Buddugoliaeth Datblygu yn Ngŵyl CAM 2015

Datblygu

Mae hi’n anodd dychmygu sut allai Datblygu wedi gwella eu perfformiad yng Nghanolfan y Mileniwm fel rhan o Ŵyl CAM 2015. O’n i’n nerfus drostynt am y gig, yn enwedig wrth ystyried y lleoliad anarferol, y bwlch oddeutu 20 mlynedd ers eu gig diwethaf fel grŵp ac yn amlwg, yr holl heriau personol sydd wedi bod yn y cyfamser.

Nid Datblygu yw’r math o grŵp sy’n chwarae hits ac encores. Os ydych chi eisiau gweld y math yna o beth, ewch i weld Bruce Springsteen. Neu Edward H. Mae hen ddigon o bwyslais ar y gorffennol yn y prif ffrwd fel y mae.

Dyma’r rhestr o ganeuon:

1. Llawenydd Diweithdra
2. Y Llun Mawr
3. Mynd
4. Nesaf
5. Nid Chwiwgi Pwdin Gwaed
6. Slebog Bywedeg
7. Gwenu Dan Bysiau 2015

Dyna sut mae grŵp mor arloesol yn parchu eu trosiadau a pharhau i ddilyn eu hegwyddorion sylfaenol. Byddai Cân i Gymry, er enghraifft, wedi cyfeirio at raglenni sydd ddim yn bodoli bellach ac mae gan Dave yr hawl i fyw yn y presennol trwy’i eiriau. Fel mae’n digwydd clywais wrth rhywun bod e am fod yn westai ar Heno rhywbryd. Yn ôl y sôn mae fe’n ffan mawr o’r rhaglen. Annwyl gynhyrchwyr Tinopolis, rydych chi’n gwybod beth sydd eisiau.

Dw i mor falch bod Dave a Pat wedi goroesi ac yn ôl ar y llwyfan, ac yn cael y sylw haeddiannol o’r diwedd – wrth rhai o bobl ta waeth. Wrth gwrs mae angen clodfori Gŵyl CAM am y digwyddiad yn ei gyfanrwydd. Ond doedd bron dim sylw yn y wasg i ddychweliad Datblygu hyd y gwn i. Fel cerddorion mae Datblygu yn cynnig celf, nid adloniant, ai dyna sy’n annymunol i fwy nag un cenhedlaeth o gynhyrchwyr a golygyddion ers yr 80au?

Mae angen sôn am y deunydd newydd. Mae’r albwm Erbyn Hyn yn benigamp – maen nhw wedi diweddaru’r themâu a’r ffyrdd o gynhyrchu curiadau a seiniau. Yn y bôn rydym yn cael Datblygu 2015.

Roedd sain y sioe neithiwr yn benigamp, roedd modd clywed pob un gair. Ar y sgrîn roedd hen fideo o rywbeth sy’n edrych fel Dechrau Canu Dechrau Canmol (sawl person yn y cynulleidfa a welodd mamgu neu dadcu ar y sgrîn?) gydag effaith gweledol o bennau pobl yn toddi – mewn ebargofiannau neu enfysau, mae’n anodd dweud.

Dyna ydy buddugoliaeth – tua 25 munud o berffeithrwydd dros saith cân. Chwaraeodd Datblygu y caneuon roedden NHW eisiau chwarae. Mae’r cliw yn yr enw; maen nhw yn symud ymlaen. Mae’r gorffennol yn rhy boenus ta waeth.

Diolch i Turnstile am y llun.

6 sylw ar “Buddugoliaeth Datblygu yn Ngŵyl CAM 2015”

  1. Welais i ddim y rhagolwg ar WalesOnline cyn heno. Chwarae teg iddynt am roi sylw i’r ŵyl a’r band!

Mae'r sylwadau wedi cau.