Y Twll » Llyfrau

Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Roderic Bowen et al, 1972
Roedd yr awdur JG Ballard yn hoff iawn o ddogfennau o bob math, hyd yn oed gweithiau sydd ddim yn atyniadol iawn i’r mwyafrif o ddarllenwyr. Bathodd Ballard y term ‘llenyddiaeth anweledig’, sef genre posibl sydd yn cynnwys gweithiau fel adroddiadau, dogfennau swyddogol, trawsgrifiadau o recordiadau o’r bocs du mewn awyren, llyfrau ffôn ac ati.

Mae’r categori llenyddiaeth anweledig yn eang iawn ac yn amrywiol. Yng Nghymru mae’r genre wedi cael sawl cyfle i gynyddu yn y dwy iaith, yn y degawd diwethaf yn enwedig.

Un hen enghraifft o Gymru yw’r adroddiad Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog, gan y Pwyllgor dan arweinyddiaeth Roderic Bowen (cyn-AS Rhyddfrydwr) o fis Mehefin 1972. Cafodd yr adroddiad ei chyflwyno i’r Ysgrifennydd Cymru Peter Thomas (Ceidwadwyr) ym mis Awst.

Tra oedd y trafodaeth am statws yr iaith yn digwydd wythnos diwethaf o’n i’n meddwl bod e’n rhywbeth cwl i’w ystyried.

Mae’r cyfrol mewn clawr caled. Y pris gwreiddiol oedd dim ond 90c am 134 tudalen difyr.

Mae hon yn dogfen ddwyieithog: Saesneg ar y dudalen verso a Chymraeg ar y recto. Prin iawn oedd defnydd o Gymraeg gan y wladwriaeth ar y pryd a doedd dim lot o bresenoldeb cyhoeddus o Gymraeg. Felly roedd y ddogfen yn ddyfodolaidd.

Mae’r lluniau yn yr atodiad i gyd o dde Cymru, efallai oherwydd roedden nhw eisiau enghreifftiau o’r categorïau gwahanol uchod ar yr un arwydd.

Mae hefyd dadansoddiad o arwyddion yn wledydd eraill: Gwerinlywodraeth Iwerddon, ‘Ffinland’ (yr enw yn yr adroddiad), Y Swistir a Gwlad Belg…

.. gyda sylwadau cyffredinol i grynhoi’r ymchwil o wledydd eraill:

i. Rhoir cydnabyddiaeth eang yn y gwledydd hyn i ieithoedd y lleiafrifoedd, a gwneir ymdrechion sylweddol i ddarparu ar eu cyfer.

ii. Derbynnir arwyddion ffyrdd dwyieithog fel un o nodweddion cyffredin bywyd beunyddiol, ac nid ydynt yn creu syndod nac yn tynnu sylw yn ormodol. Mae’n siwr eu bod yn golygu rhywfaint o waith gweinyddu a chostau ychwanegol, ond ar y cyfan nid ydynt yn creu anhawster na dadleuon.

… sydd hefyd yn wir yng Nghymru bellach diolch byth. Mae’r sylw nesaf yn ateb cwestiwn sydd dal yn cael ei ofyn yn yr Alban heddiw hyd yn oed.

iii. Codwyd y cwestiwn o ddiogelwch ffyrdd mewn perthynas a’r arwyddion dwyieithog sy’n bod eisoes gyda’r bobl oedd yn gyfrifol amdanynt. Yr ymateb pennaf oedd syndod. Cydnabyddwyd nad oedd ganddynt wybodaeth fanwl ond nid oedd ganddynt yr un rheswm dros gredu fod yr arwyddion yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch. [...]

Mae rhai o bethau yn y lluniau yn wahanol ar yr arwyddion heddiw, e.e. Y Bont-faen yn lle Pont-faen yn yr enghraifft uchod.

Ond y prif wahaniaeth yw drefn yr ieithoedd.

