Y Twll » Cymdeithas yr Iaith

Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Roderic Bowen et al, 1972
Roedd yr awdur JG Ballard yn hoff iawn o ddogfennau o bob math, hyd yn oed gweithiau sydd ddim yn atyniadol iawn i’r mwyafrif o ddarllenwyr. Bathodd Ballard y term ‘llenyddiaeth anweledig’, sef genre posibl sydd yn cynnwys gweithiau fel adroddiadau, dogfennau swyddogol, trawsgrifiadau o recordiadau o’r bocs du mewn awyren, llyfrau ffôn ac ati.

Mae’r categori llenyddiaeth anweledig yn eang iawn ac yn amrywiol. Yng Nghymru mae’r genre wedi cael sawl cyfle i gynyddu yn y dwy iaith, yn y degawd diwethaf yn enwedig.

Un hen enghraifft o Gymru yw’r adroddiad Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog, gan y Pwyllgor dan arweinyddiaeth Roderic Bowen (cyn-AS Rhyddfrydwr) o fis Mehefin 1972. Cafodd yr adroddiad ei chyflwyno i’r Ysgrifennydd Cymru Peter Thomas (Ceidwadwyr) ym mis Awst.

Tra oedd y trafodaeth am statws yr iaith yn digwydd wythnos diwethaf o’n i’n meddwl bod e’n rhywbeth cwl i’w ystyried.

Mae’r cyfrol mewn clawr caled. Y pris gwreiddiol oedd dim ond 90c am 134 tudalen difyr.

Mae hon yn dogfen ddwyieithog: Saesneg ar y dudalen verso a Chymraeg ar y recto. Prin iawn oedd defnydd o Gymraeg gan y wladwriaeth ar y pryd a doedd dim lot o bresenoldeb cyhoeddus o Gymraeg. Felly roedd y ddogfen yn ddyfodolaidd.

Mae’r lluniau yn yr atodiad i gyd o dde Cymru, efallai oherwydd roedden nhw eisiau enghreifftiau o’r categorïau gwahanol uchod ar yr un arwydd.

Mae hefyd dadansoddiad o arwyddion yn wledydd eraill: Gwerinlywodraeth Iwerddon, ‘Ffinland’ (yr enw yn yr adroddiad), Y Swistir a Gwlad Belg…

.. gyda sylwadau cyffredinol i grynhoi’r ymchwil o wledydd eraill:

i. Rhoir cydnabyddiaeth eang yn y gwledydd hyn i ieithoedd y lleiafrifoedd, a gwneir ymdrechion sylweddol i ddarparu ar eu cyfer.

ii. Derbynnir arwyddion ffyrdd dwyieithog fel un o nodweddion cyffredin bywyd beunyddiol, ac nid ydynt yn creu syndod nac yn tynnu sylw yn ormodol. Mae’n siwr eu bod yn golygu rhywfaint o waith gweinyddu a chostau ychwanegol, ond ar y cyfan nid ydynt yn creu anhawster na dadleuon.

… sydd hefyd yn wir yng Nghymru bellach diolch byth. Mae’r sylw nesaf yn ateb cwestiwn sydd dal yn cael ei ofyn yn yr Alban heddiw hyd yn oed.

iii. Codwyd y cwestiwn o ddiogelwch ffyrdd mewn perthynas a’r arwyddion dwyieithog sy’n bod eisoes gyda’r bobl oedd yn gyfrifol amdanynt. Yr ymateb pennaf oedd syndod. Cydnabyddwyd nad oedd ganddynt wybodaeth fanwl ond nid oedd ganddynt yr un rheswm dros gredu fod yr arwyddion yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch. [...]

Mae rhai o bethau yn y lluniau yn wahanol ar yr arwyddion heddiw, e.e. Y Bont-faen yn lle Pont-faen yn yr enghraifft uchod.

Ond y prif wahaniaeth yw drefn yr ieithoedd.

