Rupi Kaur – byd y bardd Instagram

‘our backs
tell stories
no books have
the spine to
carry’

Women of Colour – Rupi Kaur

Drwy ddamwain darganfyddais waith y bardd Rupi Kaur.

Crwydro Instagram oeddwn i un diwrnod pan ddes ar draws pytiau bychain o gerddi. Gwnaeth y cerddi argraff arnaf i yn syth.

Deuthum i wybod wedyn mai awdur y cerddi oedd un Rupi Kaur.

Dechreuodd hi ei gyrfa farddonol ar-lein drwy ddefnyddio amryw blatfform ar y cyfryngau cymdeithasol, megis Instagram a Tumblr, i ledaenu ei barddoniaeth.

Ganwyd Rupi Kaur yn Punjab yn India. Mudodd gyda’i rhieni i Toronto yng Nghanda pan oedd yn blentyn yn ffoaduriaid yn dianc rhag y trais â’r hil-laddiad yn erbyn y Sikhiaid yn Punjab.

‘for my father opportunity and time align a month after i am born. he takes his chance. knowing if he does not leave now he will end up imprisoned like his friends. tortured. dead. or perhaps all three in that same sequence. for the sake of survival my family beomes a footnote in history. one of those tens of thousands of punjabi sikhs fleeing punjab because of genocide.’
Where ‘Milk and Honey’ Began – Rupi Kaur

Yn angerddol dros arlunio, ysgrifennu a perfformio, ysgrifennodd hi gannoedd ar gannoedd o ddarnau o farddoniaeth gan berfformio ar hyd a lled Canada nes dod i gyhoeddi’r casgliad cyntaf o’i gwaith yn y gyfrol Milk and Honey yn 2014.

rupi-kaur-milk-and-honey

Rhenir y gyfrol i bedair rhan gyda phob pennod a phob darn o farddoniaeth yn mynd i’r afael â elfennau gwahanol o’r cyflwr dynol – poen a galar, torcalon, trais a chamdrin rhywiol, benywdod, cariad, colled a goroesiad.

Rhwng tudalennau’r gyfrol ceir darluniau hardd i gydfynd â rhai o’r cerddi a ddarluniwyd gan Rupi Kaur ei hunan sydd ddim on yn atgyfnerthu’r ffaith bod cyfanwaith yma.

Er bod ei harddull rhydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos yn syml nid oes ond angen edrych eto i weld bod ôl saerniaeth ac adroddwr stori i’w gwaith. Mwyhau ar ei llais croyw fel bardd wnaiff yr arddull dawedog. Dewiswyd a detholwyd y geiriau yn ofalus. Mae’r casgliad yn gyfoethog mewn dychymyg a delweddau ysgwytol a theimladwy – nid yn anhebyg i’r beirdd Warsan Shire a Nayyirah Waheed.

Ond eto mae Rupi Kaur yn lais unigryw a newydd ynddi hi ei hunan. Mae grym yn ei geiriau a grym yn ei hosgo a’i llais wrth iddi berfformio.

Ymdriniai ei gwaith gyda elfennau o fenyweidd-dra â’r profiad o fod yn ddynes yn bennaf, megis yr iachau a ddaw wedi treisio,

‘the rape will
tear you
in half

but it
will not
end you’

Mae cerddi eraill yn ymwneud a chariad, rhyw a rhywioldeb,

‘you
have been
taught your legs
are a pitstop for men
that need a place to rest
a vacancy, body empty enough
for guests ‘cause no one
ever comes and is
willing to
stay.’

Welcome

‘i can’t tell if my mother
is terrified or in love
with my father
it all looks the same’

Mae cyfuniad yma o hanesion a profiadau gwrthrychol a personol megis ei phrofiadau hi o fod yn ferch ac yn ffoadur,

‘skin the color of earth
my ancestors planted crops on
to feed a lineage of women
with thighs thick as tree trunks
eyes like almonds
deeply hooded with conviction
the rivers of punjab
flow through my bloodstream…’

Llwyddai i fynegi dynoliaeth a benywdod yn ei holl liwiau ac yn ei ffurf fwyaf amrwd a bregus ond eto hefyd mor gadarn a nerthol. Does dim cuddio tu ôl i unrhyw wyneb yma – mae’r cyfan ar gael yn gignoeth a gonest.