Mewn rhai o lefydd Cymru, fel fy ardal i, penderfynodd yr awdurdod lleol i beidio dilyn yr argymhelliad ynglŷn a threfn yr ieithodd:

Y cwestiwn nesaf i’w ystyried yw a ddylid gosod y Saesneg neu’r Gymraeg gyntaf, hynny yw, gan ddilyn ein harferiad ni o ddarllen, yn uchaf os rhoir y ddwy iaith y naill uwchben y llall, neu ar y chwith os byddant ochr yn ochr. Dyma’r ffactorau y gwelwyd eu bod yn briodol. Yn gyntaf, oherwydd yr arferiad darllen hwn, mae’n debyg yr amgyffredir yn fwy cyflym y geiriau sydd yn uchaf neu ar y chwith. Bydd y mwyafrif mawr o ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru yn edrych am y geiriad Saesneg yn hytrach na’r geiriad Cymraeg wrth ddilyn arwyddion ffyrdd, a darganfu’r Labordy Ymchwil Trafnidiaeth a Ffyrdd yn eu harbrofion gydag arwyddion dwyieithog bod llai o gynnydd yn gyffredinol yn yr amser a gymerir i ddarllen os daw’r geiriad Saesneg gyntaf. Yn ail, mae nifer o’r rhai sydd o blaid cael arwyddion dwyieithog yn rhoi cryn bwysigrwydd ar osod y Gymraeg gyntaf gan mai hi yw iaith frodorol Cymru. Credwn fod i’r farn hon gysylltiadau emosiynol gor-gryf, ond rhaid cydnabod ei bodolaeth. Pan ddefnyddir dwy iaith gyda’i gilydd, a rhoi dilysrwydd cyfartal i’r ddwy, mae’n anochel i un gael ei gosod o flaen y llall, a chytunwn beth bynnag fo’r drefn na ddylid ystyried ei bod yn adlewyrchu unrhyw wahaniaeth yn eu pwysigrwydd neu eu statws. Ystyriwyd yn fanwl y cwestiwn ai’r Gymraeg neu’r Saesneg ddylai ddod gyntaf, ac yr oeddem yn rhanedig, ond y diwedd penderfynwyd gyda mwyafrif sylweddol i argymell y dylid dangos y geiriad Cymraeg yn gyntaf ar bob arwydd dwyieithog [...] (fy mhwyslais)

Mae’r paragraff uchod yn awgrymu pa mor gynhwysfawr ydy’r llyfr yma. Os oes galw efallai gwnaf i sganio’r holl beth. Efallai bydd e’n cyfrannu i sgyrsiau yn wledydd eraill fel Yr Alban.

Gyda llaw dyma’r dadleuon o blaid arwyddion dwyieithog (ac yn erbyn!) yn ôl atebion i’r ymchwil.

‘Cyfiawnder naturiol’ ydy’r term sy’n cael ei defnyddio sawl gwaith o blaid Cymraeg.

Heddiw mae’r arwyddion yn rhan o’r cefndir yng Nghymru fel y dylen nhw fod, rydyn ni’n ei chymryd yn ganiataol. Ond ar ôl i mi ddarllen yr adroddiad dw i wedi bod yn eu darllen nhw mewn ffordd wahanol tra bod i’n teithio o gwmpas.

Er cafodd y pwyllgor Bowen ei dylanwad ar ein strydoedd, ymgyrchwyr iaith – Cymdeithas yr Iaith yn bennaf – wnaeth sbarduno’r arwyddion ffyrdd yn y lle cyntaf wrth gwrs dros fwy na saith mlynedd o ymgyrchu. Mae ein byd yn edrych yn wahanol oherwydd nhw – ond wastad yn addasu ei hun i ddilyn y drefn newydd heb werthfawrogi’r ymgyrchwyr arloesol.

Felly mae rhywun fel Vaughan Roderick nawr yn gallu cywiro’r cyflwynydd Wedi 7 – ar Sianel Pedwar Cymru, yn Gymraeg – i ddweud bod y BBC yn ‘nodi’ yn hytrach na ‘dathlu’ hanner can mlynedd ers Tynged yr Iaith.

