Björk yn y Ganllwyd gyda Michel Gondry yn 1995

Mae Björk newydd ddadorchuddio manylion am ei sengl newydd sbon, The Gate – sydd yn gyfle da i sôn am ei fideo yng Nghymru dros 20 mlynedd yn ôl. 🙂

Daeth Björk a’r cyfarwyddwr Michel Gondry i’r Ganllwyd, Meirionedd yn 1995 er mwyn cynnal sesiynau ffilmio fideo i’r gân Isobel (oddi ar yr albwm Post).

Ffilmiwyd y fideo yn y coedwigoedd a dyma’r canlyniad.

Gyda nos roedd Björk yn digon hapus i aros mewn pabell tu allan i westy Penmaenucha – yn ôl y sôn.

Aeth Gondry ymlaen i greu ffilmiau hudolus a thrawiadol megis Eternal Sunshine of the Spotless Mind, The Science of Sleep a Be Kind Rewind.

Carnifal Aberaeron: pared o anwybodaeth

Mae’n debyg bod pawb wedi clywed am y stori erbyn rwan. Roedd fflôt hiliol wedi’i gynnwys fel rhan o garnifal Aberaeron ac fe wnaeth cannoedd o bobol ei amddiffyn. Dyna yw craidd y stori’n wir. Oes, mae manylion bellach am bwy sydd wedi dweud a datgan be, pwy sydd wedi newid eu meddyliau, pwy sydd wedi ymddiheuro a maddeuo. Ond yn syml iawn, fe ddigwyddodd rhywbeth hiliol a chafodd y weithred hynny ei amddiffyn.

Yw lliwio’ch wyneb gwyn yn frown neu’n ddu’n hiliol? Ydi. Yw chwarae cân sy’n trafod pobol Jamaica yn nhermau gwawdlun hiliol yn hiliol? Syrpreis! Ydi. Yw amddiffyn y pethau hyn fel hwyl ddiniwed yn hiliol? Ydi. A yw’n bosib nad oedd gan y bobol oedd yn gyfrifol am y fflôt na’u ffrindiau na threfnwyr y carnifal unrhyw amcan o ba mor hiliol oedd eu gweithredodd? Ydi, ond nid bwriadol yw bob math o hiliaeth. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n cymryd cyfleoedd fel rhain i ymddiheuro ac i ddysgu, nid i weiddi amddiffyniad o’n hunain neu’n ffrindiau.

Fy siom mwyaf i yn y llanast hwn i gyd yw’r gymharol distawrwydd oedd i’w gael gan Gymry Cymraeg. Wrth edrych ar Twitter pan mae sarhad diweddaraf yn erbyn yr iaith wedi’i brintio, mae bron pob yn ail trydariad ar fy ffrwd i’n ymateb cryf. Roedd cryn ddistawrwydd i’w weld ar Twitter pan ddaeth y stori am y carnifal i’r golau dydd. Rhai ail-drydariadau o ddolenni straeon newyddion, falle, ond prin oedd yr ymatebion ffyrnig o’n i wedi arfer â nhw. Rydw i’n falch iawn o weld erbyn rwan bod pobol fel @Madeley wedi gwneud cryn ymdrech i ymateb yn gryf i’r digwyddiadau ond mae rhai o’r ymatebion iddyn nhw wedi bod yn ffiaidd i’w darllen.

Mae’n rhaid i ni wynebu’r anwybodaeth sydd yn amlwg i’w gael o hyd yn ein cymdeithasau ni. Mae angen cael sgyrsiau anghyfforddus. Mae angen herio pobol a herio’n hunain. Mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy’n barchus, yn sicr, ond mwy na dim byd mae angen ei gwneud. Nid trwy ddistawrwydd mae newid agweddau na dysgu.

Mae’r wythnos diwethaf wedi’n siomi fi’n llwyr fel Cymraes. Mae’n rhaid i ni wneud yn well.

