Adolygiad: Amgueddfa Hergé, Louvain-la-Neuve, Gwlad Belg

Smwtyn

Ma’r rhai sy’n fy nabod, yn gwybod mod i’n chydig o nyrd am rai pethau, ond falle’r peth dwi’n fwya o nyrd amdano yw rhywbeth digon plentynaidd, efallai, ym meddwl rhai. Dwi’n un o’r bobol hynny sydd wedi cael eu magu ar gomics ac sydd wedi methu gollwng fynd o’r hud hwnnw wrth fynd heibio fy arddegau i fod yn oedolyn. Tintin ydi’r comic hwnnw i fi.

Cyfieithiad Gwasg y Dref Wen

Mae gen i beth cyfiawnhad am fy obsesiwn, roedd gen i eczema gwael pan o’n i’n blentyn bach ac er mwyn stopio fi i grafu fy hun yn amrwd, roedd fy nhad yn darllen llyfrau Tintin i fi cyn mynd i gysgu. Un Saesneg (The Shooting Star), un yn fras iawn o Ffrangeg (Coke en Stock), a’r holl rai Cymraeg a gyhoeddodd Gwasg y Dref Wen ar droad y 70au / 80au, ac a gyfieithwyd gan Roger Boore (hefyd yn enwog am genhedlu Alun Boore, canwr y band Cofion Ralgex, a Rhys Boore, canwr y band pync U-Thant, oedd hefyd yn gyfrifol am ddyfeisio Ayatollah Cardiff City). Mi ges i nhaflu i fyd rhyngwladol, cyffrous y cyw-newyddiadurwr yn 3 oed ac mae’r delweddau’n dal i afael rwan. Ond rwan, wrth ddarllen rhai llyfrau am yr hanner canfed tro, siwr o fod, dwi’n dal i weld haen ar ôl haen ynddyn nhw wrth wneud cysylltiadau a’m gwybodaeth am sinema, hanes gwleidyddol y byd, a’r gwerthfawrogiad o’r dyluniadau sinematig sy’n cyfleu symudiad yn well na llawer iawn o  artistiaid eraill.

Mi dwîtiodd Leusa Fflur rhyw wythnos nol yn dweud ei bod wedi dysgu bod ffasiwn beth â “Tintinologist”. Wel, mi faswn i’n honni fy mod i’n un petawn i ddim wedi darllen gwaith anhygoel pobol fel Michael Farr a Pierre Assouline sydd yn dadansoddi pob llyfr, a fframiau unigol, yn gelfydd gan roi’r cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol, hanesyddol, gwyddoniaethol, celfyddydol a phersonol (cefndir Herge ei hun). Dyna yw Tintinoleg – tynnu dealltwriaeth o bob math y ddisgyblaethau allan o gyfres o stribedi comic wnaeth redeg dros hanner can mlynedd y gellir eu hystyried ymysg y mwyaf ysgytwol yn y fileniwm ddiwethaf (1930-1983).

Adeilad yr Amgueddfa

Ond ta waeth am y cyfiawnhad, wythnos dwetha mi ges i wireddu dymuniad oedd wedi bod yn deor ers tipyn – ymweld ag Amgueddfa Tintin yng Ngwlad Belg (wel, Amgueddfa Hergé, a bod yn gwbl gywir, a ddown ni at hynny nes mlaen).

Ro’n i ym Mrwsel ac yn cael cyfle i warchod y plant (1 a 4 oed) tra bod E. yn gweithio yno. Roedd rhaid felly mynd am sgowt i weld yr Amgueddfa. Mae hi wedi ei lleoli yn Louvain-la-Neuve, sydd tua awr ar drên uniongyrchol o ganol Brwsel. Roedd yn hawdd ei ffeindio (5 munud o’r orsaf) a cawsom ni bicnic braf yn y parc ar y ffordd, oedd yn llawn myfyrwyr Prifysgol yn sgwrsio a byta brechdanau. Mae Louvain-la-Neuve yn dref newydd lle mae’r Brifysgol yn cymryd drosodd, nid anhebyg i sefyllfa gymdeithasol Aberystwyth.

Y Cyntedd

Mae’r adeilad ei hun, gan y pensaer Christian de Pontzamparc, yn newydd sbon ac yn drawiadol o fodern ac onglog fel ma’r ffasiwn. Roedd yn fy atgoffa ychydig o adeilad y Cinémathèque Francaise gan Frank Gehry, neu du mewn Canolfan y Mileniwm efallai. Wrth gerdded mewn mae gofod enfawr at y to gyda waliau’n llawn o luniau abstract, cymylau, tonnau môr neu greigiau efallai, sydd yn adnabyddus yn syth fel arddull ‘ligne claire‘ Georges Rémi, neu Hergé i bawb yn y byd (mae’r enw Hergé yn chwarae ar briflythrennau ei enw go iawn G.R. wedi ei troi am yn ôl R.G.).

