Ydy UKIP yn ffasgwyr?

Yn dilyn ei drafodaeth o wrthwynebiad Cymdeithas yr Iaith i UKIP yn y Senedd, dyma Huw Williams yn trafod y bygythiad mai’r blaid hon yn cynrychioli, a phaham mae’n gymwys eu gosod o fewn traddodiad eithafol yr asgell dde.

Mae rhai gwleidyddion yn barod i herio UKIP, ond mae angen i fwy gydnabod yr hyn maen nhw’n cynrychioli.

Y ffasgwyr newydd

Gwireddwyd yr hunllef, felly, ochr draw’r môr Iwerydd. Mae Donald Trump, a’i gyfaill Steve Bannon, wedi dangos mai cwbl ddilys oedd yr ofn a phryder amdanynt, wedi’r dyddiau gorffwyll cyntaf wrth y llyw yn yr Unol Daleithiau. I fod yn deg gyda’r Americanwyr, maen nhw wedi bod yn rhybuddio ei gilydd ers amser maith am yr eithafiaeth yn yr arfaeth. Cofiaf wylio gyda pharch a syndod ychydig fisoedd cyn yr etholiad wrth i Weriniaethwraig – ac un o gyn cynghorwyr George W Bush – wfftio Trump ar Newsnight gan ddatgan, er gwaethaf ei hymlyniad i’w phlaid, na fyddai byth am weld ei gwlad yn cwympo mewn i ddwylo ffasgydd.

A dyma ni, “ffasgiaeth”, y gair tyngedfennol – fan yna a hefyd yma yn Ewrop (os caf fod mor hy ag awgrymu ein bod ni’n parhau yn rhan o’r cyfandir hwnnw). Oblegid y mae’r gair yn un sydd yn atgoffa ni o’r math eithaf o wleidyddiaeth asgell dde, a welodd un o’r penodau mwyaf dinistriol yn hanes dynoliaeth. Ers sawl blwyddyn nawr mae yna drafodaeth wedi bod ymhlith y sawl sydd wedi ceisio gwrthwynebu UKIP ynghylch defnydd y gair. Ai priodol yw dwyn i gof Mussolini a Hitler? Onid camddefnydd o iaith yw hyn? Onid yw’n bychanu erchylltra eu gweithredoedd? Oni fydd UKIP yn dwyn grym o’i ddefnydd, trwy honni mai dyma’r sefydliad hysteraidd yn ceisio cadw’r bobl dan draed?

Fel un sydd yn addysgu athroniaeth a damcaniaeth wleidyddol rwyf wedi meddwl tipyn am y peth. Yr wythnos hon, fel mae’n digwydd, roeddwn yn trafod ‘ideolegau’ yn fy narlith ar fodiwl athroniaeth wleidyddol. Un o’r ffyrdd hawsaf o geisio cyfleu natur ideolegau mewn ffordd syml yw troi at lyfrau tesun (yn yr achos hwn Hoffman & Graham ) sydd yn trafod prif nodweddion y gwahanol setiau yma o gredoau. Wrth drin a thrafod ffasgiaeth yr oes a fu, daw’n gwbl amlwg bod yna ormod o debygrwydd yng ngweithredoedd ac agweddau Trump, Farage, a’u tebyg i wadu’r cysylltiad – ac er nad ydym wedi gweld ffasgiaeth fodern yn ei llawn dwf, camgymeriad mawr byddai caniatáu iddo gryfhau ymhellach.

