Y Twll » Jean-Luc Godard

Breathless (À Bout de Souffle) ffilm gan Jean-Luc Godard o’r Nouvelle Vague
<object width="480" height="385"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/w2hDR_e1o1M&hl=en_GB&fs=1&"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/w2hDR_e1o1M&hl=en_GB&fs=1&" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="480" height="385"></embed></object>

Cyn trafod Breathless dylwn nodi mai’r ffilm dan sylw yw À Bout de Souffle (Jean-Luc Godard, 1960) nid Breathless (Jim McBride, 1983) gyda Richard Gere. Er mor fywiog yw perfformiad Gere yn y fersiwn Americanaidd, y ffilm gyntaf yw’r un sy’n cael ei hystyried yn glasur. Fel Breathless y cyfeirir at ffilm Godard yn bur aml y tu allan i Ffrainc a dyna a wnawn i yma.

Breathless oedd ffilm nodwedd gyntaf Godard fel cyfarwyddwr. Roedd eisoes wedi gwneud pum ffilm fer, gan ddechrau ym 1954 gydag Opération Béton, ffilm ddogfen am adeiladu argae yn y Swistir. Trwy weithio fel labrwr yno roedd wedi casglu’r arian i wneud y ffilm.

Roedd Godard, a’i gyfoeswyr François Truffaut, Jacques Rivette, Eric Rohmer a Claude Chabrol eisoes wedi dod dan ddylanwad y beirniad arloesol  André Bazin, sefydlydd y cylchgronau dylanwadol La Revue du Cinéma a Les Cahiers du Cinéma. Cyfrannodd Godard erthyglau i’r ddau gylchgrawn. Ym 1957 cydysgrifennodd Rohmer a Chabrol y gyfrol gyflawn gyntaf am ffilmiau Alfred Hitchcock. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Truffaut ffrwyth ei gyfweliad hir gyda Hitchcock.

Doedd hi ddim yn hir cyn i’r beirniaid ifanc hyn droi’n gyfarwyddwyr.  Agorwyd y drysau gan Chabrol gyda Le Beau Serge (1958). Yna daeth  Les 400 Coups ( Truffaut, 1959), Le Signe du Lion (Rohmer, 1959), ffilm Godard ym 1960 a Paris nous appartient (Rivette, 1960). Er mor wahanol oedd  y cyfarwyddwyr ifanc hyn i’w gilydd  roedd un peth yn eu huno; casineb tuag at y  rhan fwyaf o’r ffilmiau Ffrangeg cyfredol oedd yn aml yn addasiadau o weithiau llenyddol, yn gaeth i’r stiwdio ac yn hynod afreal ac artiffisial. Roedd yn well ganddyn nhw ffilmiau poblogaidd yr Unol Daleithiau. Dyna egluro eu diddordeb yn Hitchcock a chyfarwyddwyr y ffilmiau  ‘noir’ oedd yn portreadu gangsters o bob math. Dan ddylanwad y criw ifanc yma roedd fel petai ton newydd yn ysgubo trwy’r diwydiant ffilmiau Ffrengig a bathwyd y term Nouvelle Vague gan newyddiadurwyr Ffrainc i labelu’r datblygiad cyffrous. Gwnaed nifer o’r ffilmiau newydd yma allan ar y strydoedd a heb gymaint â hynny o adnoddau ariannol.

Dangosodd Godard yn glir beth oedd wedi dylanwadu ar y ffilm gyntaf hon; mae’n cynnwys cyflwyniad i Monogram, cwmni ffilmiau Americanaidd oedd yn arbenigo mewn cynhyrchu ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys nifer am gangsters, am ychydig iawn o arian. Lleidr ceir yw’r prif gymeriad yn Breathless. Ar ôl iddo ladd plismon mae’n ceisio dianc rhag yr awdurdodau yng nghwmni ei gariad sy’n Americanes. I bortreadu’r prif gymeriadau  hyn dewisodd Godard  Jean-Paul Belmondo a Jean Seberg.

Roedd Belmondo wedi chwarae rhannau cymharol fach mewn chwe ffilm, gan gynnwys un yn yr Almaen, cyn dod yn seren ryngwladol yn sgil Breathless. Doedd e ddim yn gonfensiynol olygus  ond roedd yn wrth-arwr delfrydol ac roedd y cyhoedd wrth eu bodd gydag e.  Dim ond 17 oed oedd Seberg pan wnaeth ei ffilm gyntaf hi fel y prif gymeriad yn Saint Joan (Otto Preminger, 1957). Breathless oedd ei thrydedd ffilm. Roedd yn weithgar iawn yn y byd gwleidyddol ac yn gefnogwr brwd o fudiad y Black Panthers. Bu’r awdurdodau yn ei gwylio’n ofalus ac aeth paranoia yn drech na hi. Bu farw’n 41 oed ar ôl cymryd gor-ddos o gyffuriau.

Seiliodd Godard ei sgript ar fraslun o stori gan Truffaut a chyfrannodd Chabrol at olwg y ffilm. Yn ystod y ffilmio ceisiodd Godard gael Belmondo a Seberg i gyfansoddi eu deialog yn fyrfyfyr a llwyddodd y ddau i greu dau gymeriad digon anghynnes. Roedd hynny’n iawn gan nad oedd e am i’r gynulleidfa uniaethu â nhw.

Parhaodd arloeswyr y Nouvelle Vague i wneud ffilmiau ond Godard oedd yr unig un i ymatal rhag ymuno â changen fasnachol y diwydiant ar ôl ei boblogrwydd cynnar. Derbyniodd César arbennig ym 1986 am ei gyfraniad i fyd y ffilm.

Mae’r sinema Chapter, Caerdydd yn dangos À Bout de Souffle ym mis Mehefin 2010.