Pantycelyn: Addysg ar ei orau

Jeff Smith yn 2014 - llun gan Keith Morris

Mae bygythiadau gan Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Pantycelyn, Neuadd Cymraeg y Brifysgol, wedi cael ymateb ffyrnig. Islaw, dwi’n manylu ar fy mhrofiad i o fyw ym Mhantycelyn er mwyn dangos pwysigrwydd y Neuadd.

Pan gyrhaeddais Neuadd Pantycelyn yn 2007, ro’n i’n di-Gymraeg a swil iawn. Dwi’n dod o dde-ddwyrain Lloegr yn wreiddiol, lle na siaredir Cymraeg, ac mae gen i syndrom Asperger, sy’n tarfu ar fy nealltwriaeth o sut i gymdeithasu ac ati.

Bu hyn yn newid yn gyflym! Cymraeg yw’r iaith bob dydd ym Mhantycelyn, ac ro’n i’n clywed e bobman – yn y coridorau, yn y Lolfa Fawr, yn y Ffreutur a mewn digwyddiadau cymdeithasol. Des i nabod lawer o bobl: mae’r ffurfweddiad yr adeilad, gyda choridorau agored ac ystafelloedd cymunedol, yn hwyluso cymdeithasu, ac yn hytrach na byw mewn fflat ble fyddai’n nabod efallai pump o bobl eraill, ces i gyfle gwych i fyw mewn cymuned bywiog o dros 200 o bobl. Roedd hynny’n profiad addysgol hefyd – des yn ffrindiau gyda phobl o bob ran o Gymru a thu hwnt, gydag amrwyiaeth helaeth o brofiadau, acenion a thafodiaethau. Dyma Cymru o dan un tô!

Mae’r ffurfweddiad y Neuadd hefyd yn hybu gweithgareddau, fel Corau, grwpiau eisteddfotol, Cymdeithas Taliesin (llenyddiaeth Cymraeg) a llawer mwy. Mae lleoli’r rhain yn yr un adeilad a’r llety yn arwain at llawer iawn yn mynychu’r fath cymdeithasau: mae dros 100 o fyfyrwyr yn y Côr Mawr yn aml. O fy safbwynt i fy hunan, bues yn cerdded heibio’r stafelloedd lle oedd y rhain yn digwydd, a nes i ymuno â llawer ohonyn nhw wedyn. Felly, dyma fi’n dysgu lawer am ddiwylliant Cymru, rhywbeth fyse fi fyth yn cael dysgu fel rhan o fy nghwrs academaidd.

Neuadd Pantycelyn gan Dogfael (Comin Creu)

Dw i ddim yn unig yn y fath bethau. Mae llawer o fyfyrwyr wedi dod i Bantycelyn o gefndir di-Gymraeg ac yno wedi gadael y Neuadd yn rhugl yn y Gymraeg. I lawer o Gymry hyd yn oed, sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol, mae byw ym Mhantycelyn yw eu profiad gyntaf o’r Gymraeg fel iaith fyw, dydd i ddydd. Yn Rali Fawr Pantycelyn, a gynhaliwyd yn mis Chwefror 2014, bu Adam Price yn ymhelaethu ar sut naeth ei frawd ddod i Bantycelyn a dysgu Cymraeg, gan ddweud bod hynny wedi ysbrydoli fe hefyd i ddysgu’r Gymraeg. Dychmyga pa mor wahanol fyddai gwleidyddiaeth Plaid Cymru pe tasai rywun mor ddylanwadol ag Adam Price ddim wedi dysgu Cymraeg! Mae’r Neuadd wedi newid llawer o fywydau, gan gynnwys iaith, diwylliant ac hwyluso cymdeithasu ac annog pobl i gymryd rhan.

Mae Pantycelyn wedi newid fy mywyd yn llwyr, ac wedi agor llawer o ddrysau i mi. Ac yn wir, dyna beth yw addysg. Dw i wedi dysgu gymaint – Y Gymraeg, y diwylliant Cymreig, sgiliau cymdeithasol – nad oedd gennyf cyfle i ddysgu (o leiaf i lefel uchel) fel rhan o fy nghwrs yn y Brifysgol. Dyma efallai’r swyddogaeth mwyaf mae prifysgol yn gallu cyflawni: darparu’r fath addysg drwy brofiadau, drwy’r ochr llety, ochr yn ochr gyda’r darpariaeth academaidd safonol.

Mae’r Brifysgol yn gorfod rhoi ystyriaeth arbennig i’r Gymraeg, o dan ei siarter frenhinol (4.5):

“rhoi sylw arbennig, gan weithredu ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag eraill, i anghenion addysgol Cymru, gyda golwg ar yr iaith Gymraeg a diwylliant, datblygiad economaidd a thraddodiadau cymdeithasol Cymru.”

Mae’r Brifysgol hefyd yn dweud eu bod yn awyddus i denu mwy o fyfyrwyr o Gymru i’r Brifysgol.