Llun gan Aeronian (CC BY SA)

Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth

Ar ddydd Llun y Steddfod cyfrannais at sesiwn gyda Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn dwyn y teitl ‘a ydi Cymru’n llithro o’n gafael?’ Roedd yn thema amserol am fwy nac un rheswm, ac wrth edrych yn ôl, roedd amgylchiadau’r bore hwnnw’n rhyw fath o ddameg o’r sefyllfa ehangach dan sylw.

Roeddwn yn hwyr yn cyrraedd oherwydd y trefniadau cludo. Gyda’r drefn osodedig yn anaddas oherwydd glaw trwm a pheryglon parcio, maes Mona oedd y man ymgynnull ar gyfer bysus. O ganlyniad i’r diffyg stiwardiaid, diffyg cerbydau a diffyg sustem draffig addas, roedd y daith yn un aflwyddiannus o safbwynt cyrraedd y maes mewn pryd.

Ac eto, o leiaf roedd yr Eisteddfod wedi adnabod y broblem, wedi cynllunio mewn modd amgen, a cheisio trefn arall. A dros y dyddiau a ddilynodd roedd y stiwardiaid a heddlu wedi cynyddu, felly hefyd nifer y bysus, a gydag addasiad i’r sustem draffig sicrhawyd llwyddiant yn y pendraw.

Y diffyg ewyllys a dyhead i geisio gwneud pethau’n wahanol oedd thema ganolog fy nghyfraniad (hwyr) i’r sesiwn dan sylw, a’r goblygiadau o ran sefyllfa Cymru a’n dyfodol.

Yr ewyllys i barhau?

Tri digwyddiad diweddar sydd yn amlwg cynnig eu hunain wrth adlewyrchu ar ffawd Cymru: Brexit, yr Etholiad Cyffredinol, a Chynllun Datblygu Lleol (CDP) Gwynedd a Môn.

Mae’r amddiffyniadau o’r CDP gan ei gefnogwyr yn adlewyrchu naill ai tuedd i wadu cyfrifoldeb neu duedd i blygu i’r drefn: clywid rhai yn dadlau eu bod yn analluog i wrthwynebu gan feio’r Llywodraeth, ac eraill yn dadlau rhaid wrth godi tai niferus, er mwyn i’r farchnad gweithredu er lles pobl leol sydd am bris teg – a thrwy hynny cofleidio’r drefn gyfalafol, neo-ryddfrydol, a rheolau’r farchnad rydd, sydd fel petai’n drech nag unrhyw ystyriaethau eraill.

Mae modd dehongli sefyllfa’r CDP o safbwynt un o destunau gwleidyddol olaf yr athronydd JR Jones (a ysbrydolodd y mudiad cenedlaethol a Chymdeithas yr Iaith yn 60au ac sydd yn destun llyfr a lansiwyd yn yr Eisteddfod). Yr Ewyllys i Barhau yw’r testun hwnnw, sy’n awgrymu mai’r frwydr dros yr iaith yw’r unig frwydr all fod yn ddigon radical ac ingol i gynnal cenedlaetholdeb Cymreig – oblegid dyma’r ewyllys i barhau yn wyneb difancoll.

Yn ôl JR, nid yw’r ewyllys i ymwahanu er mwyn gwella cyflwr bywyd (dadleuon Plaid i’r Cymry Seisnigedig, neu Wales) yn ddigonol. Mi fydd y sawl a dargedir gan y ddadl honno byth mewn peryg o wynebu ei thranc yn yr un ffordd, oherwydd fe fydd wastad lle iddynt o fewn y gyfundrefn Brydeinig.

I JR, felly, mi fyddai’r dadleuon gan Blaid Cymru yn achos y Cynllun Datblygu yn gymesur a gomedd yr ewyllys i barhau, ac yn ergyd drom, os nad marwol, i genedlaetholdeb Cymreig yn ogystal. Dyma ildio troedle olaf y Gymraeg fel iaith gymunedol, a chyda hynny gwahodd tranc y Gymraeg fel priod iaith Cymru. Heb yr ewyllys i amddiffyn yr iaith, ni fydd ewyllys i’r genedl barhau.

