2 sylw ar “Dyl Mei: pam fod y sîn cerddorol Cymraeg yn debyg i Doctor Who”

  1. [Methu postio hyn ar flog Dyl. Dw i wedi torri disqus, sori.]

    Erthygl wych, Dyl.

    Ar y busnes “gigs Cymraeg”, wi’n cytuno â Charlos; gormod o bobl yn mynd at gigs uniaith Cymraeg er mwyn slotian a chymdeithasu yn unig, heb unrhyw ddiddordeb yn yr artistiaid. Dim byd yn bod â hynny ynddo ei hun, ond mae’n poen os wyt ti wir eisiau gwrando. Cofio mynd i Gaerfyrddin i weld Gai Toms a methu clywed dim byd dros y “heia cyws” o bob cyfeiriad o’m cwmpas. Dw i bron byth yn boddran mynd at “gigs Cymraeg” am y rheswm hyn. (Wnaeth yr un peth yn digwydd i fi yn ystod set Colorama yng ngwyl Nôl a Mlan Llangrannog; un o’r *trefnwyr* oedd yn trial siarad â fi a finne’n ceisio gwrando ar y band.)

    Ar y llaw arall, dw i wrth fy modd gwylio bandiau Cymraeg yn y Dyn Gwyrdd ac ati. Pobl sy wedi mynd ‘na i *wrando* yw’r rhan fwya o’r cynulleidfa, ac os dyn nhw ddim yn hoffi’r band, bant â nhw i un o’r llwyfannau eraill i ffeindio band maen nhw yn lico.

    Wedodd Dave Datblygu unwaith (ar y bootleg hyn): “I’ve forgotten my words. Just flattered to have an audience really.”

    (A meddwl, am y tro cyntaf, am y gwahaniaeth yn ystyr y gair Saesneg “audience” a’r Gymraeg “cynulleidfa”.)

  2. Wedodd Dave Datblygu unwaith…

    …mewn gig yn Lloegr.

    Dyna oedd pwynt y dyfyniad. Rhag ofn bod hynny ddim yn glir. ‘Chos dyw e ddim yn wneud sens, fel arall. Iawn? Gwd.

Mae'r sylwadau wedi cau.