Mae rhywbeth hynod o ‘agos atoch’ am ei gwaith sy’n ei wneud yn ddarllen bron yn gathartig.

Yn ogystal â bardd ac arlunydd, mae Rupi Kaur hefyd yn ffotograffydd.

Yn ôl yn 2015 uwchlwythodd hi lun i Instagram o ddynes yn gorwedd mewn gwely gyda gwaed mislif ar ei dillad. Roedd y llun yn rhan o’i chyfres ar y mislif oedd wedi ei greu er mwyn herio camsyniadau cymdeithasol ac i wneud rhywbeth sydd yn naturiol yn ‘normal’ eto.

Cafodd y llun ei ddileu o Instagram ar ddau achlysur am nad oedd yn ‘dilyn [eu] Canllawiau Cymuned’ – canllawiau sydd yn gwahardd lluniau o drais, noethni a gweithredau rhywiol – ond heb sôn o gwbl am fislif.

Meddai Rupi Kaur mewn ymateb,

‘Thank you Instagram for providing me with the exact response my work was created to critique. I will not apologise for not feeding the ego and pride of misogynist society that will have my body in an underwear but not be ok with a small leak when your pages are filled with countless photos/accounts where women (so many who are underage) are objectified, pornified, and treated less than human….’

Ymddiheurodd Instagram a cafodd y llun ei ganiatau yn ôl.

Edrychaf ymlaen i weld ble’r aiff Rupi Kaur nesaf gyda’i barddoniaeth. Afraid dweud fod yma lais pwysig a pherthnasol o fewn barddoniaeth gyfoes ryngwladol.
Fel y dywedodd hi ei hun,

‘we all move forward when
we recognize how resilient
and striking the women
around us are’

Rupi Kaur: Gwefan | Facebook | Twitter | Instagram | YouTube

Twinfield: “Dwi’n creu popeth fy hun mewn un stafell fach…”

twinfield
Ymddangosodd artist pop electronig o’r enw Twinfield ar Soundcloud ychydig dros hanner flwyddyn yn ôl.

Dyma gyfweliad newydd gyda Twinfield am ei brofiad o fod yn artist solo a’i agweddau tuag at greu a rhyddhau cerddoriaeth yn 2016.

Fel prosiect solo, un unigolyn sy’n cyfrifol am bob elfen o brofiad Twinfield. (Yr unig eithriad i’r priodoliad ‘popeth gan Twinfield’ yw’r gân Ceri Dwi Angen Cysgu, cydweithrediad gyda’r grŵp Pop Negatif Wastad.)

Hyd yn hyn mae e wedi gwneud un gig cychwynnol fel rhan o’r Peskinacht olaf (perthynas sydd wedi bod ers ei gyfraniadau i label Peski fel aelod o’r grŵp VVolves).

Anfonodd Twinfield ei ymatebion i’r cwestiynau drwy e-bost ar 24 mis Mehefin 2016.

Y TWLL: Yn draddodiadol byddai dau aelod mewn grŵp pop electronig ond rwyt ti wedi profi bod y cyfan yn bosibl gydag unigolyn erbyn hyn. Mae disgrifiad y gân newydd Rhwng Cerrig a Phridd yn dweud ‘popeth gan Twinfield’ sydd yn awgrymu ysgrifennu, canu, samplo, chwarae, cynhyrchu a dylunio graffeg. Pa mor gynaliadwy yw Twinfield?

TWINFIELD: Dwi’n creu popeth fy hun mewn un stafell fach, a dwi wedi dysgu bron popeth technolegol o’r we. Mae’r ffordd yma o weithio yn cymryd lot fwy o amser a chanolbwyntio na chwarae mewn band, ond yn y diwedd mae’n creu darn o ‘waith’ llawer mwy personol yn fy marn i. Fi wir yn caru’r broses o greu rhywbeth o ddim byd a dwi wastad yn edrych am ffyrdd newydd creadigol i wneud hynny.