Yr ail hoffl lyfr!

Roedd yno hefyd dŵr Tibetaidd oedd yn dynodi bod yr arddangosfa arbennig am ddiwylliant Tibet yn seiliedig ar lyfr Tintin a’r Dyn-eira Dychrynllyd (Tintin au Tibet). Gan taw hon yw fy ail hoff lyfr (Y Cranc a’r Crafangau Aur yw Rhif.1), roedd yn argoeli’n dda. Yn ôl y pensaer roedd yr adeilad i fod i ymdebygu i long Fitzcarraldo, yn torri trwy jyngl yr Amazon. Mi alla i weld y synnwyr na o antur tu mewn hefyd gyda sawl ‘gangplank’ uchel yn cysylltu ardaloedd arddangos sy’n rhoi teimlad chwareus i’r adeilad.

Roedd yr arddangosfa am y Tibetiaid ar y llawr gwaelod yn arbennig. Cafodd Ll. a P. eistedd a gwylio cartwn y llyfr Tintin au Tibet a chefais innau flas ar ddiwylliant y wlad a’u hanes torcalonnus, wrth iddynt geisio ymwrthod trefedigaethu’r Tsieniaid a dal mlaen i’w diwylliant a’u hiaith. Doedd y dehongli ddim yn osgoi’r gwleidyddol, gan roi achos y Tibetiaid yn ddigon eglur. Da iawn felly, mlaen at y brif arddangosfa.

Y peth cynta darodd fi oedd y ffurfioldeb gan y staff – dim camerau, dim rycsac, a bod P. fod i aros yn y goetsh. Ro’n i’n meddwl mod i wedi dod mewn i amgueddfa cartwnydd, nid mawsolewm. Gan obeithio na fyddai’r un gor-barchusrwydd nes mlaen, dyma ddechrau arni. Wrth fynd mewn roedd tua cant o sgriniau bychain crwn mewn coridor tywyll yn newid bob yn hyn a hyn yn dangos ffram neu wyneb rhyw gymeriad a cafodd Ll. a fi dipyn o hwyl yn adnabod y rhai oedden ni wedi eu gweld.

Quick et Flupke, cyfeillion Tintin o’r Petit Vingtieme

‘Chydig yn sych oedd y rhan nesaf oedd yn gosod hanes Hergé mewn llinell amser – efallai pe bawn i heb blant byddwn i wedi cael amser ond roedd rhaid symud symud at y cartwn nesa er mwyn cadw ei diddordeb. Roedden nhw hefyd yn trafod dipyn ar gymeriadau eraill Herge, fel Quick et Flupke a Totor, ond y cwestiwn ar bob un oedd: “oedd hwn yn Tintin Dad?”. Wedi laru chydig ar ddweud “na”, mlaen a ni reit sydyn. (Gyda llaw: roedd P. yn cysgu yn y goetsh erbyn hyn, a mi gysgodd nes i ni gyrraedd darn olaf yr amgueddfa).

Ond yna cawsom ni fynd drwy stafell am brif gymeriadau Tintin a chael esboniad o’u datblygiad a nifer o stribedi eiconig ohonynt. Digon diddorol a’n ffordd dda o ddod â rhywun nôl mewn i’r fyd Tintin, ond y darn nesaf oedd yn plesio ni’n dau sef dehongliad o ddylanwad byd sinema ar Hergé, a rhaio’i lyfrau yn benodol. Roedd yno glipiau o ffilmiau fel King Kong a The 39 Steps – a ddylanwadodd ar Yr Ynys Ddu, A Night at the Opera – a ddylanwadodd ar Y Cranc a’r Crafangau Aur, Captain Blood – a ddylanwadodd ar Trysor Rackham Goch / Cyfrinach yr Uncorn ac eraill oedd wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar stribedi a chymeriadau. Roedd yn hawdd wedyn i Ll. weld y cysylltiad rhwng y filmiau a’r comic wrth wylio clipiau fideo o’r ffilmiau. Roedd y clip o animeiddiad Willis O’Brien o King Kong yn dinistrio trên yn Efrog Newydd yn syrpreis hit, ac roedd yn dda gallu cael rhywbeth cwbwl weledol i ni drafod.

Roedd yna sinema yno yn dangos rhai ffilmiau dogfennau am Herge, ac am y Dalai Lama, ond ma Lleucu ofn sinemas ar hyn o bryd felly dyna ddiwedd ar hynny. Un elfen wych oedd sgrin werdd lle roedd modd rhoi eich hunain mewn ffrâm o un o’r comics, a’i ebostio’n syth at rywun. Wrth gwrs, o flaen llong y Karaboudjan roddais i fy hun, a’i anfon at fy mrawd sydd yn aficionado Tintin cystal â fi ac oedd yn deud “Karaboudjan” cyn droiodd o 4.