Mae Pantycelyn yn cyflawni’r amcanion yma fel y mae! Mae’n darparu profiad addysgol o’r Gymraeg ni cheir un rhywle arall yn y byd; mae’n Neuadd enwog ac eiconig sydd yn tenu darpar-fyfyrwyr o draws Cymru i’r Brifysgol. Yn aml, dydy darpar-fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith ddim yn sôn am mynd i Aberystwyth, mae’n nhw’n sôn am mynd i Bantycelyn. Dyma sy’n dangos pa mor pwerus o arf recriwtio a marchnata yw Neuadd Pantycelyn. Hefyd, mae gan y Brifysgol cyfrifoldebau arbennig, fel yr unig Prifysgol sydd yng nghanol Cymru, ddim yn bell o’r ffin rhwng gogledd a de, ac fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, i gynnal a chadw’r iaith Gymraeg yn y Brifysgol a’r genedl. Felly pe fyddai Prifysgol Aberystwyth yn cau Neuadd Pantycelyn, byddan nhw’n tanseilio’u strategaethau eu hunain ac wfftio eu cyfrifoldebau.

Addewidion Gwag 2015 - llun gan Erin Angharad Owen

Beth sydd angen ei wneud felly? Cydnabyddir bod angen gwaith adnewyddu mawr ar Bantycelyn, er enghraifft y tô a’r ffenestri, tra’n cadw’r strwythur a chymeriad sydd yn wneud yr adeilad yn hwb i’r iaith a diwylliant Cymraeg. Mae’r Neuadd yn haeddu’r fath buddsoddiad, gan bod hyd yn oed awdurdodau’r Brifysgol yn cyfaddef bod diffyg buddsoddiad yn y Neuadd wedi bod ers blynyddoedd. Felly mae angen gosod amserlen pendant i wneud y gwaith yma. Tan hynny, mae angen cadw’r Neuadd ar agor, i sicrhau na chollir y cymuned arbennig sydd ynddi.

Fel hyn, mae’r Brifysgol yn gallu gweithio tuag at gyflawni ei hamcanion a’i chyfrifoldebau, ac mae pobl fel fi’n gallu cael profiad anhygoel. Hyd nes bod hynny’n digwydd, mae’r brwydr Pantycelyn yn parhau.

Lluniau gan Keith Morris (caniatâd), Dogfael (Comin Creu) ac Erin Angharad Owen (caniatâd)

6 sylw ar “Pantycelyn: Addysg ar ei orau”

  1. Nid oes dim i’w ychwanegu i hyn.

    Nid yw’n bosib cyfiawnhau gwadu profiad o’r fath i fyfyrwyr y dyfodol.

    Bydd cau y neuadd yn brawf o sefydliad sydd wedi ymadael a phob ymhoniad o synnwyr ac empathi, ac yn methu yn ei hymrwymiad i’r gymuned a’r wlad y lleolir hi.

  2. Ni allaf feddwl am well siaradwr ar rhan Pantycelyn na Jeff! O’r galon ac yn esbonio’n union pam mae’r neuadd yn allweddol i ddyfodol yr iaith yn Aberystwyth a’r gymuned unigryw sy’n ei siarad.

  3. Dydy’r frawddeg yn y Daily Post heddiw ddim yn gyflawn rhywsut:

    ”They refuse to leave the Pantycelyn Hall which is dedicated to Welsh language speakers […]”

    Mae pobl yn cael byw mewn cymuned Cymraeg ac yn gadael Pantycelyn fel siaradwyr Cymraeg rhugl, dyna’r pwynt, gan gynnwys pobl sydd ddim yn siarad llawer o Gymraeg o gwbl a phobl sydd ddim yn hyderus – fel ti’n dweud Jeff.

    Pob lwc/bendith i’r ymgyrch.

  4. Mae’r Hybarch Jeff Smith wedi bod yn ffigur amlwg yn fy mywyd ers imi fynd drwy ddrysau Neuadd Pantycelyn am ytro cyntaf ryw bum mlynedd yn ôl, yn las fyfyriwr ac eto yn fyfyriwr aeddfed. Efô a chriw Cell Pantycelyn ar y pryd a ddaeth â mi i mewn i fywyd Cymraeg Aberystwyth. Ymaelodais â Chymdeithas yr Iaith a chymryd rhan mewn amryw ymgyrchoedd gan gynnwys meddiannu mynedfa adeilad S4C yng Nghaerdydd, os yw’r brithgof hwnnw o’m blwyddyn gyntaf yn iawn. Ond dim ond yn ystod y misoedd, yr wythnosau diwethaf yn hytrach, y deuthum i adnabod Jeff Smith fel cyfaill, fel enaid hoff gytûn, dyn rwy’n cyd-weld ag ef ar bob pwnc ymron. Meddyliwr craff a phraff, dyn diymhongar, gostyngedig sydd wastad yn gwneud yr hyn a wêl yn iawn menw dull tawel di-lol diffwdan. Jeff Smith, gwyddonydd a gwleidydd o Gymro Cymraeg, y mae’n fraint gennyf ei alw’n ffrind. Ysbrydoliaeth gyson i lawer, dyn a gâr ei wlad a’i pobl, heb fynnu sylw, heb fynnu dim, oherwydd iddo ef, ymddengys imi, y cariad sy’n llywodraethu yn ei galon ac y sy’n ysgogi pob gweithred o’i eiddo yw’r wobr fwyaf, yr un wobr y mae’n ei deisyfu. Jeff Smith a Phantycelyn, dyn a lle, dyn o blith dynion a merched ardderchog y lle rhyfeddol hwn.

Mae'r sylwadau wedi cau.