Bydd gwrandawyr siŵr o fod yn chwilfrydig am eiriau fel “siaradwyr Cymraeg / byth yn dweud y gwir / Dw i wedi cael digon / ar y gwenu ffug”. Beth yw dy bolisi ar ymhelaethu ar eiriau rhag ofn bod cylchgrawn Golwg neu raglen Heno am dy wahodd di i wneud eitem?

Gofyn ydw i “Siaradwyr Cymraeg, beth am ddweud y gwir?”. Rwy’ wedi mynd trwy’r systemau arferol cerddoriaeth Cymraeg o’r blaen a dwi ddim isie ‘neud hynny eto, mae’n lladd fy mrwdfrydedd i. Dwi isie cefnogi’r bobol sy’n neud stwff achos bod nhw’n caru cerddoriaeth nid achos bod nhw’n chwennych arian a ‘viewing figures’. Dyw’r cyfryngau ddim yn helpu cerddoriaeth Cymraeg mewn gwirionedd. Ma nhw’n chware’n saff ac yn ‘uncool’ trwy roi sylw i’r un bandiau crap trwy’r amser. Dwi am aros yn glir o glique y ‘sin roc Cymraeg’ a chanolbwyntio ar sgwennu cerddoriaeth dda Cymraeg fy hun.

Tua pob mis rwyt ti’n rhannu recordiad newydd o gân newydd ar dy gyfrif Soundcloud ac wedi troi lawrlwytho ymlaen ar bob un, chwarae teg. Dwedodd rhywun yn ddiweddar “It’s probable that the greatest song ever made is sitting on soundcloud with 23 plays.”. Mae rhannu gwaith cerddorol yn haws nag erioed, ac ar yr un pryd yn anoddach nag erioed. Unrhyw sylwadau am hyn?

Mae’n wych bod unrhyw un yn gallu creu a rhannu cerddoriaeth mor hawdd dyddie yma, ond bydd lot o hanes cerddoriaeth yn cael ei golli oherwydd does dim copi caled ar gael. Dyw rhywbeth digidol ddim yn sefydlog iawn, ond mae’n rhatach a fwy cyfleus na chreu finyl a CDs. Mae’n hollol nyts bod unrhyw un yn y byd sydd efo’r we yn gallu lawrlwytho tracs fi am ddim, a dwi isie i bobol fwynhau cerddoriaeth Cymraeg o ble bynnag ma nhw’n dod.

Mae naws dywyll i eiriau dy ganeuon a’r teitlau (Strydoedd Y Nos, Does Dim Byd I Wenu Amdano, Gwaed ar Gyllell, …). Ond mae pob un yn ddawnsiadwy iawn. Pa mor bwysig yw dawns yn dy fywyd?

Baswn i yn hoffi dweud bod rheswm dyrys am y gwrthgyferbyniad rhwyg y geiriau a’r gerddoriaeth, a falle bod ‘na, ond dwi ddim yn gwybod beth yw e. Dwi methu dawnsio ond fi wir yn mwynhau clybio nos. Adre rwy’n gwrando ar lot o gerddoriaeth electronig Ewropeaidd yr wythdegau, bandiau fel Deux a Telex, ma na hefyd band da o’r Alban o’r enw Secession, gwrandewch ar Touch (part 3) o 1984 mae’n wych!!! Rhaid cyfaddef fy mod i’n geek, dwi’n hoffi technoleg, synthesisers a pheirianneg electronig a dyna pam dwi’n meddwl bod diddordeb mawr gen i mewn cerddoriaeth dawns.

Bydd rhaid i mi ofyn beth sydd ar y gweill achos o’n i’n methu ffeindio unrhyw gyfrifon na thudalennau o wybodaeth heblaw am Soundcloud (heb sôn am unrhyw gynrychiolydd sy’n delio gydag ymholiadau ar ran y wasg). Beth sydd ar y gweill?