Rascar Capac – y mymi Perwaidd

Lawr staer wedyn at lefel oedd â thema daearyddol/hanesyddol gyda digon ar gyfer llygaid chwilfrydig plant: lluniau 3D o mummies Perwaidd arswydus a’r cerfluniau pren  a ysbrydolodd y cerflun sy’n MacGuffin y llyfr Tintin and the Broken Ear; rhyw fath o beiriannau stereoscope lle gallech chi edrych ar gyfres o hen luniau sepia o’r Aifft, China, India a’r Himalayas mewn tri dimensiwn, oedd yn arbennig o dda; dau ddrych gwirion oedd yn gneud chi’n dal ac yn fyr: wastad yn laff efo plant;  a llwyth o arteffactau pobloedd brodorol America’r Gogledd a’r De oedd yn cynnau’r dychymyg ac yn dychryn chydig yr un pryd.

Yma hefyd roedd cornel fach yn chwarae cerddoriaeth dan chandelier anferth oedd wedi ei greu o blatiau bach gyda gwyneb pob cymeriad posib o lyfrau Tintin arnynt. Roedd y gerddoriaeth o gasgliad Hergé, ac roedd ei vinyls ar y wal mewn cas gwydr: Keith Jarrett (iei am jazz!), Pink Floyd (iei am odrwydd!), Shirley Bassey (iei am Gymraes!), Louis Armstrong (iei eto am jazz!), The Police (iei am, ym…Sting?). Roedd ganddyn nhw hyd yn oed hen decks Hergé yno. Roedd y chief yn dweud os nad oedd yn gwrando ar gerddoriaeth tyra’n dylunio yna byddai’n chwibanu cân. Chydig yn weird cael rhywbeth mor bersonol yno falle, ond eto nes i joio.

Llong danfor gwrth-siarcod Dr. Penchwiban

Yn y stafell nesa, roedd y pwyslais ar beirianneg a gwyddoniaeth gyda nifer o ddyfeisiau Dr. Penchwiban (fydd yr enw newydd Cymraeg Effraim Efflwfia byth yn sticio i fi sori!), a hanes anturiaethau fel Destination Lune ac On a Marche sur la Lune. Yn arbennig o gyffrous i’r ddau ohonon ni oedd model maint llawn o long danfor siap siarc oedd yn greadigaeth Dr. Penchwiban o lyfr Trysor Rackham Goch. Oedd y thing yna yn badass, ac o’n i jest isio mynd ynddo fo dan y môr ar reef trofannol.

Un o ddyluniadau Art Deco Herge

Yn ôl wedyn at stafell arall oedd eto’n canolbwyntio ar grefft Hergé a’i stiwdio ddylunio, Atélier Hergé. Gwnaeth lawer iawn o waith dylunio llyfrau / posteri ac yn y blaen yn ei ddyddiau cynnat oedd yn art deco o’r radd flaenaf. Aeth mlaen hefyd i fod yn baentiwr o fri ond er y gwyddai bod ganddo’r gallu i baentio fel proffesiwn, credai ei fod ond yn gallu gwneud cyfiawnder ag un celf, ac roedd eisoes wedi rhoi sawl degawd mewn i un sef comics.

Yn anffodus chafodd ei hoffter o gelf gyfoes ac arbrofol ddim ei wyntyllu ei drwy ei lyfrau gan i Hergé farw tra’n ysgrifennu ei lyfr olaf – Tintin et Alph-Art – oedd yn union am y byd celf hwnnw ac a gyhoeddwyd ar ffurf anghyflawn ym 1986. Doedd desg Hergé (desg blaen fawr Sgandinafaidd yr olwg mewn chrome a phren) ddim o lot o ddiddordeb i Ll. yn amlwg (“Pam bod y ddesg mewn cas gwydr Dad? Ma gennai ddesg Hello Kitty adre does Dad…”), na’r prototypes ar gyfer cloriau llyfrau (“Pam bod y geiriau ddim yna?”), ond peth braf i fi oedd gweld y dŵdls swreal a proto-gymeriadau yn datblygu ar ochrau’r tudalennau hynny. Gwers: dŵdlwch. Mae dŵdlo yn holl bwysig.

Y stafell comics

Roedd Ll. yn dechrau fflagio a P. yn dadebru wrth gyrraedd y pen, ac yna roedd campwaith weledol yr arddangosfa i fi. Stafell gron fechan gyda tho uchel, gyda llyfrau Tintin mewn degau o ieithoedd yn ymestyn at y to a’r holl ffordd rownd. Reit rownd y llawr ar ochr y stafell roedd drych, felly wrth edrych i lawr, fe welwch chi lyfrau Tintin yn disgyn fel clogwyn oddi tanoch chi hyd inffiniti. Roedd yr hud a lledrith yn ddigon i neud i Ll neidio ac ro’n i’n falch iawn, ar ôl gosod y dasg i Lleucu o ffeindio un Cymraeg, o weld bod na un yno. Roedd un bach ger y llawr: sef argraffiad 2008 o Mwg Drwg y Ffaro gan Dalen Cyf (cyfieithad gan Dafydd Jones).