Gwnawn ni orffen gyda rhywbeth gwahanol – llun gan y ffotograffydd Raymond Daniel sydd yn ddangos aelodau o Gyfeillion yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith yn gyflwyno eu argymhelliad nhw. Tynnwyd y llun yn Aberystwyth ym mis Ebrill 1971 pan oedd y cysyniad o Gymraeg ar ein arwyddion yn freuddwyd yn unig.

Retromania ac ailgylchu diwylliant pop, oes gormod?
Dyma un o fy hoff lyfrau o lynedd, Retromania gan Simon Reynolds. Tybed os oes unrhyw bobol Cymraeg eraill wedi ei darllen hefyd? Os oes gyda ti unrhyw ddiddordeb mewn diwylliant pop fel newyddiadurwr, DJ neu artist mae’n hanfodol yn fy marn i.

Mae’r llyfr yn manylu ein obsesiwn gyda’r oes pop a fu. Roedd wastad rhyw elfen o ddiddordeb mewn y gorffennol ond bellach mae lot mwy o enghreifftiau fel: bandiau yn ailffurfio, ail-creu neu ailgymysgu hen gerddoriaeth, ail-rhyddhau clasuron enwog a choll, artistiaid fel Duffy, Amy Winehouse, White Stripes, Girl Talk a Primal Scream ac amgueddfeydd pop o gwmpas y byd.

Mae Reynolds hefyd yn awgrymu gwreiddiau’r sefyllfa: argaeledd hen gerddoriaeth ar YouTube, Spotify ac MP3 (oedd ein 60au trwy’r dosbarthu yn hytrach na’r arddulliau cerddorol a genres newydd?), llwyddiant y diwydiant hanes pop fel busnes, gwahaniaethau gwleidyddol rhwng y 60au a nawr, hyd yn oed pethau fel diwedd Ras Ofod, diwedd moderniaeth a’r golled diddordeb mewn ‘Y Dyfodol’ fel cysyniad (e.e. diffyg ffuglen wyddonol) neu golled gobaith mewn beth sydd ar y gweill yn gymdeithas yn gyffredinol.

Beth sy’n digwydd pan fydden ni wedi ailgylchu popeth o’r gorffennol? Ydy’r obsesiwn yn bygythiad i arloesi a seiniau newydd nawr? Oedd y 60au ac ati yn arbennig ac unigryw mewn ffordd? Fydd gobaith o ysbrydoliaeth newydd yn ein degawd, oes ffordd mas?

Dw i’n bwriadu sgwennu cofnod neu dau neu tri ar Y Twll pan fyddi i’n gallu ffurfio meddyliau. Prif ffocws Reynolds yw diwylliant a diwydiant Anglo-Americanaidd sydd wedi bod yn ddylanwadol iawn ar Gymru wrth gwrs. Heblaw darn am Andy Votel a sôn bach am Welsh Rare Beat fel enghraifft does na ddim lot am Gymraeg yn uniongyrchol ond dw i’n meddwl bod mewnwelediadau i ein cerddoriaeth hefyd, naill ail SRG, pop o Gymru neu pa bynnag categori ti eisiau ystyried. Felly gwnaf i drio awgrymu syniadau cynnar am ei pherthnasedd i ein pop hefyd.

Gweler hefyd:

Edward H Dafis yn dod yn ôl

Hen punk Rhys Mwyn yn hiraethu am egwyddorion DIY

Ail-darganfod recordiau o Gymru

Canllaw i’r 60au!

Scymraeg a diwylliant cydweithredol
Mae copi o’r llyfr Sgymraeg yn fy llaw. Dw i wedi bod yn edrych at hanes y syniad/gair:

mis Mawrth 2004: Hedd Gwynfor yn dechrau sgwrs ar maes-e.com, Cyfieithu doniol ar gyfer lluniau o arwyddion sydd wedi cael eu camsillafu (a jôcs cyfieithu)

mis Tachwedd 2004: mae siaradwyr Basgeg yn dechrau postio lluniau o gamgymeriadau Basgeg i’r grŵp Flickr ialgi hadi

mis Chwefror 2005: Nic Dafis yn postio’r llun cyntaf i’w grŵp Scymraeg ar Flickr

yn ystod 2005: mae’r grwp Scymraeg yn tyfu. Mae cyfranogwyr cynnar yn cynnwys waen ♡, Dogfael, nwdls, krustysnaks, Atgof a llunie mair