Dwi ddim yn bodoli ar y cyfryngau cymdeithasol, mae nhw’n wastraff amser. Os mae rhywun gwir isie cysylltu gyda fi byse nhw yn ffeindio ffordd o wneud. Dwi’n poeni am be sy’n dod nesa, ‘dwi ddim isie ymlacio a chwympo mewn i ‘comfort zone’. Dwi isie arbrofi lot mwy efo synthesisers a dysgu mwy am wyddoniaeth cerddoriaeth. Dwi ddim yn siŵr os dwi am neud mwy o gigs a dwi ddim yn siŵr os nai ryddhau record! Pwy a ŵyr cawn weld.

Dwy bennod o The Dragon Has Two Tongues, gyda Gwyn Alf Williams

Yn ystod y moment hon, gyfeillion, efallai bod y hanesydd radical Gwyn Alf Williams yn gallu cynnig rhywbeth o werth i ni – os nad cysur, yn sicr bach o ddoethineb.

Mae defnyddiwr YouTube o’r enw International School History newydd lanlwytho ddwy bennod o The Dragon Has Two Tongues mewn ansawdd weddol dda.

the-dragon-has-two-tongues-gwyn-alf-williams

Mae pobl wedi rhannu darnau o’r rhaglenni o’r blaen ond y tro yma mae’r ansawdd sain yn cyfleu’r dadleuon yn well, dehongliadau o’r Cymry sydd yn hollol wahanol rhwng Gwyn Alf a’r boi arall.

Darlledwyd y gyfres yn wreiddiol ar Channel 4 yn 1985 pan oedd cymunedau Cymru yn dioddef polisïau llywodraeth Margaret Thatcher yn sgil methiant yr ymgyrch i sefydlu senedd i Gymru yn 1979.

Bu farw Gwyn Alf yn 1995. Doedd i ddim o gwmpas i ymateb i’r oes datganoli ers 1997, na thrychineb 2016. Ond dyw hynny ddim yn ein hatal ni rhag dychmygu beth fyddai fe wedi dweud.

Haf o ffilmiau o Gymru: Y Llyfrgell, Mom and Me, The Lighthouse

Dros fisoedd y gwanwyn cafodd ffilm Gareth Bryn a Ed Talfan, Yr Ymadawiad, ei ryddhau ar hyd Cymru ac ymhellach, yn dilyn ac yn cynnwys dangosiadau yn yr UDA, Llundain a Caeredin.

Cafodd y ffilm adolygiadau gwych, ar blogiau personol, gwefannau adloniant, a chylchgronau a phapurau newydd megis The Guardian a Sight and Sound. Dipyn o gamp ar gyfer ffilm gymharol fach o Gymru. Tra ein bod ni’n disgwyl i weld beth sydd nesaf ar gyfer Yr Ymadawiad (rhyddhad Blu-ray, plîs!), mae dipyn mwy o ffilmiau Cymraeg ar y gweill dros yr haf.

Mae tair ffilm o Gymru wedi’i dewis fel rhan o raglen cyffrous yr Ŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin.

Cafodd Mom and Me, ffilm ddogfen am y perthynas rhwng dynion a’i mamau yn Oklahoma, sydd wedi derbyn adolygiadau gwych hyd yn hyn, ei ariannu gan Ffilm Cymru Wales a Bord Scannán na hÉireann, a’i gynhyrchu gan gwmnïau o Iwerddon a Chymru. Mae sôn bod cynlluniau i ryddhau’r ffilm dros yr haf rywbryd.

Ffilm arall sy’n dangos yn yr ŵyl, ac sy’n dangos cydweithredu Celtaidd iawn, yw’r ffilm Moon Dogs, cynhyrchiad rhwng Ffilm Cymru Wales, Creative Scotland a Bord Scannán na hÉireann. Mae’n ddrama am ramant ifanc, ac mae’r ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Philip John, sy’n adnabyddus am ei waith deledu ar gyfresi fel Being Human, New Tricks a Downton Abbey. Nid does dyddiad ar gyfer ryddhad cyffredinol ar gyfer y ffilm ar hyn o bryd, felly cadwch lygaid allan amdani.

