Ga’i Fod..? Cynhyrchiad gan Theatr Bara Caws #adolygiad

Fe es i weld cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Ga’i Fod..?, yr wythnos diwethaf. Am brofiad!

Drama ydoedd, nid ar lwyfan ond mewn llannerch yng nghanol coed Glynllifon. Yr oedd yn ddrama wedi ei gyfieithu o’r Iseldireg wedi ei gyfieithu i’r Saesneg ac yna i’r Gymraeg a chafodd ei ‘chymreigio’. Yn ôl yr awdur gwreiddiol a oedd yn siarad mewn cyfweliad ar raglen Pethe ar S4C yr oedd hyn amlycaf yn ffurfioldeb y modd yr ydym ni’r Cymry yn cyfarch ein gilydd!

Yr oedd y ddrama yma yn un digri a diddorol, yn ymchwilio i ba mor bell yr ydym ni wedi ein hestroni o reddfau naturiol ein hunain yn y ‘ras llygod ffrenig’ sydd ohoni heddiw. Mae’r bobol yma yn mynd ar benwythnos i goedwig i gogio bod yn anifeiliaid gwyllt, a gyda chanlyniadau difyr… Yr oedd pawb yn chwerthin drwyddi ond erbyn y diwedd yr oedd tensiwn anghyfforddus o’r hyn a dystiasom yn y diweddglo.

Tua’r diwedd mae ochor ‘anifeilaidd’ un cymeriad yn ei feddiannu ac yn sydyn reit mae chware’n troi’n chwerw ac mae pethau yn mynd rhy bell..

Mae’r gwisgoedd yn wych a’r defnydd o’r llannerch goediog yn greadigol iawn. Profiad unigryw oedd gweld y sioe yma, ewch i’w weld!

Fe fydd Ga’i fod..? yn cael ei pherfformio yn Tŷ Henblas, Ynys Môn hyd at Gorffennaf 21ain. Rhagor o fanylion a thocynnau

Awdur: Heledd Melangell Williams

Dwi'n byw yng Nghaerdydd ac yn hoff o hip-hop a cherddoriaeth electroneg yn bennaf. Yr wyf hefyd yn blogio yn Saesneg i Radical Wales ynglŷn â gwleidyddiaeth adain chwith.