Rhywbryd yma: mae rhywun yn ail-enwi’r sgwrs ar maes-e i ddefnyddio’r gair Scymraeg

Rhywbryd yma: mae Cylchgrawn Golwg yn dechrau is-colofn yn y colofn Jac Codi Baw o’r enw Sgymraeg gyda’r un math o luniau

mis Tachwedd 2011: Y Lolfa yn rhyddhau llyfr o’r enw Sgymraeg sydd yn casglu lluniau, mae rhai o’r enghreifftiau wedi bod yn y grwp Flickr a chylchgrawn Golwg

Tybed os mae pobol wedi sylwi gwreiddiau y cysyniad. Mae Golwg360 wedi cyhoeddi ‘cyfweliad’ bach gyda Nic Dafis sy’n werth darllen i feddwl am ei theimladau cymhleth tuag at y ‘comedi’ o Scymraeg. Mae’r erthygl yn sôn am maes-e. Er bod sôn credit i’r enw Nic Dafis yn y llyfr, does dim sôn yna am maes-e, y grŵp Flickr nid y we.

Mae lot o enghreifftiau o lyfrau, posteri, crysau-t a chynnyrchiau eraill sy’n seiliedig ar syniadau o’r we fel LOLCats, Three Wolf Moon ac ati a fy mhrosiect fy hun Sleeveface (gyda llaw mae rhai Cymraeg fel Saunders Lewis a Geraint Jarman).

Hefyd mae sgwennu doniol o’r we sydd wedi cael ei chyhoeddi mewn llyfrau fel Shit My Dad Says, Stuff White People Like, Things my girlfriend and I have argued about.

Mae gwreiddiau y syniad Scymraeg yn debyg: ‘diwylliant y we’ a chyfryngau cymdeithasol. Nid jyst cyfrwng cyhoeddi neu darlledu ydy’r we cymdeithasol. Dw i wir yn meddwl bod y we cymdeithasol yn gallu cynnal lle i gynnal creadigrwydd a chyfranogiad, rydyn ni wedi gweld enghreifftiau da sawl gwaith. Rydyn ni’n gallu meddwl am y we fel rhywle i gynhyrchu a joio syniadau creadigol ac yn aml iawn mae’r syniadau yn amlgyfranog a chydweithredol. Fel arfer maen nhw yn dod o ddefnydd o blatfformau fel blogiau, YouTube a Flickr ac ambell waith Twitter. (Dyw Facebook ddim yn enwog fel platfform i gynnal creadigrwydd o’r math yma, sy’n ddiddorol. Wel, dw i ddim wedi gweld lot o enghreifftiau.)

Mae hyd yn oed cynhadledd arbennig ROFLCon yn Cambridge, Massachusetts, UDA i drafod a dathlu diwylliant y we a memes, sef syniadau sy’n cael ei chopïo a datblygu rhwng pobol wahanol. (Es i i ROFLCon yn 2010 i redeg gweithdy Sleeveface.)

Weithiau mae’r tarddiad yn amlwg. Mae’n gallu bod yn gymhleth achos mae’r syniadau yn gydweithredol o’r dechrau. Yn yr achos Scymraeg, mae cyfraniad Nic Dafis (gyda help Hedd Gwynfor ac eraill ar y we) yn eithaf clir: y gair, y grŵp, y lluniau cynnar a’r rheolaeth y grŵp. Ond weithiau mae’n anodd dweud pwy ddechreuodd y syniadau neu mae dadleuon hyd yn oed. Yn anffodus mae rhai o gwmniau yn ystyried creadigrwydd pobol ar y we fel easy pickings ar gyfer llyfrau, hysbysebion a phethau eraill.