Mewn rhai o lefydd Cymru, fel fy ardal i, penderfynodd yr awdurdod lleol i beidio dilyn yr argymhelliad ynglŷn a threfn yr ieithodd:

Y cwestiwn nesaf i’w ystyried yw a ddylid gosod y Saesneg neu’r Gymraeg gyntaf, hynny yw, gan ddilyn ein harferiad ni o ddarllen, yn uchaf os rhoir y ddwy iaith y naill uwchben y llall, neu ar y chwith os byddant ochr yn ochr. Dyma’r ffactorau y gwelwyd eu bod yn briodol. Yn gyntaf, oherwydd yr arferiad darllen hwn, mae’n debyg yr amgyffredir yn fwy cyflym y geiriau sydd yn uchaf neu ar y chwith. Bydd y mwyafrif mawr o ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru yn edrych am y geiriad Saesneg yn hytrach na’r geiriad Cymraeg wrth ddilyn arwyddion ffyrdd, a darganfu’r Labordy Ymchwil Trafnidiaeth a Ffyrdd yn eu harbrofion gydag arwyddion dwyieithog bod llai o gynnydd yn gyffredinol yn yr amser a gymerir i ddarllen os daw’r geiriad Saesneg gyntaf. Yn ail, mae nifer o’r rhai sydd o blaid cael arwyddion dwyieithog yn rhoi cryn bwysigrwydd ar osod y Gymraeg gyntaf gan mai hi yw iaith frodorol Cymru. Credwn fod i’r farn hon gysylltiadau emosiynol gor-gryf, ond rhaid cydnabod ei bodolaeth. Pan ddefnyddir dwy iaith gyda’i gilydd, a rhoi dilysrwydd cyfartal i’r ddwy, mae’n anochel i un gael ei gosod o flaen y llall, a chytunwn beth bynnag fo’r drefn na ddylid ystyried ei bod yn adlewyrchu unrhyw wahaniaeth yn eu pwysigrwydd neu eu statws. Ystyriwyd yn fanwl y cwestiwn ai’r Gymraeg neu’r Saesneg ddylai ddod gyntaf, ac yr oeddem yn rhanedig, ond y diwedd penderfynwyd gyda mwyafrif sylweddol i argymell y dylid dangos y geiriad Cymraeg yn gyntaf ar bob arwydd dwyieithog [...] (fy mhwyslais)

Mae’r paragraff uchod yn awgrymu pa mor gynhwysfawr ydy’r llyfr yma. Os oes galw efallai gwnaf i sganio’r holl beth. Efallai bydd e’n cyfrannu i sgyrsiau yn wledydd eraill fel Yr Alban.

Gyda llaw dyma’r dadleuon o blaid arwyddion dwyieithog (ac yn erbyn!) yn ôl atebion i’r ymchwil.

‘Cyfiawnder naturiol’ ydy’r term sy’n cael ei defnyddio sawl gwaith o blaid Cymraeg.

Heddiw mae’r arwyddion yn rhan o’r cefndir yng Nghymru fel y dylen nhw fod, rydyn ni’n ei chymryd yn ganiataol. Ond ar ôl i mi ddarllen yr adroddiad dw i wedi bod yn eu darllen nhw mewn ffordd wahanol tra bod i’n teithio o gwmpas.

Er cafodd y pwyllgor Bowen ei dylanwad ar ein strydoedd, ymgyrchwyr iaith – Cymdeithas yr Iaith yn bennaf – wnaeth sbarduno’r arwyddion ffyrdd yn y lle cyntaf wrth gwrs dros fwy na saith mlynedd o ymgyrchu. Mae ein byd yn edrych yn wahanol oherwydd nhw – ond wastad yn addasu ei hun i ddilyn y drefn newydd heb werthfawrogi’r ymgyrchwyr arloesol.

Felly mae rhywun fel Vaughan Roderick nawr yn gallu cywiro’r cyflwynydd Wedi 7 – ar Sianel Pedwar Cymru, yn Gymraeg – i ddweud bod y BBC yn ‘nodi’ yn hytrach na ‘dathlu’ hanner can mlynedd ers Tynged yr Iaith.

Gwnawn ni orffen gyda rhywbeth gwahanol – llun gan y ffotograffydd Raymond Daniel sydd yn ddangos aelodau o Gyfeillion yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith yn gyflwyno eu argymhelliad nhw. Tynnwyd y llun yn Aberystwyth ym mis Ebrill 1971 pan oedd y cysyniad o Gymraeg ar ein arwyddion yn freuddwyd yn unig.

