Sen Segur: fideo llawn o gig Hanner Cant

Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid llynedd.

Mae Greg Bevan o’r sianel yn dweud bod ‘Sianel62 wrthi’n cyhoeddi setiau o gig chwedlonol Hanner Cant. Dyma Sen Segur! Pwy fydd nesaf?’.

Gweler hefyd: erthygl Sen Segur ar Y Twll o 2011.

Gigs Cymdeithas, Clwb Rygbi Llanilltud Fawr

Roedd Ian Dury and The Blockheads yn canu am resymau dros fod yn siriol.

Wel, mae lot o bobl yn cyffroi am gigs Cymraeg ar hyn o bryd. Mae ‘na lot llai o bryderon am gerddoriaeth Cymraeg yn yr arddull poblogaidd haf yma, yn enwedig ar ôl Hanner Cant a’r holl ymdrechion aelodau Cymdeithas yr Iaith.

Oes cylchred i’r sin Cymraeg? Pethau yn mynd yn dawelach am gyfnod ac maen nhw yn codi eto. Dyma sut mae pethau yn teimlo. (Ac mae croeso i ti mynegi barnau eraill yn y sylwadau.)

Gwelaf i chi ger y llwyfan!

Mae’r holl fudiadau iaith newydd yn ddigon iawn ond pa fath o gigs fyddan nhw yn ei drefnu?

Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant

Un o fy hoff categoriau ar Y Twll ydy cyfryngau sydd yn cynnwys podlediadau, blogiau, teledu annibynnol, ffansins a chyfryngau annibynnol o bob math. Fel arfer os ydy rhywun wedi creu ‘brand’ cyfryngau annibynnol yn Gymraeg mae’n tueddu i fod yn dda iawn. Mae sawl enghraifft.

Dyma un syniad da gan Nwdls a Gai Toms: Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant, blog sydd newydd ddechrau dogfennu profiadau o’r gig penwythnos diwethaf – sydd ymhlith y gigs mwyaf cofiadwy (ac efallai dylanwadol) erioed yng Nghymru ers parti coroni Hywel Dda yn y degfed ganrif.

Mae Nwdls wedi dechrau gydag atgofion a meddyliau personol am egni diwylliannol a grym cerddoriaeth:

Dwi wedi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o gwffio yn ei erbyn o taw cerddoriaeth yw’r un peth diwylliannol Cymraeg sydd yn gallu croesi ffiniau fel dim un arall. Mae cerddoriaeth yn treiddio trwy gymaint o ffiniau. Dwi wedi bod yn trio hyrwyddo y llun a’r gair (ffilm/fideo a blogio/sdwff ar y we) ers troad y mileniwm ond yn sylwi rwan cymaint mwy yw’r grym diwylliannol sydd gan gerddoriaeth. […]

Mae unrhyw yn gallu cyfrannu felly paid ag aros yn rhy hir nes bod ti’n anghofio manylion pwysig am y penwythnos.