Gwreiddiau a gweithredoedd ffasgaeth

Gwreiddiau’r ymchwydd diweddar yma o wleidyddiaeth eithafol yw’r amgylchiadau economaidd sydd wedi gweld mwy o anghyfartaledd mewn cymdeithas, mwy o deimlad felly o’r amddifadedd cymharol (relative deprivation) sydd mor ddinistriol i gymdeithas, a’r tlodi ac ofn sydd yn codi yn sgil y fath amgylchiadau. Nid oes modd cymharu’r tlodi, wrth gwrs, gyda’r hyn a welwyd yn Ewrop rhwng y rhyfeloedd, ond yr un yw’r ymdeimlad o ansicrwydd a chwerwder. Yn yr union fodd yr oedd Mussolini a Hitler wedi gallu bod yn fanteisgar trwy wleidyddiaeth boblyddol, rydym wedi gweld Farage a Trump yn dilyn yr un hen gân. Craidd poblyddiaeth yw’r honiad bod cymdeithas yn rhanedig: yr “elit llwgr” a’r “bobl bur”. Rhaid yn hynny o beth cydnabod mai symptom mwyaf eithafol y gymdeithas gyfalafol yw ffasgiaeth – penllanw’r anghyfiawnderau ac estronyddu sy’n eu nodweddi.

Yn naturiol, felly, yn cyd-fynd gyda’r feirniadaeth ddiflino o’r elit ymysg ffasgwyr, yw’r feirniadaeth o gyfalafiaeth, ac wrth gwrs gwelwn y fersiwn fodern o hynny yn yr achwynion aml ynghylch bancwyr Wall Street a Dinas Llundain. Wrth gwrs, mae’r hyn oedd yn wir am y Natsïaid, sef eu parodrwydd yn y pen draw i gydweithio gyda busnes, yn eironig digon yn fwy amlwg o boenus gyda ffigyrau fel Farage a Trump. Wedi’r cwbl, dyma ddynion sydd wedi gwneud eu ffortiwn ar sail y sustem gyfalafol, ac sydd yn ddigon hapus gyda’r syniad o ddefnyddio’r farchnad i reoli hyd yn oed ein sector cyhoeddus mwyaf cysegredig, sef maes iechyd.

Credoau a chasineb

Dyna amlygu felly’r elfennau cefndirol a gweithredol sydd yn cysylltu ffasgiaeth y gorffennol gyda’r ffenomenon cyfredol. Ond mae’r tebygrwydd yn ymestyn y tu hwnt, wrth gwrs, tuag at yr agweddau rheiny sydd yn achosi’r pryder mwyaf, sef rhai o’r daliadau gwleidyddol asgell dde eithafol. Roedd y credoau oedd yn gyrru ffasgiaeth Hitler a Mussolini yn aml-weddog ac mewn rhai ystyron yn unigryw i’w brand personol o wleidyddiaeth atgas, ond roedd yna gysondeb yng nghyswllt eu hagweddau arch-cenedlaetholgar, statws dyrchafedig y wladwriaeth fel conglfaen hunaniaeth a chymuned, eu safbwyntiau estrongasol (xenophobic) a hiliol, a’u syniadaeth wrth-ryddfrydol a gwrth-ymoleuad.

Nid oes angen dadansoddiad hir a thrwyadl i adnabod y nodau yma yn nhonau bygythiol a chras gwleidyddion ein hoes. ‘America First’, meddai Trump (yn adleisio ‘Germany First’ y Natsïaid) wrth fygwth codi wal ar ffin Mecsico, ac wrth gwrs raison d’etre UKIP oedd camu yn ôl o wleidyddiaeth gydweithredol, Ewropeaidd mewn i ryw neverneverland o ynysiad ysblennydd. Nid oes lle, yn ogystal, o fewn eu safbwyntiau ar gyfer hunaniaethau a chymunedau amrywiol a phobloedd gymysg yn byw tu hwnt i afael a normau gosodedig y wladwriaeth – amddiffyn y sefydliad hwnnw a ddaw cyn pob dim arall, a gwelir y bobl a’r wladwriaeth yn asio’n un ffurf hegemonaidd, sydd yn lladd ar ‘elynion y bobl’ sydd yn wahanol ac yn bygwth ei ‘phurdeb’.