Un o’r cyfieithiadau Cymraeg diweddar gan Dalen

Mae’r llyfr hwnnw yn un rhan fach o jigso byd eang ymerodraeth hawlfraint a chyhoeddi Moulinsart, sef cwmni cyhoeddi Tintin, a’r cwmni sydd wedi masnacheiddio Tintin i’r eithaf a gyda mileindra teriar ar adegau. Does dim angen edrych ymhell iawn nes gweld Tintin yn cael ei Disney-eiddio. Ond am y tro, roedd cael y Gymraeg yn rhan fechan o’r darlun yn beth da, ac roedd gallu dangos i Ll. ein bod ni’n ffitio mewn i’r byd rhyfedd globlaeiddiedig ma mewn ffyrdd mor amryfal â chomics yn dda hefyd. Mae Tintin a Hadog yn siarad Cymraeg i Lleucu, mae’n foi o Wlad Belg sy’n siarad Cymraeg i fi, dal i fod. A deud y gwir alla i ddim gweld Hadog fel dim byd ond Cymro. Felly roedd y stafell ma oedd yn dangos ieithoedd gwych y byd a’n lle ni’n y plethwaith hwnnw yn rhoi arwyddocad tu hwnt i symlder arwynebol ffandom comics. Ydw i’n gorddeud? Falle. Ond mae’r llyfrau ma i raddau wedi lliwio fy mywyd drwy gyniwair llygad am ddelweddau sinematig a blys am antur (a chydig ddrygioni – Hadog ydi seren y sioe i fi wrth gwrs) felly pa ryfedd mod i’n gweld y byd drwy sbectolau Tintinaidd bob yn hyn a hyn?

Roedd un dyfyniad yn arbennig yn yr arddangosfa wnaeth fy nharo. Roedd y dyfyniad gan rhyw fôrdeithiwr enwog Ffrengig oedd yn dweud ei fod wedi cael ei fagu yng nghefn gwlad ond bod comics Tintin wedi magu cymaint o flas y môr arno ei fod wedi gorfod mynd i forio, a’i fod ar ei holl deithiau i’r llefydd oedd wedi eu cynnwys yn straeon Tintin, erioed wedi cael ei siomi, am bod lluniau Herge mor real, mor driw i realiti, yn eu ffordd eu hunain. Dyna ddweud mawr de.

Yr unig bryder oedd gen i wrth feddwl nôl efallai oedd bod na beryg bod yr amgueddfa ma’n cwlt of Herge, ac nid yn canolbwyntio ddigon ar y pethau sydd yn gwneud Tintin yn ddiddorol sef y byd sy’n cael ei greu o fewn y tudalennau. Wrth gwrs, mae deall Herge yn cyfoethogi darllen ac mae angen parch at ei waith, ond o weld profiad Lleucu, nid Herge mae plant yn caru, ond cymeriadau Tintin. Efallai bod angen i’r Tintinolegwyr feddwl chydig mwy am hynny.

Ond, mân beth yw hynny – os mae llyfrau Tintin erioed wedi gafael ynddoch chi, ac os ewch i Frwsel, mae wir yn werth cymryd pnawn allan o’r ddinas i fynd i’r amgueddfa hon. Dwi’n gobeithio ga’i fynd nol eto cyn i’r plant dyfu fyny. Efallai ambell dro eto ar ôl iddyn nhw dyfu fyny ‘fyd.

2 sylw ar “Adolygiad: Amgueddfa Hergé, Louvain-la-Neuve, Gwlad Belg”

  1. Wedi mwynhau’r adolygiad, a Hedydd eisiau mynd yno. Mi fuo yn 5 oed, ond ddim yn
    meddwl mai hwnnw oedd yr un lle, felly bydd rhaid ymweld eto! Mae ganddo lyfr Michael Farr, a’i hoff lyfr yw Tintin and the Secret of the Unicorn. Ydi hynna’n ei wneud yn Dintinolegydd?? Does gen i ddim lluniau o’r ymweliad a Brwsel gan i’m camera gael ei ddwyn yn syth wedi gadael yr amgueddfa.

  2. Diolch am y sylw. Dwi’n meddwl ei fod ar y llwybr i fod yn Dintinolegydd os mae ganddo lyfr Michael Farr! Falle gawn ni sgwrs am Tintin rhyw dro Hedydd.

Mae'r sylwadau wedi cau.