrybwyll, gan ddeud allwch chi ddim bod o ddifrif, ac yna wrth i’r ddadl fynd mlaen gwneud ensyniadau hiliol a misogonistiadd fel ryw amddiffiniad , gan felly tanseilio eu dadl yn llwyr. Mae rhaid inni gyd siarad lan. Trueni nad oes neb wedi sgwennu erthygl i;r blogiau , gwefannau Cymreig er mwyn gosod yr achos mas.
    Dwi wedi deud erioed nad yw ffieiddra yn erbyn yr iaith Gymraeg neu’r Cymry yn hiliaeth, ac yn ymwybodol bydd neb fawr yn cytuno gyda fi ar hyn – nid ydym yn hil gwahanol i Saeson, nac i’r Cymry hynny sydd yn wrth Gymraeg, ond mae pawb yn barod i neidio ar y ( i ddefnyddio yr ystrydeb) bandwagon hiliaeth, pan maen dod i’r iaith. Mae honna yn ddadl rhy simplistig. Ond mae’n ofnadwy fel bod neb yn codi llais yn erbyn gwir hiliaeth ac ers Mehefin llynedd mae gwir troseddau casineb, ie erlid hiliol ar i fyny. Holwch eich heddlu lleol. Mae’r holl sefyllfa hyn yn deud cyfrolau am y psyche Cymreig, peideid neb a galw Gwalia yn “gwlad y menyg gwynion”! Be dwi yn casau yw sut mae pobl dwi yn eu nabod yn siarad yn agored am lleiafrifoedd, pobl o hiliau eraill men modd ffiaidd ac anwaraidd ac yn barod i adrodd anwireddau sydd yn adlewyrchiad o’u hanwybodaeth hwy ac yn bennaf oll anwybodaeth o oblygiadau cyd-destunau hanesyddol

  4. Mae’n ymddangos mae’r paranoia rhyfeddol gan Nia a Gaynor ydi fod pawb yn nghefn gwlad Cymru yn hiliol a fod cefn gwlad Cymru yn llawn white supremacists kkk. Ymddengys hefyd fod Gaynor yn anhapus gyda hyfdra pobol yn gyffredinnol i ymarfer eu hawl democrataidd i fotio am Brexit ag i ddarllen papur newydd o’i dewis nhw. Ymddengys mai ateb Gaynor i hyn i gyd yw creu ryw fath o Stasi neu KGB i fynd o amgylch Cymru yn gwrando ar sgwrsus pawb a gwneud yn siwr eu bod yn cael eu cosbi nes eu bod yn dysgu i gael ‘y sgyrsiau cywir’. Mae’n amlwg mai y math yma o feddwl ydi’r gwir beryg yng Nghymru a thu hwnt heddiw-yr obsesiwn mewn gweld hiliaeth a lliw croen ym mhob peth ac ym mhob man. Mynnu fod pawb yn cydymffurfio a’i obsesiynnau cywirdeb gwleidyddol nhw neu yn eu herlid a’i bwlio drwy’r wasg os ydynt yn meiddio peidio cydymffurfio. Gweiddi goddefgarwch ar bawb a phopeth tra’n bod yn gwbwl anoddefgar a chul eu hunain.

    Ymddengys mai ychydig o Gymry sydd yn deall fod y wasg Lundeinig yn defnyddio unrhyw esgus i ymosod ar Gymry yn gyffredinnol neu am feiddio peidio addoli yn ddi gwestiwn wrth allor cywirdeb gwleidyddol. Nid yn unig hynnu ond yn llwyddo i gael nifer fawr o Gymry i gytuno gyda nhw mewn ymosod ar eu cyd wladwyr yn lle ymladd yn erbyn yr agenda cywirdeb wleidyddol beryg yma.

    Y person a reportiodd y ‘drosedd erchyll’ yma oedd Dinah Mulholland (gweler y llun), ymgeiswraig Ceredigion Llafur yn yr etholiad cyffredinnol diwethaf – Saesnes arall ‘flaengar ryddfrydol’ yn dod mewn i Gymru a chesio parddduo enw Cymy a Chymru wledig fel gwlad llawn pobol hiliol, cul, gwirion ayb – a hyn i gyd am i grwp o bobol dalu teyrnged i un o’i hoff ffilmiau heb unrhyw falais

Mae'r sylwadau wedi cau.