Mae yna resymau dros ystyried y ddadl fel un perswadiol. Os nag yw Plaid Cymru yn gallu catrodi eu grymoedd i herio’r drefn gynllunio’n daer, mae’n deg awgrymu bod pethau’n edrych yn ddu iawn ar yr achos cenedlaethol.

Yn wir, mae’n ddigon posib dychmygu estroniaid yn dweud rhywbeth fel hyn: “You Welsh are a strange breed, for you will happily administer a Welsh rule for a week of the year when you park an array of tents in a field to celebrate your language, history and culture, but in real, everyday life, you seem stubbornly resistant to the idea of creating meaningful rules that might sustain them successfully for the rest of the year.”

Parhad ‘Wales‘?

Ond gadewch imi gynnig beirniadaeth, neu o leiaf safbwynt arall ar ddehongliad JR. Un ffactor mae’n bosib na fyddai’r proffwyd mawr wedi rhagweld oedd lladdfa Thatcher, ac ing a cholled y Wales ôl-diwydiannol – a hyrddiodd datganoli ymlaen. Afraid dweud na fyddai chwaith wedi rhagweld methiant Llafur i wyrdroi’r sgil effeithiau, na chwaith dyfnder a dycnwch y llymder diweddar.

Efallai bod Wales yn parhau, ond rhaid gofyn a yw’r parhad yna unrhyw rymusach ac iach – o ran cynnig ystyr a hunan-barch i’w bobl – na’r Gymru Gymraeg sydd bellach ar daen, hyd a lled y Fro Gymraeg?

Na, mentraf.

Ac mae dehongli Brexit a chanlyniadau’r etholiad o safbwynt y thesis hwn – sef bod Wales yn wynebu’r un posibiliad o dranc a’r Gymru Gymraeg – yn gofyn sylwadau pellach.

Brexit a’r etholiad cyffredinol

Ar yr un llaw, gellid ystyried y bleidlais Brexit yn ymwadiad o’n hysbryd a diwylliant – mynegiant o’r gwrthchwyldro ffasgaidd a Phrydeindod little-England yn boddi’r ymwybod Cymreig. Mae’r tuedd yma’n sicr o fod wedi nodweddi’r bleidlais UKIP a aeth i’r Toriaid yn yr etholiad cyffredinol.

Ond dehongliad o’r bleidlais ar ran rhai byddai awgrymu mai “Gwaedd yn Wales” oedd y weithred o bleidleisio dros Brexit i nifer yn y cymunedau yma – ymgais i atgoffa’r drefn eu bod yma ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i fynegi’r ewyllys i barhau – hyd yn oed gweithred hunanddinistriol.

Mae modd dehongli’r etholiad o’r un safbwynt yn ogystal – sef gwrthsefyll yr ymdeimlad diymadferth, ac osgoi bygythiad einioes i Wales. Hynny yw, os ystyrir yr ymgyrch gan Lafur Cymru yr hyn a nodweddwyd ganddo, i raddau helaeth, oedd yr ‘ewyllys i barhau’ yn wyneb bygythiad difäol y Torïaid. Yn achos apêl Jeremy Corbyn, a ychwanegodd yn sylweddol at lwyddiant Llafur yng Nghymru, y dyhead i wrthwynebu’r drefn oedd wrth wraidd ei boblogrwydd.

Wrth ddarllen holl bamffledi Llafur Cymru ac wrth wrando ar Carwyn Jones, y bygythiad einioes, y syniad y byddai’r Torïaid yn gorffen gwaith Thatcher, oedd yn adleisio yn ei ble i’r etholaeth. Roedd addewid Corbyn ‘o blaid y nifer yn erbyn yr ychydig’ yn apêl o boblyddiaeth bur i’r sawl oedd wedi’i amddifadu gan y sustem neo-ryddfrydol

Llygedyn o obaith?