Efallai Sgymraeg ydy’r enghraifft gyntaf o lyfr yn yr iaith Gymraeg gyda gwreiddiau mewn diwylliant y we, yr enw a’r syniad yn enwedig. Dw i’n siŵr bydd mwy o dwf yn niwylliant y we yn Gymraeg yn y dyfodol ac yn sgil hynny mwy o gynhyrchion fel llyfrau, crysau-t, rhaglenni teledu ac ati sydd wedi cael ei ysbrydoli gan bobol ar y we.

Dwedodd Nic Dafis yn y grŵp:

Ces i gopi o’r llyfr wythnos diwetha. Fel wedes i wrth Golwg360, mae’n llyfr bach reit hwylus, bydd yn boblogaidd amser Dolig. Braidd yn siomedig bod dim sôn am y grwp yma, na chydnabyddiaeth ar wahan i’r rhestr enwau yn y cefn, ond dw i’n methu dod ar hyd i’r egni colli cwsg drosto. ‘Swn i wedi meddwl, allwn i fod wedi mynnu eu bod nhw’n cynnwys URL y grwp, o leia, ond oedd pethau eraill ar fy meddwl ar y pryd.

Mae’r llyfr yn dda ond dw i’n cytuno. Does dim rhaid i’r Lolfa rhoi credit. Does dim nodyn masnach ac mae’r syniad Scymraeg yn rhydd i bawb. Ond os ydyn ni’n gallu trio tyfu ein diwylliant cydweithredol yn Gymraeg a’r cyfleoedd busnes mae’n briodol i annog pobol, grwpiau a chymunedau ar-lein fel petai; y ffynhonnell o’r syniadau. Ac wedyn bydd mwy o ewyllus da a gobeithio mwy o syniadau ar gyfer y llyfrau nesaf yn 2012 a thu hwnt.

The Welsh Extremist: llyfr am ddim i eithafwyr sy’n hoffi llenyddiaeth
I HAD GROWN up with the word extremist almost constantly in my newspaper – Kenya, Cyprus, Israel, Malaya, Aden; very often the word changed to terrorist and then one day the words would disappear and the head of a new independent state would arrive in London to meet the Queen.

…yw’r brawddeg cofiadwy cyntaf o The Welsh Extremist gan Ned Thomas, awdur, meddyliwr a newyddiadurwr (ei ‘newspaper’ uchod oedd The Times, lle wnaeth e gweithio yn y 60au).

Mae Cymdeithas yr Iaith newydd ail-gyhoeddi’r llyfr The Welsh Extremist fel fersiwn digidol am ddim – dan drwydded Creative Commons:

Ned Thomas – The Welsh Extremist (PDF)

(Neu OpenOffice / TXT)

Daeth y llyfr mas yn wreiddiol yn 1971 gyda chwmni Victor Gollancz o Lundain ac hwyrach fel clawr meddal gyda’r Lolfa o Dalybont.

Yn y llyfr mae Ned Thomas yn trafod yr ymgyrchoedd dros statws a hawliau i’r iaith a dros sianel teledu Cymraeg. Dwedodd yr awdur Niall Griffiths am y llyfr:

Non-fiction, and frightening; not because of its promotion of militancy, heck no, but because of its revelations and analysis concerning the insidious and evil hegemonic takeover of whole countries, entire ways of life. On behalf of all oppressed nations, and for the individual creative effort threatened by the barren swamp of enforced uniformity. As vital now as it was in the 70s, and as important as Franz Fanon’s The Wretched of the Earth. Endorsed by Raymond Williams, and he knew a thing or two.