Un o agweddau amlycaf ymgyrch Trump oedd y modd a ymosododd ar bobloedd o dras wahanol, a phenllanw hiliaeth UKIP wrth gwrs oedd y poster echrydus o ffoaduriaid o dan y teitl ‘breaking point’. Y rheswm a adawodd Alan Sked – sylfaenydd UKIP – y blaid oedd oherwydd bod gormod o hilgwn yn ymuno ac oherwydd y cysylltiadau gyda’r BNP. Ac wrth gwrs yn sail i’r agweddau hyn oll yw’r ymosodiad ar hawliau a rhyddfreiniau nifer yn y gymdeithas, a’r agweddau dirmygus o werthoedd yr ymoleuad megis cydraddoldeb, ac yn fwy sylfaenol na hynny: gwybodaeth, deallusrwydd a gwirionedd.

Trais

Yr un elfen a ddiffiniodd ffasgiaeth Hitler a Mussolini sy’n absennol – neu’n guddiedig – ac sy’n achosi’r anesmwythdod mwyaf ymhlith y sawl sydd am wadu’r ffasgiaeth gyfoes, yw’r defnydd a dathlu o drais milwrol. Roedd yr elfen filitaraidd yn hysbys o’r cychwyn cyntaf ac yn arf o safbwynt ennill grym a dylanwad i’r ffasgwyr gwreiddiol. Fodd bynnag, trwy berswâd, propaganda ac ymddangosiad o normalrwydd y mae’r ffasgwyr cyfoes wedi ennill eu plwyf. Fodd bynnag, nid yw’r bygythiad o drais ymhell o’r wyneb, fel y gwelir yn ieithwedd Trump, ac yn fwy amlwg ym mygythiad Farage, y byddai terfysg yn dilyn o benderfyniad yr Uchel Lys i orfodi penderfyniad Brexit trwy’r Tŷ’r Cyffredin.

Mae’n wir, fodd bynnag, nad yw’r elfen dreisgar yma yn agos at fod mor amlwg yng ngwleidyddiaeth UKIP cyn belled, yn yr ystyr nad oes yna luoedd yn martsio ar y strydoedd nac yn bygwth pobl yn y stryd. Ond y pwynt i’w gydnabod fan hyn yw na fyddai tactegau o’u math yn llwyddo oherwydd y byddai’r gymdeithas yn adnabod y tactegau ac yn lladd arnynt o’r cychwyn, fel sydd wedi digwydd gyda grwpiau megis y BNP. Y cwestiwn felly, yw a ydym ni am ganiatáu iddynt ddatblygu’n rym prif-ffrwd gyda’r potensial o gael eu dwylo ar liferi grym a’r lluoedd arfog? Does dim ond angen darllen arwyddion yr amserau o’r UDA ac ystyried gweledigaeth wallgof a dinistriol Bannon i wybod yr ateb.

Yn wir, mae’n ddiamheuol bod y grymoedd newydd yma’n gofyn cael eu hadnabod fel rhai ffasgaidd, a dylem fod yn ddidrugaredd wrth rybuddio eu cefnogwyr mai dyma’r hyn maent yn cefnogi, ac yn yr ystyr hynny eu bod yn bell tu hwnt i ffiniau derbyniol democrataidd ac yn fygythiad i’n gyfundrefn. Mae’n hen bryd i’r cyfryngau a grwpiau cymdeithas sifil i sefyll lan a gwneud yr hyn maen nhw fod, sef gwarchod ein democratiaeth trwy ledaenu’r negeseuon priodol. Os ydych chi’n cefnogi UKIP a Trump, neu yn eu trin nhw fel “unrhyw blaid arall”, rydych yn cefnogi casineb, chwalfa, a’r trais anochel fydd yn dilyn. Does dim ond angen edrych ar ymateb UKIP i benderfyniadau’r Uchel Lys, a gorchmynion gwallgof gweinyddiaeth Trump, i weld beth yw eu gwir safiad ar ein sefydliadau democrataidd. Digon bodlon maent i guddio tu ôl y cysyniad yma er mwyn dilysu eu bodolaeth (“mae pobl wedi ein hethol”) ond digon buan maent yn eu cwestiynu pan mae’r penderfyniadau yn mynd yn eu herbyn.

