Tair ffilm am y Rhyfel Byd Cyntaf go iawn

Mae unrhyw bortread o’r Rhyfel Byd Cyntaf heb y ffolineb, trais ac erchylldra yn gelwydd.

Dyma dair ffilm sy’n agosach i realiti y Rhyfel Byd Cyntaf nag unrhyw ‘ddathliad’ swyddogol gan wleidyddion heb sôn am unrhyw hysbyseb.

Nid detholiad terfynol yw hwn, dim ond rhestr fach o ffilmiau dw i eisiau eu hargymell er mwyn cynnig safbwyntiau eraill i’r rhai yn y cyfryngau prif ffrwd.

Paths of Glory (1957)

Mae bron pob un gwaith gan Stanley Kubrick yn gampwaith gan gynnwys hon, ei bedwerydd ffilm nodwedd sy’n seiliedig ar nofel o’r un enw gan Humphrey Cobb. Mae’r stori yn ymwneud ag adran o fyddin Ffrainc sy’n derbyn gorchymyn amhosib ac a fyddai’n gyfystyr â hunanladdiad oherwydd uchelgais y cadfridog. Rydych chi’n gwybod bod e’n ddrwg i’r carn achos mae craith fawr ar ei wyneb ond heblaw am y consensiwn hynny i semiotig Hollywoodaidd, mae’r ffilm hon yn soffistigedig iawn. Kirk Douglas yw’r corporal egwyddorol sy’n ceisio gwneud y gorau o’i gefndir fel cyfreithiwr i amddiffyn tri miliwr ar honiadau o lwfrdra.

Roedd athrylith Kubrick fel cyfarwyddwr yn dechrau dod i’r amlwg yn y cyfnod hwnnw yn ogystal â’i berffeithiaeth. Llwyddodd i gael perfformiadau cadarn mas o’r actorion ac mae’r siots tracio yn y ffosydd yn ardderchog.

Yn anffodus heblaw am ecstras mae dim ond un cymeriad benywaidd yn Paths of Glory (sydd ychydig yn well na’r diffyg menywod llwyr yn Lawrence of Arabia). Ta waeth, mae ei golygfa hi yn gofiadwy a phwerus iawn.

Un peth sydd ar goll yn yr erthyglau dw i wedi darllen am y ffilm ydy’r hiwmor tywyll yn y deialog, megis:

‘These executions will be a perfect tonic for the entire division. There are few things more fundamentally encouraging and stimulating than seeing someone else die.’

Dyma elfen a ddatblygwyd gan Kubrick saith mlynedd yn ddiweddarach yn ei ffilm Dr Strangelove yn nghyd-destun rhyfel niwclear.

Joyeux Noël (2005)

Ffilm dairieithog – Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg – am ddathliadau Nadolig ar dir neb yn 1914 yw hon.

Mae’n rhaid bod crewyr yr hysbyseb Sainsbury’s di-chwaeth yn ymwybodol iawn ohoni hi wrth edrych ar yr arddull ond peidiwch ag osgoi’r ffilm oherwydd hynny.

Mae ‘na dueddiad tuag at y sentimental efallai ond mae’r ffilm gan y Ffrancwr Christian Carion yn llwyddo i gyfleu pa mor resymol oedd Nadolig 1914, un diwrnod o ddynolrwydd mewn hunllef gwaedlyd.

Hedd Wyn (1992)

Yn gyntaf, mae’r prif gymeriad yn cael ei fwrw gan siel farwol yn yr eiliad agoriadol o’r ffilm hon. Dyna sy’n dod â’i yrfa fel y ‘Jerry Hunter’ gwreiddiol i ben.

Dydy’r gair ‘sboilyr’ ddim yn berthnasol achos nid dyma yw’r math o ffilm sy’n dibynnu ar blot fel y cyfryw o gwbl. Nid goroesiad Hedd Wyn yw’r cwestiwn na phwy yn union fydd enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917. Mae’r canlyniadau yn anochel.