Mae Ned Thomas yn cyfrannu penodau llawn am Saunders Lewis, Dr Kate Roberts, Gwenallt. Efallai bydd rhai o’i bwyntiau yn amlwg i ddarllenwyr Y Twll achos roedd e’n meddwl am gynulleidfa di-Gymraeg ond mae’n werth darllen am y mewnwelediadau o’r amser a’r barnau profoclyd, e.e. y peth yma am yr ‘SRG’ yn y 60au a 70au versus Cân i Gymru:

It would be wrong to suggest that all Dafydd Iwan’s songs are political – he sings folk songs and love songs, children’s songs and settings of Welsh poems – or indeed that all his political songs are successful; nor is he the only writer of good political and satirical songs (there are Huw Jones and Mike Stevens). But one can say of the whole Welsh pop movement that it has derived its special character, and reached its highest point, in the political songs, and also that these are the songs which, generally speaking, have sold best. Through the popular song, through Dafydd Iwan in particular, the ideas of the Welsh leadership have been able to get through, in one of the few ways now open, to the ordinary Welsh-speaker, especially in the younger generation. A sure sign that they are getting through is the fact that Welsh members of parliament have from time to time spoken of the pop movement as if it were a sinister conspiracy. There have been efforts to divert the pop impulse into non-political channels, too. In Investiture year a “Song for Wales” competition was organized on television, where clearly a non-protesting approach was required. The results were lamentable as one would expect. The fact is that the liveliness of the young Welsh generation and of its singing is inseparable from the protest.

Mae fe’n codi’r pwynt o’r diffyg safbwyntiau amgen, yn enwedig yn Gymraeg ac ar y teledu, pan oedd yr Establishment yn darlledu’r Arwisgiad Charles yn 1969.

The inadequacy of Welsh television for the task of working out conflicts within the community was brought out during the period of the Investiture of the Prince of Wales in 1969…

Long before the summer the publicity machine, working from London in English and other languages to the world, had got into its stride. I was working in the Central Office of Information at the time and remember the stream of anodyne articles about Wales going out in preparation for the Investiture. Every heraldic and ancestral detail, every small irrelevant anecdote about Wales was unearthed. There was, of course, no suggestion of this being a country with any conflicts…

The occasion, seen from London, was at best a splendid spectacle, at worst another endearing royal joke.

The trouble was that this was also the kind of treatment that virtually monopolized the screens of the Welsh community within which feelings ran very high. Television in Welsh, in the small number of off-peak hours allowed it, tried to let sides put their case (though even this was limited by the timidity of regional administrators), but because of the organization of television, it was wholly drowned by the spate of English on the same channel. The result was that people felt that a tremendous public relations act was being put over, the media were a form of imposition, not something we shared and could use to work out our differences.

Felly dw i ddim mor siŵr roedd e’n falch iawn i weld y briodas frenhinol yn Gymraeg ar S4C mis diwethaf. Ond roedd y mwyafrif o Gymry yn eithaf hapus i’w derbyn heb sylw. Fel y dwedais i, mae’r gymariaethau yn ddiddorol.

BONWS: Ned Thomas ar Pethau / ‘Ned Thomas and the Condition of Wales’ (erthygl)

Chwedl Arthur: trêl i’r nofel graffeg
<object width="650" height="396"><param name="movie" value="http://www.youtube.com/v/9K5ZAnCFP4M?fs=1&hl=en_GB"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.youtube.com/v/9K5ZAnCFP4M?fs=1&hl=en_GB" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="650" height="396"></embed></object>

600OC. GENI CHWEDL! MYRDDIN! OESAU TYWYLL! SAESON! BRAD! Fideo newydd i hyrwyddo’r nofel graffeg newydd Chwedl Arthur, ar gael trwy Dalen Llyfrau o Dresaith. Yn eu hôl nhw: “Chwedl Arthur yw’r nofel graffeg sy’n seiliedig ar y traddodiadau Cymreig hynaf am Arthur, yn adrodd hanes Myrddin, dyfodiad y Saeson a goruchafiaeth Arthur dros y gelyn.”

Gwerthiannau nofelau Cymraeg gan Ifan Morgan Jones
Chwarae teg i Ifan Morgan Jones am rannu’i ffigyrau:

Hyd yn hyn mae Igam Ogam wedi gwerthu 2,300 copi, ac fe werthodd Yr  Argraff Gyntaf tua 450 yn y mis cyntaf, ond does gen i ddim y ffigyrau  ar ôl hynny eto. Dw i ddim yn disgwyl iddo werthu cystal â Igam Ogam  oedd â holl heip y Steddfod y tu ôl iddo, ond os ydi o’n ad-dalu ffydd y  cyhoeddwr yna’i fe fyddai’n hapus.

