Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Eisteddfod Genedlaethol gyda Prosser Rhys 1924

Cofnod diddorol gan Rhys Wynne gyda’r gyfrinach (ymchwilia ychydig a thrio rhywbeth):

Er mawr syndod gofynnwyd i mi feirniadu un o gystadleuaeth ar gyfer Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2010.

Mae beirniadu (a chystadlu ran hynny) yn beth gwbl newydd i mi, felly awgrymwyd fy mod yn edrych ar gopi o Gyfansoddiadau a Beirniadaeth blynyddoedd cynt i weld pa arddull i’w ddefnyddio a.y.y.b.

Doeddwn i ddim yn gwybod am y llyfryn hwn, ac roedd yn reit diddorol, achos ar gyfer rhai cystadlaethau, roedd y darn buddugol hefyd yn cael ei gyhoeddi. Sylwais nad oedd fawr neb yn cystadlu mewn rhai cystadlaethau. Baswn i falle wedi ceisio un neu ddau fy hun, ond wyddwn i ddim am eu bodolaeth.

Dyma un o wendidau’r Eisteddfod, sef nad yw lot o bethau fel y testunau ddim yn cael hyrwyddo’n dda iawn, felly mond eisteddfodwyr hard-core sy’n gwybod pryd a ble i edrych am restr testunau.

Darllena’r cofnod gan Rhys Wynne am mwy o wybodaeth.

Gwela i ti ar y llwyfan yn 2011.

4 sylw ar “Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol”

  1. Uffern o foi oedd Prosser Rhys (yr un sydd newydd gael ei goroni yn y llun).

    O’r Wicipedia: Bu llawer o ddadlau ynghylch ei bryddest fuddugol, Atgof, oherwydd ei bod yn trin rhyw, yn cynnwys rhyw hoyw, mewn dull plaenach nag yr oedd rhai yn barod i’w dderbyn.

  2. Diddorol, dylai rhywun creu llinell amser arlein o’r Eisteddfod Genedlaethol trwy’r blynyddoedd. Dw i eisiau gwybod mwy am ddigwyddiadau ond weithiau mae’n anodd ffeindio’r manylion.

  3. Byddai hynna’n syniad da fel rhywbeth i’w i’w ychwnaegu at erthygl Wicipedia ‘Eisteddfod Genedlaethol’. Byddai’n dd ai nodi cerrig milltir, fel Mes B cyntaf, cyflwyno alcohol
    am y tro cyntaf, tro alaf allan o Gymru, tro cyntaf i ferch ennil y gadair (os oed dyn ddigwyddiad cymharol hwyl – sbiwch sexist ydyw !)

    Ar y Wicipedia Cymraeg, mae erthygl unigol rwan bron ar gyfer pob Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi eu cynnal. Mae’r wybodaeth arnynt yn reit sylfaenol (enwau ennilwyr y gadair a’r goron a teitl eu gwaith). Baswn i’n licio ‘go to town’ arnynt a chreu gwybodlen (infobox) arbennig ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol yn cynnwys maylion fel enw’r archdderwydd, enw’r daliwr y cledd, ystadegau fel nifer ymwelwyr, arwynebedd y maes, cost cynnal, swm godwyd drwy’r gronfa leol ayyb. ‘Sdim ‘prosiectau’ arbennig ar y wicipedia Cymraeg, ond falle byddai hyn yn dal y dychymyg.

  4. Rhys, syniad da. Baswn i’n dosbarthu dy alwad taset ti’n gallu postio fe ar dy flog – neu Hacio’r Iaith, e.e. beth wyt ti eisiau gwneud ar Wicipedia, enghreifftiau – efallai enghraifft cryf o erthygl dda etc.

Mae'r sylwadau wedi cau.