Sianel 62: nos Sul yma
<object width="650" height="360" classid="clsid:d27cdb6e-ae6d-11cf-96b8-444553540000" codebase="http://download.macromedia.com/pub/shockwave/cabs/flash/swflash.cab#version=6,0,40,0"><param name="allowFullScreen" value="true" /><param name="allowscriptaccess" value="always" /><param name="src" value="http://www.youtube.com/v/fdLEiDQh1iw?version=3&hl=en_US" /><param name="allowfullscreen" value="true" /><embed width="650" height="360" type="application/x-shockwave-flash" src="http://www.youtube.com/v/fdLEiDQh1iw?version=3&hl=en_US" allowFullScreen="true" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" /></object>

Mi fydd Sianel 62 yn darlledu ar sianel62.com 8PM nos Sul yma a phob nos Sul o hyn ymlaen. Rhagor o wybodaeth am Sianel 62

Mwy dan y categori Cyfryngau ar Y Twll

Ffeiliau Ffansin: Llmych gyda Gareth Potter yn 1988
Ffeiliau Ffansin yw cyfres achlysurol ar Y Twll – delweddau o hen ffansins gyda pherthnasedd i heddiw.

Enw y ffansin heddiw yw Llmych. Mae Huw Prestatyn yn dweud “penderfynwyd ar yr enw reit ar ddiwedd cyfarfod hir hir Rhanbarth CyIG. Pawb yn mynd yn ffed up efo’r enw yn syth a galwyd y rhifynau canlynol yn “Chmyll”, “Mychll” etx.. nes dropio’r enw yn gyfan gwbl. “Cynhyrfu Addysgu Trefnu” oedd o tiwn rap old skool uffernol… efo rapper yn dweud “Educate Agitate Organise” ynddi, sef hen slogan undeb llafur Americanaidd.”

“Beth sydd wedi bod yn digwydd ers y rhifyn diwethaf?” meddai’r golygyddol yn rhifyn Haf 1988. Mae rhai o’r atebion yn ffurfio ein cyd-destun:

Peel Sessions gan y Llwybr Llaethog, Plant Bach Ofnus, Y Fflaps a Datblygu.

Sefydlu label Ankst yn Aberystwyth.

Bernard Manning yn perfformio’n Y Rhyl.

Fideo 9 yn dechrau.

Trac oddi ar y E.P. “Galwad ar holl filwyr byffalo Cymru” yn cael ei chwarae ar y South Bank Show fel rhan o raglen Ken Russell ar hanes cerddoriaeth.

Yn yr un rhifyn o Llmych oedd erthyglau am Malcolm X, Y Fflaps, Label Ofn a’r cyfweliad isod gyda Gareth Potter – gan Bronwen Miles.

Hywel Teifi Edwards – Cawr o Gymro
Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Hywel Teifi Edwards, cawr o Gymro a gyfrannodd ei oes tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg.

Roedd Hywel Teifi Edwards yn un o’r enghreifftiau prin hynny o feirniaid diwylliannol Cymraeg a oedd â holl gynhysgaeth hanes a diwylliant Cymru yn berwi trwy ei wythiennau. Deuai hynny’n glir i bawb a gafodd y fraint o wrando arno’n areithio mewn raliau wrth iddo gyfeirio at wahanol adegau mewn hanes a chyffelybu â’r sefyllfa bresennol. Nid rhywbeth sych oedd hanes iddo ond rhywbeth a allai roi goleuni i’n llywio yn ein presennol a thuag at y dyfodol.

Y rali Cymdeithas yr Iaith cyntaf i fi ei mynychu erioed oedd rali ynghylch dyfodol cymunedau Cymraeg tua 2002, a bu araith Hywel Teifi Edwards yn gymaint o ysbrydoliaeth fe ymunais â’r mudiad. Sôn yr oedd e’ bryd hynny y mae y Cymry fel cenedl yn tenacious ac fe ddefnyddiodd y gair Saesneg oherwydd fod y gair mor addas i’n disgrifio (yr unig le roeddwn i wedi clywed y gair o’r blaen oedd wrth wrando ar gerddoriaeth Tenacious D – cofiwch mai deunaw oeddwn i ar y pryd). Mae’r gafael hwn sydd gyda ni ar ein hanes a’n diwylliant, y cof cenedl tenacious hwn, yn bwysig iawn meddai Hywel Teifi Edwards.