Beth yw goblygiadau’r dehongliad yma bod ‘Wales‘ JR bellach yn wynebu tranc yn yr un modd a ‘Chymru’? O dderbyn y dehongliad gallwn ddweud y bydd dinistr economaidd a mewnlifiad pobl i’r Gymru Gymraeg yn cael ei efelychu gan ddinistr economaidd a mewnlifiad diwylliannol yn Wales – na fydd o reidrwydd yn disodli’r boblogaeth ond yn hytrach yn lladd yr hynny o ysbryd sydd ar ôl.

Er bod hyn yn sefyllfa o wendid ar un olwg, ar olwg arall mae’r argyfwng yma yn ei gwahanol ffurfiau yn rheswm dros obaith, cyhyd y bod pobl o wahanol gymunedau Cymreig yn fodlon cydnabod brwydrau ei gilydd, a derbyn bod y drefn neoryddfrydol yn gofyn tranc pob un ohonynt, ac eithrio’r elit.

Mae hynny’n gofyn dealltwriaeth gan Wales o wendid a natur arbennig iaith a diwylliant Cymru ar y naill law, ac ar y llaw arall mae’n gofyn cydnabyddiaeth gan Gymru fod gan gymunedau Wales rhywbeth neilltuol sydd yn wahanol i Brydeindod sydd werth parhau – hyd yn oed os nad yw’n adlewyrchu eu delfryd nhw o Gymru.

Rhaid derbyn, er enghraifft, bod cydymdreiddio hanesyddol y Saesneg gyda thalpau daearyddol megis Blaenau Gwent yn rhan o hunaniaeth y genedl ddichonadwy o Gymru/Wales – gan gofio hefyd bod yna ewyllys ym mhob un o’r talpiau yma i weld Cymru’n sicrhau troedle o’r newydd trwy addysg ddwyieithog.

Yn fwy na dim, mae’n gofyn bod y sawl sydd a’r ewyllys i barhau yn adnabod eu ffrindiau a’r sawl sydd yn mynd i frwydro gyda nhw i drawsnewid y genedl. Mewn amrant o argyfwng, roedd Carwyn Jones yn angerddol ei gri bod angen sefyll yn gadarn a gwthio yn ôl, ond digon buan y bydd yr ysbryd yma’n diflannu dan law farwaidd gwleidyddiaeth ein hoes: ‘celfyddyd y posibl’ yn unig.

Neo-belagiaeth

O safbwynt hanesyddol a diwylliannol, gellid mynegi’r frwydr rhwng y sawl sydd a’r ewyllys i barhau, ar sawl sydd yn plygu i’r drefn neu wadu cyfrifoldeb, trwy amlygu dau feddylfryd hanesyddol o bwys.

Yn y llyfr Credoau’r Cymry, rwyf yn trafod yr hyn y gellid disgrifio fel ‘neo-belagiaeth’, sef natur syniadaeth nifer o’n ffigyrau mawr: JR Jones, Raymond Williams, Aneurin Bevan, Michael D Jones, yr heddychwyr Henry Richard a David Davies, Robert Owen, yr athronydd Richard Price, Glyndwr a Hywel Dda.

Awgrymaf yn y casgliad eu bod oll yn mynegi elfen ar feddylfryd y Cymro cyntaf rwy’n trafod (Brython, a bod yn fanwl gywir), sef Pelagius. Dyma un sy’n enwog yn hanes Cristnogaeth am herio Awstin Sant, ac yn arbennig y syniad o’r pechod gwreiddiol a natur ddiymadferth y bersonoliaeth ddynol. Yn hytrach, dywed Pelagius bod gennym yr ewyllys rydd, a’r gallu fel bodau dynol, i sicrhau ein hiachawdwriaeth trwy law ein hunan.

Mae’r tueddiad yma i weld ein ffawd yn ein dwylo, gan arddel iwtopiaeth a gweledigaethau mawrion yn un sydd wedi parhau tan yn ddiweddar, ond mae neo-belagiaeth fel petai ar drai, yn yr union foment hanesyddol pan mae gennym y sefyllfa wleidyddol i wireddu ein hunain.