Yn hytrach mae’r ffilm am fanylion penodol y sefyllfaoedd a’r cymeriadau ac wrth gwrs creulondeb a thwpdra y Rhyfel. Ond rhywsut rydym yn pryderu am y gystadleuaeth farddonol. Er ein bod ni’n cymryd yr hanes y ganiataol, rydym wedi buddsoddi gymaint yn y cymeriad i gael boddhad pan mae’r swyddog yn datgelu wrth ein harwr y bydd y cais yn gadael Fflandrys heb gael ei sensro wedi’r cyfan.

Ellis Humphrey Evans sy’n cael y clod mewn ffilm er ysgrifennodd yr awdl fuddugoliaethus Yr Arwr cyn iddo fe gael unrhyw brofiad o ymladd. Ysgrifennodd R. Williams Parry, Cynan, Saunders Lewis ac eraill am y Rhyfel Byd Cyntaf o brofiad uniongyrchol yn y fyddin. Pam nad oes portreadau ohonynt mewn ffilmiau eponymaidd?

Un rheswm posibl ydy’r diffyg isadeiledd a chyllideb i greu cymaint o ffilmiau Cymraeg, mater am gofnod blog arall. Mewn gwirionedd mae cymeriad R. Williams Parry yn ymddangos yn y ffilm hon hefyd, yn ystod yr eisteddfod leol – ond sôn ydw i am y prif reswm am ‘fuddugoliaeth’ Hedd Wyn dros y beirdd eraill: i’r Cymry, mae marw yn gynnar yn warant o ragolygon da am eich gyrfa. Rydym jyst yn caru ein merthyron.

Pa brif gymeriad sy’n fwy addas i gyfleu arswyd rhyfel na’r bardd, croniclwr ein bywyd, pencampwr o’r nodwedd sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel cenedl, ein hiaith ni? Mae Hedd Wyn ei hun yn fodel o wareiddiad uwch a’r gorau sy’n bosib o ran bywyd creadigol – a’r gwastraff ac anghyfiawnder mewn rhyfel di-bwynt. Gwnaeth y rhyfel hon ddrwg anhygoel i gymunedau Cymraeg, ffaith torcalonnus sy’n amlwg wrth ddarllen yr enwau ar gofcolofnau mewn sawl pentref yng Nghymru.

Mae cymaint o bethau gwych yn y ffilm yma ac mae’n haeddu’r enwebiad Oscar (am ‘Best Foreign Language Film’). Mae’r sgript gan y cyfarwyddwr Paul Turner a’i gyd-ysgrifennwr Alan Llwyd yn gredadwy iawn ac mae’r sinematograffeg gan Ray Orton o’r radd flaenaf yn enwedig golygfeydd y frwydr ei hun. Mae’n rhaid canmol perfformiadau’r actorion i gyd (gan gynnwys Ceri Cunnington fel brawd ifanc Hedd Wyn). Mae’r olygfa dril yn dipyn o draddodiad mewn ffilmiau rhyfel ac mae’r Saeson cas sy’n rheoli’r fyddin yn gofiadwy iawn. Dw i hefyd yn hoff iawn o elfennau bach fel y daith i’r sinema ‘moving pictures’ cynnar.

Dydy’r Ysgwrn, hen dŷ Hedd Wyn, ddim yn bell o’r A470 os ydych chi’n pasio ardal Trawsfynydd ac eisiau cael cipolwg. O ie, dyna beth ddylwn i fod wedi ei ddweud – mae’r stori i gyd yn wir! Fe oedd ‘na Hedd Wyn go iawn ac yn ystod haf hynod anffodus aeth e i’r maes anghywir. Wel, dyna lle mae’r cwestiynau yn dechrau. Yn ôl rhai doedd e ddim yn gymaint o ferchetwr ag y mae’r ffilm yn honni. Ai dyna oedd angen er mwyn hyrwyddo fe fel chwedl? Dw i ddim yn siŵr am gymeriad yr awen chwaith. Ond gwyliwch y ffilm.