Skamma: curiad ar dy ffans fel Cantona

Falle rwyt ti wedi gweld Skamma mewn fideos lle mae fe’n cynrychioli Cymru yn y brwydrau braggadocio hiphop Don’t Flop (iaith ansaff ar gyfer y swyddfa) ym Mhryste a thu hwnt.

Yn ei gân newydd hon, sydd wedi derbyn nifer parchus o 4000 o wylwyr fideo ar YouTube mewn wythnos, mae fe’n troi ei odlau at gynhyrchiad 2-step miniog gan cynhyrchydd Stagga o Dreganna, Caerdydd (gynt o’r criw DJo Optimus Prime). Nid hon yw’r cydweithrediad cyntaf y ddau. Dechreuodd y bartneriaeth achlysurol gyda’r tiwn drom Sick As Sin yn 2009.

O ran y boi Skamma mae fe’n dod o’r Barri ym Mro Morgannwg fel cewri eraill y genedl fel Derek Brockway a Gwynfor Evans. Mae fe wedi bod yn rapio ers tro. Ydy’r plant yn deall ei gyfeiriad i Eric Cantona yn y gân tybed? Ta waeth, joia’r salwch.

Astroid Boys yn saethu fideo yng Nghaerdydd – angen torf heddiw

Os wyt ti yng Nghaerdydd heddiw a ti eisiau bod yn y fideo newydd Astroid Boys, cer i Glwb Ifor Bach am 6PM heno. Neu wedyn yn y maes parcio aml-lawr ar diwedd y stryd, wedyn tua 7:15PM ar Northcote Lane tu ôl Milgi. Mae’r criw grime o Gaerdydd wedi gwahodd nifer eitha da o bobol yn barod yn ôl bob sôn.

Os dwyt ti ddim yn gyfarwydd ar Astroid Boys, yn ôl Kaptin os oedd grime arferol o Lundain yn Public Enemy maen nhw yn debyg i’r Beastie Boys – yn hytrach na grime difrifol gyda themau tywyll ac ymosodol maen nhw yn dod gyda grime am dy barti. (Gyda llaw cer i’u blog Chrome Kids i ddilyn datblygiadau yn dubstep, hip-hop a seiniau Caerdydd.)

Dyma’r fideo diwethaf, cyfarwyddiwyd gan Tim Fok:

blog Astroid Boys
Astroid Boys grwp Facebook
Astroid Boys ar Soundcloud