Yr Ymneilltuaeth newydd

Ers ysgrifennu’r gyfrol, fodd bynnag, yn gynyddol fe’m orfodwyd innau i gydnabod meddylfryd sydd yr un mor Gymreig, ond sydd wedi ymledu llawer pellach. Yn nhermau Marx, estronyddu byddai hynny. Yn nhermau Dan Evans dyma natur wan ac ol-drefedigaethol y Cymry.

Ond mae modd hefyd ei ddisgrifio yn nhermau’r Ymneilltuaeth newydd. Beth yw ystyr hynny? Ceir dadansoddiad a beirniadaeth lem gan Iorwerth Peate yn yr Efrydiau Athronyddol o’r modd y roedd Methodistiaeth wedi meiddiannu hen Ymneilltuaeth y Bedyddwyr ac Annibynnwyr.

Iddo ef, llygredigaeth o draddodiad oedd hwn; y dyhead Methodistaidd i ymwneud a’r byd, ei ddiwygio a’i wyrdroi. Gwir ysbryd Ymneilltuaeth Gymreig oedd ymbellhau o’r byd, chwilio am iachawdwriaeth yn y bywyd nesaf, ac ysgwyddo baich bywyd gydag urddas ac amynedd.

Wrth wynebu’r argyfwng sydd ohoni awgrymaf fod modd cymeriadu ein hymateb cyfoes fel ffurf ar Ymneilltuaeth newydd: tueddiad i dderbyn y drefn, gweithio o fewn cyfyngiadau’r sustem, a gwneud yr hyn sydd angen er mwyn i’r unigolyn bodloni a’i fywyd. Gwelwn dim ond ambell i eithriad neo-belagiaeth, sef yr ewyllys i frwydro, i dderbyn cyfrifoldeb, a cheisio plygu’r byd i’r ewyllys honno.

Llwybrau amgen

Awgrymaf, felly, yn hytrach na gweld y sefyllfa gyfoes fel un sydd yn rhannu’r blaengar a’r ceidwadol, neu sydd yn rhannu ar hyd llinellau pleidiol, y dylem yn hytrach cynghreirio ar sail y sawl sydd yn fodlon ymgymryd â’r agwedd neo-belagaidd yn erbyn anobaith yr Ymneilltuaeth newydd.

Pwy yw’r bobl hynny sydd a’r ewyllys i barhau, pa grwpiau sydd hyd a lled Cymru nad sydd yn fodlon derbyn y drefn ac sydd am wrthsefyll er mwyn creu rhywbeth gwell, a phwy yw’r arweinwyr sydd yn fodlon derbyn cyfrifoldeb a chynnig gweledigaeth gadarn i’r dyfodol?

Mae’r glaw yn prysur fwrw, a’r pydew yn dyfnhau. Rydym mewn peryg o ffeindio ein hunain yn sownd yn y llaca. Rhaid wrth geisio llwybrau newydd, na fydd o reidrwydd yn llwyddiant yn y lle cyntaf, ond fydd o leiaf yn cynnig gobaith o ffordd ymlaen.

Cyfweliad Griff Lynch: “dwi wedi penderfynu ‘cymryd y plunge’ fel petai”

Dyma Griff Lynch yn ymateb i gwestiynau Y Twll ar beth sy’n gyrru ei grefft fel artist solo. Mae e wedi bod yn adnabyddus ers blynyddoedd fel aelod o grŵp Yr Ods a’i waith ar raglenni teledu ond rydym wedi dewis canolbwyntio ar ei waith cerddorol dan ei enw ei hun. Cynhaliwyd y cyfweliad dros e-bost ym Mehefin 2017.

Rwyt ti wedi ysgrifennu nifer o ganeuon fel artist solo erbyn hyn. Ces i fy synnu i ddarllen dy fod ti’n recordio’r cyfan adref ac wedyn yn cydweithio gyda micsiwr yn Llundain. Wyt ti am ymhelaethu ychydig ar hyn? Efallai nid yw’r broses yn dra wahanol i’r ffordd mae cynhyrchwyr electroneg a dawns yn gweithio.