Wrth gwrs, y dewisiad mwyaf cyffrous yn yr ŵyl yw Y Llyfrgell (neu The Library Suicides, fel mae’n cael ei adnabod), sydd wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn a’i ysgrifennu gan Fflur Dafydd yn addasu’i nofel ei hun. Yn serennu yn y ffilm yw Catrin Stewart, sy’n chwarae’r efeilliaid Ana a Nan, sy’n ceisio dial ar y dyn mae nhw’n credu gwnaeth achosi marwolaeth eu mam.

Bydd y ffilm yn dangos yn gyffredinol o Awst 5ed ymlaen, ac mae’n braf cael gweld lleoliad mor eiconig â’r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd mor ddiddorol yn y ffilm. Dyma thriller go-iawn, ac mae’r themâu o adrodd stori bywyd rhywun yn wir yn wych ar gyfer ei ymchwilio mewn ffilm fel hyn.

y-llyfrgell-fideo

Cyn hynny ym mis Gorffennaf, bydd ffilm ddiweddaraf Chris Crow – wnaeth cyfarwyddo Devil’s Bridge, Panic Button a The Darkest Day – yn cael ei ryddhau. Ynghyd â Y Llyfrgell a Just Jim (cafodd ei ryddhau blwyddyn ddiwethaf), cynhyrchwyd The Lighthouse fel rhan o brosiect Sinematig Ffilm Cymru Wales, sef partneriaeth rhyngddyn nhw a’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, Soda Pictures a S4C i gefnogi a hybu prosiectau ffilm cyffrous a newydd.

Mae The Lighthouse yn dod ag un o straeon mwyaf enwog hanes morwrol Cymru i’r sgrin fawr, sef hanes digwyddiad goleudy Ynys Smalls yn 1801, lle daliwyd y ceidwaid Thomas Howell a Thomas Gruffudd yno gan storom enfawr, nes i’r ddau droi’n wallgof. Mae’r ffilm yn gampwaith, gyda pherfformiadau gwych gan Mark Lewis Jones a Michael Jibson, ond hefyd drwy ail-greu’r goleudy, tu fewn a thu allan, mewn ffordd mor effeithiol.

Braf iawn yw cael cyfle i ddisgwyl am gymaint o ffilmiau o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn adrodd hanesion mor eang. Braf hefyd yw gweld prosiectau fel Sinematig yn cefnogi cynyrchiadau yng Nghymru, ac yn ei gweld nhw yn cael sylw fel mae Y Llyfrgell yng Nghaeredin.

Y gobaith felly, yw bod ffilmiau fel hyn yn cael cefnogaeth gan sinemâu ond hefyd gan gynulleidfaoedd – dim ond trwy gefnogi a gwylio ffilmiau o Gymru (rhywbeth sy’n wir am unrhyw ffilmiau ‘bach’ neu annibynnol neu amgen) gallwn ni sicrhau bod ein sinemâu’n parhau i’w dangos nhw, ac wedyn bod nhw’n parhau i gael ei gynhyrchu.

Yn bersonol, mae hyn yn bwysig iawn yn achos ffilmiau nad ydyn ni’n gweld yn aml iawn yn Gymraeg neu wedi’i leoli yng Nghymru, sef ffilmiau ‘genre’, fel The Lighthouse neu Y Llyfrgell. Falle ni fydd y ffilmiau’n bodloni chwant pawb, ond mae’n ddatblygiad gwych bod y math o ffilmiau’n cael ei gynhyrchu yma. Mi fydda i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at wylio’r ffilmiau ‘ma ar y sgrin fawr, lle maen nhw i fod i gael eu gweld, ac rwy’n gobeithio bydd llawer o bobol eraill yn gwneud yr un fath.

Mae Y Llyfrgell ar Facebook a Twitter ac mae The Lighthouse ar Facebook a Twitter. Cadwch lygaid allan am wefan newydd prosiect Sinematig.