Mae rhywbeth yn digwydd ar Twitter p’nawn ‘ma.
#rhanidan. Siŵr o fod rhywun yn gwybod…

YCHWANEGOL: Mae popeth yn glir nawr. Ateb i’r cwestiwn ‘Beth yw #rhanidan?’.
Mae rhywbeth yn digwydd ar Twitter p’nawn ‘ma.
#rhanidan. Siŵr o fod rhywun yn gwybod…

YCHWANEGOL: Mae popeth yn glir nawr. Ateb i’r cwestiwn ‘Beth yw #rhanidan?’.
Syniad gwych, chwarae teg.
Beth ydyn ni’n wneud yn yr oes ôl-Cowelliaeth? Yr unig dewisiad!
Ymgyrch Facebook: John Cage 4’33″ am Nadolig #1
http://www.facebook.com/cageagainstthemachine
Mwynha’r URL hefyd.
Gyda llaw, John Cage 4’33″ os ti erioed wedi clywed e:
Gyda llaw mae’n John Cage, paid â dweud ‘John Cale‘ – byddi di edrych yn dwp, dyw e ddim yn passé eto – tan fis Ionawr 2011 o leia.
(Ti di ymuno’r ymgyrch eto?)
René Griffiths yw seren o’r ffilmiau Gaucho (1983) gyda Caryl Parry Jones ac wrth gwrs Separado! (2009) gyda’i pherthyn Gruff Rhys.
Yr albwm fe Celtica Latina sydd ar gael trwy John Hardy Music.


Dau o’r lluniau wych yn y grwp Facebook SRG Ddoe a Heddiw.
Meddai’r gweinyddwr:
Plis ychwanegwch eich llunie, fideos, sylwadau a tagiwch fel ffyliaid! Peidiwch bod yn shei!
Mi fydd y lluniau a’r fideos yn cael eu rhoi mewn albums (ar gais cwpwl ohonach chi o’r grwp gwreiddiol) a felly yn gwneud hi’n hawdd dod o hyd i luniau penodol….gobeithio!
Gyda llaw, paid anghofio’r grwp Flickr Roc Cymraeg chwaith.