Dwi’n recordio’r synnau adref ar Logic X ar fy iMac. Fyddai’n recordio lleisiau fel arfer efo Frank Naughton neu Gruff Pritchard, er mwyn cael ail farn a chyngor harmoneiddio. Mae lot o artistiaid yn mynd ymlaen wedyn i gymysgu’r deunydd i gyd ei hunain, ond dwi’n grediniol fod ail glust ar drac yn gwneud gwahaniaeth amhrisiadwy. Mae Tom, sy’n gwneud hynny i mi, yn dod a safon i’r mix sy’n anodd i esbonio, ond pe bae chi’n clywed beth dwi’n yrru draw ato, a beth sy’n dod yn ol atai, mae’n hollol amlwg. Tydwi erioed wedi cyfarfod na siarad efo Tom. Dim ond ebyst. Eto mae o’n rhan reit fawr o’r gwaith.

Fe fydd ambell i gig Griff Lynch dros yr haf eleni. Beth yw’r drefn fel artist solo ar lwyfan? Yn amlwg bydd y drefn yn wahanol i drefn Yr Ods, ac yn wahanol i’r recordiadau.

Dwi wedi bod yn dal yn ol ar wneud set fyw gan nad ydwi’n saff beth yn union dwi ishio’i gyflawni yn hynny o beth, ond dwi wedi penderfynu ‘cymryd y plunge’ fel petai. Mi fyddai’n mynd ati yn gwbwl wahanol i’r deunydd record – drymiau byw, bass byw, ambell i sample, a synths / gitar.

Caneuon dwi’n ysgrifennu yn eu hanfod. Felly er fod y genre electroneg dwi wedi ddatblygu ar recordiad, yn iaith hollol wahanol i be fydd y trefniant yn fyw, mae’r ddau yn dweud yr un peth.

Wyt ti eisiau rhannu unrhyw feddyliau ar dy benderfyniad i ryddhau caneuon mewn dwy iaith? Er enghraifft ‘coctel o ddiflastod, anobaith a thor calon’ oedd disgrifiad label I Ka Ching o Hir Oes Dy Wen, dy sengl solo cyntaf go iawn. Ydy un iaith yn haws neu anoddach na’r llall pan yn canu am bethau personol?

Mae ysgrifennu cerddoriaeth yn y Gymraeg yn llawer mwy naturiol i mi. Dwi’n teimlo mai dyna’r cyfrwng gorau i fy nghelf, ond weithiau mae’n bwysig rhoi dy hun allan o’r comfort zone a thrio pethau erill. Nid pawb sydd gan y dewis o ysgrifennu mewn dwy iaith. Dwi’n meddwl hefyd weithiau fedri di fachu ambell i ffan drwy ganu yn Saesneg, gwneud dy hun yn eithaf ‘approachable’, a bydda’ nhw’n fwy parod i wrando ar y caneuon Cymraeg. Peth od ydi ymateb gwahanol bobol i ieithoedd mewn caneuon.

Mae’r fideo Hir Oes Dy Wen yn portreadu sesiwn stwidio ar gyfer rhyw fath o fideo pop. Yn y diwedd nid ti yw’r seren bop go iawn yn y sesiwn. O’n i’n gweld bod Rhodri Brooks yn actio fel cyfarwyddwr celf o fewn y fideo, ond dyna oedd ei rôl go iawn ar y fideo. Mae rhywbeth ‘meta’ am hyn – yn does?

Ia o ni’n eitha awyddus i gael thema i’r holl beth, mae’n haws cymryd rheolaeth ar bethau felly pan ti’n neud popeth dy hun. Mi ‘oedd Rhodri wedi tynnu’r lluniau gwreiddiol, a mi ddatblygodd y syniad i’r fideo o hynny. Cwbwl oedd gen i mewn golwg yn ddiweddar oedd fod rhaid i mi edrych yn bored a annobeithiol, ond o ni’n chwylio am ffordd o neud o hefyd yn ddiddorol i wylio! Roedd o’n syniad ddatblygodd rhwngtha i, Rhodri, a Ryan Owen wrth saethu, a o ni ddim yn gant acant shwr be oedd y fideo yn mynd i fod tan i mi ei olygu, a lwcus nath o jesd gweithio.

