Iesu Grist mewn ffilm: Scorsese, Pasolini a Python

The Last Temptation of Christ

Efallai taw un o’r cymeriadau mwyaf anodd i’w bortreadu mewn ffilm o safbwynt actor, cyfarwyddwr neu sgriptiwr ydy Iesu Grist. Pwy a wyr achos dw i erioed wedi creu ffilm nodwedd ond dw i wedi gwylio rhai.

Dyma dair o’r ffilmiau mwyaf cofiadwy i mi sy’n cynnwys Mab y Dyn. Rhestr derfnyol dyw hi ddim o bell ffordd, dim ond tair ffilm sydd wedi creu argraff arnaf i.

The Last Temptation of Christ (1988)

Un thema cryf mewn gwaith Martin Scorsese ydy’r cwymp o fawredd a cholled o’r hyn sy’n dod gyda llwyddiant – cyfoeth, enwogrwydd, statws, clod ac ati. Dw i’n meddwl am Henry Hill ar ddiwedd Goodfellas, cymeriad DiCaprio ar ddiwedd The Wolf of Wall Street, De Niro fel Jake LaMotta yn ei wregys yn Raging Bull, salwch Howard Hughes (DiCaprio eto) yn The Aviator ac yn y blaen.

Mae hefyd elfennau ysbrydol i lawer o ffilmiau Scorsese a chyfeiriadau cryf at demptasiwn, moesoldeb a phechod ar hyd ei yrfa ond does dim un sydd mor amlwg gyda’r themau hynny â The Last Temptation of Christ. Fyddwn i byth wedi dyfalu taw fe oedd creuwr y ffilm hon a dweud y gwir. Dwyt ti ddim hyd yn oed yn cael gweld Joe Pesci yn ymddwyn yn gas at bobl eraill.

Di-angen ydy’r ymwrthodiad sy’n ymddangos ar ddechrau’r ffilm i esbonio dyw hi ddim yn seiliedig yn uniongyrchol ar yr efengylau. Cwestiwn celfyddydol dychmygol am y Duwdod ydy’r ffilm. Mae hi’n ymwneud â dynoliaeth Iesu Grist a beth fyddai’n digwydd pe tasai fe’n ildio i demptasiwn, gwadu ei brif genhadaeth ar y groes a byw bywyd fel dyn arferol.

Mae pob perfformiad yn gryf yn enwedig Willem Dafoe yn y prif rhan.

Yn ôl beth dw i wedi clywed mae’r ffilm yn addasiad weddol agos o’r nofel 1953 gan Nikos Kazantzakis. Yn fy marn i mae’r ffilm yn gampwaith ac yn unigryw ar rhestr ffilmiau’r cyfarwyddwr.

Ystyriodd Martin Scorsese yn ifanc gyrfa fel offeiriad ond roedd rhaid iddo fe adael y coleg offeiriadol yn Efrog Newydd am fethu ei arholiadau – yn ôl ei eiriau fe yn y cyfweliad hwn.

Mae’r sgriptiwr Paul Schrader yn ffafrio iaith lafar gyfredol sy’n helpu cynnig rhywbeth ffres i bobl sydd yn hen gyfarwydd gyda’r dyfyniadau Saesneg safonol o’r Beibl. Mae’r sgyrsiau rhwng yr Iesu a phobl eraill fel Paul, a Pilate (David Bowie!) yn gofiadwy iawn oherwydd hynny.

Il Vangelo secondo Matteo / Yr Efengyl yn ôl Mathew (1964)

Mae aesthetig y ffilm hon gan Pier Paolo Pasolini jyst yn gweithio yn well na llawer iawn o ffilmiau drud Hollywood-aidd sy’n trio cyfleu’r Iesu (fel yr un Mel Gibson). Dyw hi ddim yn ffilm amrwd fel y cyfryw ond mae hi’n edrych yn fwy credadwy fel darlun o’r cyfnod, diolch i’r dillad, lleoliadau a’r gwaith camera. Does dim llawer o effeithiau arbennig, dim ond golygu.

Tystiolaeth i dalent Pasolini fel cyfarwyddwr yw’r ffaith bod y perfformiadau gan bobl normal yn hytrach nag actorion proffesiynol, e.e. gofynodd Pasolini i’w mam Susanna Pasolini wneud rhan Mair yn hen.

Doedd Pasolini ddim yn credu mewn bodolaeth Duw nag unrhyw dduwiau. Mae’n ymddangos bod e wedi dewis y stori yma yn arbennig, o’i wirfodd, ac mae fe’n dilyn yr efengl Mathew o’r geni i’r atgyfodiad gan gynnwys y ddeialog, gwyrthiau ac ati.

Mae rhai o’r stwff dw i wedi darllen yn dweud bod yr Iesu yma yn ‘broto-Marcsaidd’ ond dw i ddim yn gweld unrhyw bwyslais arbennig ar Gomiwnyddiaeth heblaw am y pethau rydym yn gallu dehongli fel ‘Sosialaidd’ neu chwyldroadol yn y llyfr Mathew gwreiddiol (Iesu yn gofyn i’r dyn cyfoethog ifanc roi eiddo i’r tlawd, Iesu yn stopio’r newid arian y deml ac ati). Wrth wylio’r ffilm, o’n i ddim yn meddwl am fateroliaeth ddilechdidol yn enwedig, yn fwy nag arfer, mae’n rhaid cyfaddef. Byddwn i’n croesawu’ch sylwadau chi.

Mae’r gyllideb isel yn helpu’r gerddoriaeth hefyd. Mae trac sain gwreiddiol ar adegau ond yn bennaf dewisodd Pasolini lwythi o diwns o gwmpas y byd fel Odetta, Blind Willie Johnson ac offeren oddi ar y record Missa Luba o’r Congo.

Monty Python’s The Life of Brian (1979)

Ffaith: mae Sue Jones-Davies sy’n chwarae Judith Iscariot yn y ffilm Monty Python’s The Life of Brian bellach yn gynghorydd tref Plaid Cymru yn Aberystwyth.

Mae’r comedi yn wneud hwyl ar ben lot o bethau, megis: ffilmiau epig, crefydd, pobl crefyddol, gwleidyddiaeth chwyldroadol a mwy.

Yn ôl cyfweliadau gyda chriw Python doedd dim ym mywyd yr Iesu i’w ddychanu yn y pen draw. Fel canlyniad, roedd rhaid newid y cysyniad cynnar a’r teitl dros dro Jesus Christ: Lust For Glory i rywbeth fwy cymryd-y-pis-adwy.

Mae’r cymeriad Iesu Grist dim ond yn ymddangos yn y stabl drws nesaf am eiliad ar y dechrau ac am gwpl o funudau am y Bregeth ar y Mynydd.

Mae gweddill y ffilm yn dilyn hanes Brian Cohen, dyn sy’n cael ei dderbyn yn ddamweiniol fel y Meseia gyda chanlyniadau hilariws. Wel mae rhai ohonynt yn ddoniol. Dw i wedi rhoi sawl tro ar gyfresi a ffilmiau Python a dydy’r hiwmor ysgol fonedd ailadroddus ddim cweit at fy nant personol ond mae’n rhaid cydnabod bod nhw yn ddylanwadol iawn a phoblogaidd ymhlith eraill. Does dim pwynt cael dadl drosto fe!