Diolch Gareth Potter am gynhyrchiad wych a’i caniatad i ail-cyhoeddi’r darn o heddiw yn 1992.
Awst y 6ed, 1992
Dwi’n ddauddeg saith a dwi ddim yn teenager rhagor.
Dros y flwyddyn ddwethaf mae Ty Gwydr wedi troi yn un o brif atyniadau’r sîn bop Cymraeg. Mae’r sîn ddawns wedi blodeuo gyda grwpiau ifanc fel Diffiniad, Mescalero ac Wwzz yn cadw’r ffydd ac mae crysau t Lugg erbyn hyn yn rhan o wardrob pawb sy’ ‘rioed wedi bod i gig Cymraeg. Da ni’n rhedeg noson rheolaidd o’r enw REU yng Nghlwb Ifor Bach gyda’n mascot, Cedwyn, yn arwain y dawnsio wrth i fi, Lugg ac Ian Cottrell o Diffiniad chware’r tiwns i’r ffyddloniaid chwyslyd.
Ond dyw pethe byth yn para am byth a dwi’n eistedd ar wal ar brynhawn Iau heulog Eisteddfod Aberystwyth yn edrych mas ar Neuadd Pontrhydfendigaid wrth iddi ddechrau llenwi gyda bob math o bobol lliwgar. Mae’n weddol dawel a dwi’n clywed arogl reu yn codi ar yr awel.
Dwi ddim yn siwr pam yn union da ni wedi galw’r parti mawr yma’n Noson Claddu Reu. Roedd e siwr o fod yn swno fel good idea at the time ac mae’r big gesture wastad yn apelio ata i.
Erbyn iddi dywyllu fydd dros 2,000 o rafins, rapscaliwns, shipshwn a pharchusion yr orsedd wedi casglu i ddathlu’n wyllt mewn pentre bach yng Ngheredigion ar lannau’r afon Teifi. Mae system sain anferthol, goleuadau a lazers, Datblygu, Diffiniad, Llwybr Llaethog, Beganifs a ni. Dwi ar bigau drain.
Peder blynedd yn gynt, yn ystod haf 1988, dwi’n cofio sgwrs gyda David R. Edwards tra’n gwylio rhaglen deledu am y sîn acid house. Ar y pryd roedd Dave Datblygu’n hollol ddiystyriol am yr holl beth. Ro’n i’n anghytuno;
Ein punk ni yw hwn. Ac mae’n mynd i dreiddio i bob cornel o’n diwylliant.
medde fi,
Nes ymlaen, dwi ar ochr y llwyfan gyda Dave.
Potter, o’t ti’n fuckin iawn am acid house. I thought it was just a stupid disco craze, but it’s changed our lives! Come here!!
Medde Dave, gan roi coflaid masif i mi.
Ni greodd hwn! Dyma’n amser ni!
Ro’n ni wedi stopio fod yn alternative ac wedi cipio’r mainstream. Beth arall oedd i wneud?
Mae’r sgript Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar gael yn siopau llyfrau, cyhoeddir gan Sherman Cymru. Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar Amazon
Llun gan Kirsten McTernan
Dyma Energy Flash – un o’r caneuon cofiadwy yn Gadael Yr Ugeinfed Ganrif gan Gareth Potter.
Dyn ni’n cyhoeddu darn o’r sgript fory, Awst y 6ed – o 1992 – gyda sgwrs rhwng Gareth a Dave Datblygu am gerddoriaeth acid house.
“Lle aeth pawb?”
Rhiannon Michael, Golwg360
“Any MP will tell you that when the public can see your expenses, it’s often not the big ticket claims that cause embarrassment, but the little niggling ones.”
Arwyn Jones, blog gwleidyddiaeth BBC
“Upgrade i docyn tren… Upgrade ar docyn i Lundain… ayyb”
Treuliau a hawliwyd gan IJ 2006-2010
“It has also been rumoured that the satirical magazine Lol is to include a six-page spread on Iona Jones’ tenure at S4C. Lol will be on sale from Monday at the National Eisteddfod.”
Gwion Owain, Click on Wales
“Alun Cairns, the Welsh Conservatives’ spokesman for heritage and culture, said Ms Jones had been pursuing the right strategy and that stability was needed to ensure that strategy could continue. He said: ‘Iona Jones built strategic partnerships with the creative industries and independent sector in Wales, which was the right strategy to pursue.”
Stori wreiddiol Newyddion BBC
“Mae’r aneglurder dros y newidiadau hyn yn sicr wedi creu ansicrwydd mawr na all fod o fudd i achos y sianel…”
Rhodri ap Dyfrig
“Mewn datganiad ysgytwol neithiwr cadarnhaodd cadeirydd S4C benodiad y canwr protest o Frasil, Tony Da Gatorra fel Prif Weithredwr newydd Y Sianel.”
Gruffernol Atsain
“Oes cywilydd ganddi hi bod pawb bellach yn gwybod bod prif weithredwraig y sianel Gymraeg yn ennill mwy na David Cameron?”
Rhiannon Michael, Golwg360 (eto)
“Mae’r cyfnod nesaf ym myd darlledu yn mynd i fod yn gyffrous iawn…”
Garffild Lloyd Lewis, Gyfarwyddwr Cyfathrebu S4C newydd
Dyma tip bach am gofnod The Beach ar fy mlog personol – gemau, theatr a drama arlein gyda National Theatre Wales.
Paid anghofio’r adolygiad o’r albwm The Terror of Cosmic Loneliness yn Y Twll.
Fideo gan Dylan Goch, trwy Turnstile
Rhan i Dan ym mhob man #rhanidan
Roedd ychydig o ddirgelwch o gwmpas #rhanidan ddoe. Heddiw mae fideobobdydd wedi dadlennu’r gwirionedd gyda’r fideo ‘ma. Mwynha.
Mae Dan yn actor o’r Unol Daleithiau ac yn ddysgwr Cymraeg newydd. Mae fe eisiau rhan yn yr opera sebon Pobol y Cwm, hoff pawb.
Allai fe bod yn Yr Achubwr S4c?
Mae tudalen Facebook am yr ymgyrch yn bodoli yn barod (gyda 15 cefnogwr yn unig p’nawn ‘ma).
Mae cyfrif Twitter gyda’r enw @rhanidan (gyda 26 dilynwr yn unig p’nawn ‘ma) yn bodoli hefyd.
Dyw’r cynhyrchwyr Pobol y Cwm ddim ar gael am sylw yn anffodus. (Wel, ofynnais i ddim achos dw i eisiau cael ychydig o hwyl gyntaf.)