Y Twll » athroniaeth

Daw Slavoj Žižek i Gaerdydd
Ar Ddydd Mercher , Mawrth 3ydd 2010, caiff Brifysgol Caerdydd y fraint o groesawi Slavoj Žižek, un o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd athroniaeth fodern i’r ddinas er mwyn trafod ei lyfr newydd First as Tragedy, Then as Farce. Mae Žižek, yn wreddiol o Slovenia, nid yn unig yn enwog am ei gyfraniad helaeth i’r byd academaidd sy’n cylchynu ‘psycho-analysis’, ffilm, gwleidyddiaeth a diwylliant, ond hefyd am ei bersonoliaeth egsentrig a’i allu i wneud theori cymhleth yn berthnasol i fywyd cyfoes. Gwelir dylanwadau cryf o Lacan, Hegel a Marx yn ei waith ac fe’i ddisgrifwyd gan The Times fel ‘the Elvis of cultural theory’.

Yn ei lyfr diweddara, trafodir yr argyfwng economaidd rhyngwladol o bersbectif Neo-Marcsaidd.  Ar ôl i utopia’r gorllewin datblygiedig ffrwydro ymysg digwyddiadau 9/11, ac eto o ganlyniad i’r argyfwng economaidd rhyngwladol, credir Žižek bod angen i ddiwedd hanes, fel y disgrifiwyd gan Francis Fukuyama yn y nawdegau, digwydd dwywaith.

Cyn yr argyfwng, ein prif flaenoriaethau oedd datrys problemau megis cynhesu byd eang, AIDS a’r hawl i feddyginiaethau, bwyd a dŵr glan, ond serch hynny, fe gohurwyd unrhyw gamau penodol gan lywodraethau’r byd datblygedig. I’r gwrthwyneb, arllwyswyd cyfansymiau anghredadwy i fewn i’r sector ariannol er mwyn ceisio achub y sefyllfa heb unrhyw ystyriaeth am yr ‘hen’ flaenoriaethau a chysgodwyd o ganlyniad. Mae Žižek felly yn dadlau fod dirywiad ariannol ac economaidd y Gorllewin yn 2008, sydd wedi gadael miliynau o bobl yn ddiwaith, yn dystiolaeth bod y ffantasi o economi cyfanfyd a’i rhesymeg ansefydlog ar fin dod i ben.

Fe fydd y ddarlith yn cymryd lle ar Ddydd Mercher 3ydd o Fawrth 2010 yn Adeilad Julian Hodge, Prifysgol Caerdydd am 7 o’r gloch y.h.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: zizekconference@cardiff.ac.uk