Mae nifer o negeseuon ar dy gyfrif Twitter yn cyfeirio at sefyllfa Cymru a gwleidyddiaeth. Roedd yr hanesydd Gwyn Alf Williams arfer cyfeirio at y ffyrdd mae pobl Cymru wedi ailgreu’r genedl fel ymateb i sioc sawl gwaith dros y canrifoedd. Sut fyddi di am ailgreu Cymru pe taset ti’n gallu?

Waw am gwestiwn. Yyyyyym fysw ni’n trio ail leoli’r wlad yn rhywle. Rhywle cynnes fatha De America. Rhyfedd fod neb wedi trio hynny mewn gwirionedd.

Dilynwch Griff Lynch ar Twitter neu Soundcloud.

Mae cylchgrawn Monocle yn wael iawn

Monocle 105

Mae cylchgrawn Monocle newydd ddathlu 10 mlynedd o fodolaeth, ac mae’n wael iawn.

Gadewch i mi ymhelaethu rhag ofn eich bod am ystyried tiwnio mewn i’w brand ar unrhyw gyfrwng neu wario arian ar gopi printiedig dros yr haf.

Yn rhifyn 105 o’r cylchgrawn (Gorffennaf/Awst 2017) mae cyfweliad â’r triawd Saint Etienne sy’n cyfeirio at eu hallbwn fel ‘electro pop’ heb unrhyw fanylion eraillo gwbl am y gerddoriaeth, datblygiad y grŵp dros ddegawdau na arwyddocad eu gwaith. Yn hytrach mae’r cyfweliad yn rhestru llwythi o enwau trefi yn Lloegr ac yn holi am eu magwriaeth yn yr Home Counties yna. Mae potensial i wneud rhywbeth hynod ddiddorol am y pwnc yna, peidiwch â chamddeall, ac mae’r band yn gallu siarad os oes rhywun sy’n gallu gofyn cwestiynau o safon. Ond mae hyn yn wan iawn ac yn ddiflas iawn.

Mae eitem am ddawnsio yn Tel Aviv sydd ond yn cyfeirio at sut gymaint o hwyl y mae’r awdur wedi ei chael mewn clybiau yna. Mae croeso i bawb yn Tel Aviv! Mae hyn at fy atgoffa o raglennu teithio ar y teledu pan mae hi’n amlwg bod y criw a’r cyflwynwyr yn cael gormod o hwyl i ganolbwyntio ar greu rhaglen o safon. Yn waeth byth does dim sôn am unrhyw gymhlethdodau yn yr ardal o unrhyw safbwynt. Ond mae cyfeiriad at ‘Hen Jaffa’. Mae’n rhyfedd iawn ac yn wleidyddol iawn.

Sut mae’r fath rwtsh yn cael goroesi? Mae rhyddiaith Monocle yn swnio’n union fel y math o destun uchelgeisiol rydych chi’n cael am ddim ar awyren. Mae’n gwerthu lifestyle i ddynion, y rhai sy’n deithio’n barhaus a’r rhai sy’n breuddwydio am ei wneud. Ie, dynion. Gweler bennawd ‘Snack In Your Trunks’, y llun ar y clawr o ddyn generig, a’r hysbysebion sy’n cynnwys dynion, Rolex ac ati. Fyddwn i ddim yn synnu os mae’r un llawryddion sy’n cynhyrchu ‘copi’ i’r brochures awyrennau yn cyfrannu at gylchgrawn Monocle hefyd.

Y gwahaniaeth yw bod Monocle yn costio £7 yn fwy na’r cylchgrawn ar yr awyren.

Yn y ‘dinasoedd gorau i drigo ynddyn nhw’ doedd dim sôn am Lanelwy chwaith.