Rhaid inni beidio â chamarwain ein hunan ynghylch natur derfynol y llwybr yma rydym yn rhodio. Daeth Trump i rym gyda chefnogaeth wreiddiol o ddim ond canran o’i blaid- efallai llai na 15% o boblogaeth ei wlad; daeth Hitler i rym gyda 33% o gefnogaeth yr Almaenwyr; mae’n ddigon posib y daw UKIP yn rhan o lywodraeth clymblaid yn Senedd nesaf San Steffan, ac mewn amgylchiadau erchyll Cymru ôl-Brexit, lle nad ydym wedi gadael yn derfynol, pwy fyddai’n diystyru’r posibiliad o UKIP yn chwarae ar gasineb a rhwystredigaeth pawb i ddyblu ei bleidlais a ffurfio clymblaid gyda’r Torïaid – gan adael troseddwr, cefnogwr apartheid a dyn sy’n cynrychioli Prydeindod Seisnig ar ei fwyaf atgas yn Brif Weinidog ar Gymru.

Efallai y bydd yna wrthwynebiad yn parhau i ddefnydd y term, oherwydd yn arfaethedig neu’n guddiedig – yn hytrach na’n echblyg – y mae militariaeth y ffasgwyr modern. Os felly, a’n bod yn anghyfforddus yn galw Neil Hamilton yn ffasgydd, yna awgrymaf y term neoffasgydd fel un parod i’w defnyddio yn ei lle (meddyliwch am le sefydledig neoryddfrydiaeth yn ein terminoleg wleidyddol fel term ar gyfer y rhyddfrydiaeth asgell dde a ddatblygodd yn yr 80au dan Reagan a Thatcher). Yn wir mae yna rinweddau i’r term o feddwl bod yn cydnabod natur newydd y wleidyddiaeth sydd ohoni, ond yn ein hatgoffa o’i rhagflaenydd a’i photensial dinistriol. Yr un yw’r rhybudd: ond dyma un o’r brid newydd, cyfeillgar, dan din o ffasgwyr ein hoes.

Mae’n werth gorffen myfyrio ar y mater yma gyda geiriau’r athronydd JR Jones, oedd wedi byw trwy ffasgaeth, a’i eiriau syfrdanol, mor bell nol ag 1963:

“Ac y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y gyfundrefn elw hyd bwynt na ellir mo’i doctora hi mwyach, fe eill yn hawdd ein bod ni’n wynebu cyfnod newydd o wrthchwyldro ffasgaidd – ie hyd yn oed ym Mhrydain. Dan enwau a theitlau newydd wrth gwrs. Nid ffasgaeth Jordan na Oswald Mosley, canys adwaenom nodau hwnnw a ni’n twyllir ganddi, ond rhyw fudiad newydd y bydd digon o gamouflage sosialaidd gwerin-ddyrchafol yn cuddio ei fileindra nes dallu’r gwerinoedd unwaith eto.”

Wedi dallu, yn wir.

1 sylw ar “Ydy UKIP yn ffasgwyr?”

  1. Un o briodoleddau ffasgaeth yw byddinoedd preifat. Hyd yma nid yw’r rheini wedi ymddangos. Yn America efallai nad oes eu hangen, gan fod plismyn y wlad honno mor adweithiol pa un bynnag.

    Ond eto, beth wnawn ni o’r cyn-filwyr Americanaidd (Y “veterans” chwedl hwythau) sy’n ochri gyda’r brodorion yn helynt Standing Rock ? Dyma stori bwysig iawn, a gobeithiol iawn, nad yw wedi cael ymddangos ar y prif gyfryngau o gwbl, hyd y gwelaf i.

Mae'r sylwadau wedi cau.