Yn ei gyfrol olaf, The National Pageant of Wales, fe adroddodd hanes perfformio pasiant mawr yn dathlu hanes Cymru drwy’r oesoedd yng nghysgod Castell Caerdydd, gyda dros 5000 o bobl yn cymryd rhan o bob dosbarth o gymdeithas. Yn y dyfyniad hwn, dengys sut y gwelai perthnasedd y digwyddiad hwn gyda’r angen am addysgu pobl Cymru am hanes eu gwlad ynghyd â’r sefyllfa wleidyddol bresennol:

If only we had his like again in 2009 to script a National Pageant (or better still an epic film) to tell the Welsh, who are awaiting yet another referendum to test their readiness for “a proper parliament”, what he told them in the wake of the Cymru Fydd collapse in 1896. Quite simply, as Barack Obama put it on the night of his election victory, when he confronted the difficulties to be overcome, ‘Yes, we can.’

Meddylfryd neu seicoleg y Cymry oedd ei ddiddordeb mawr, ac er y dywedai fod hyn o ganlyniad i imperialaeth Lloegr yng Nghymru roedd hefyd yn awyddus i’r Cymry adfer yr hyder ynddynt eu hunain ac ymladd y seicoleg hwn. Ysgrifennodd yn helaeth am Frad y Llyfrau Gleision er enghraifft gan sôn sut y trodd y ‘sgarmesi’ ynghylch yr iaith ‘yn faes rhyfel cartref’ wrth i’r feddylfryd fod angen addysg drwy gyfrwng y Saesneg i lwyddo yn y byd ymledu tra gwthiwyd a cyfyngwyd y Gymraeg i’r aelwyd a’r capel. Y neges i wyrdroi ein hanes a’n seicoleg am yr iaith Gymraeg oedd ei gri yn ei araith mewn rali fis Mai 2009, a oedd yn galw am ddatganoli pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru: ‘Ni ein hunain sydd i iachau y wlad ma lle mae’r iaith yn y cwestiwn’ meddai, ‘drwy ein cynrychiolwyr yng Nghaerdydd.’ Cyfeiriodd at allu’r genedl i reoli ei hun yn wâr a theg drwy gyfraith Hywel Dda yn y gorffennol gan ddweud am y presennol: ‘ni’r Cymry biau’r busnes yma.’ Nid oedd pwyslais Hywel Teifi ar ymyrraeth Lloegr â Chymru, ond ar yr hyder sydd angen ei adfeddiannu i ryddhau o’r feddylfryd o israddoldeb ynghylch yr iaith Gymraeg.

Nid dyn dweud yn unig oed Hywel Teifi Edwrads, ond dyn gwneud. Rhai blynyddoedd yn ôl roeddwn i’n gwrando ar ei feirniadaeth befriog yn y Pafiliwn o gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ac fe ddywedodd fel hyn: ‘Pe bae pawb sy’n bresennol yn y pafiliwn yn prynu chwech neu saith llyfr Cymraeg y flwyddyn fe fyddai gennym ni chwyldro yn y wasg Gymraeg.’ Nes i feddwl – WOW – ma hynna’n wallgo! Ers hynny rwyf wedi gwneud yn siwr fy mod i’n prynu o leia’r nifer hynny o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn.

Ni all unrhyw Gymro gwneud llai nag edmygu ei ymroddiad a’i gyfraniad i Gymru. Dangosodd mai dim ond ni ein hunain all godi Cymru unwaith eto a bod angen torri’n rhydd o’r feddylfryd israddol am yr iaith Gymraeg. Hefyd, roedd ei wybodaeth a’i allu hudolaidd i draethu am ystod eang o bynciau hanesyddol a diwylliannol yn rhywbeth i ni fel cenhedlaeth ifanc ei edmygu, fel y gallwn edmygu llawer o haneswyr diwylliannol rydym ni’n prysur eu colli. Gan obeithio y bydd ein cenhedlaeth ni mor frwd â pobl fel Hywel Teifi Edwards i ddal cyfoeth y dychymyg Cymraeg ar lafar gwlad!

Llun gan dogfael