… a dechrau sgwrs am y pwnc ar ei flog.

Miri munud ola – pigion o lyfrau
Dychmygwch yr erchylldra; ma hi’n Noswyl Nadolig, yr eira’n drwch, chi ‘di llwyddo i lusgo’ch hun i’r dre o’r diwedd i brynu anrhegion Nadolig, ac ma na gyflafan yn eich disgwyl. Ma’r hysteria wedi hen gydio, y Go Go Hamsters wedi’u gwerthu ers tro, a hyd yn oed y Slankets croen llewpart wedi sleifio oddi ar y silffoedd fel slecs. Roedd mentro i’r siop lyfrau yn swnio fel syniad da ryw awr yn ôl, ond lle ddiawl aeth idiot’s guide yr Observer i lenyddiaeth 2010? Pwy enillodd y Costa’s eto? Ydych chi’n mynd am drioleg Stieg Larsson neu hunangofiant y Stig? Roedd Dylan Jones yn canmol Life gan Keith Richards yn GQ ond beth am Barn- gafodd Dewi Prysor farciau uwch na Meic Povey?

Wel cyn i chi golli’ch pwyll a phrynu tri chopi o A Simples Life; The Life and Times of Aleksandr Orlov am bris dau, dyma restr ffantastic o argymhellion llenyddol gan awduron o fath gwahanol- rhai o artistiaid cerddorol Cymru. Does na ddim un ohonynt yn hyrwyddo llyfr (eleni, bethbynnag…), ac felly mae eu dewisiadau amrywiol, annisgwyl, a chwbl di-duedd yn werth eu hystyried os am brynu anrheg i rywun arbennig- hyd yn oed os mai’r person arbennig hwnnw yw chi eich hun.

Gruff Meredith, MC Mabon

Barti Ddu gan T Llew Jones

Byswn i yn argymell Barti Ddu gan T Llew Jones fel presant Dolig neu unryw achlysur arall ag i unrywun o unryw oed. Mae T Llew Jones yn awdur anhygoel sydd yn sgwennu mewn ffordd sydd yn grabio’r darllenydd a tanio’r dychymyg .Mae’r cyfuniad o’r stori wir am forleidr mwyaf llwyddianus y byd , y Cymro Barti Ddu, a sgwennu graenus a naturiol T Llew Jones, yn golygu mai hwn ydi un o’r llyfrau gore erioed yn Gymraeg neu unryw iaith arall.

Alun Battrick

A Week In December gan Sebastian Faulks

Mae’r stori yn dilyn bywydau casgliad o gymeriadau gwahanol sy’n byw yn Llundain dan bwysau cymdeithas gyfoes dros wythnos ym mis Rhagfyr 2007. Y mae’r cymeriadau yn cynrhychioli trawsdoriad o gymdeithas Llundain sy’n pontio dosbarth, cenedl a rhyw. Byddai’n anodd priodoli’r llyfr yma i unrhyw ffurf llenyddol penodol gan ei fod yn cynnwys elfennau cytbwys o arswyd, rhamant a chomedi tywyll ond yn ei hanfod  mae’n cynnig darlun o ddynoliaeth yn y cyfnod cyfoes. Mae triniaeth manwl Sebastian Faulks o bynciau llosg fel teledu realaeth, pobl ifanc dadrithiedig a’r camraniadau ddilynodd at argyfwng ariannol 2008, yn dangos yr ymchwil eang bydd y rhai sy’n gyfarwydd efo Birdsong a Charlotte Gray  yn disgwyl o’r awdur. Er hyn mae A Week In December  yn wahanol i’w nofelau hanesyddol blaenorol oherwydd ei ddefnydd cynnil o eironi a comedi du. Roedd yn bleser i ddysgu fel oedd straeon y gwahanol cymeriadau yn cydblethu efo’i gilydd ac roedd y diweddglo yn ddigon annisgwyl i godi gwen mawr ar fy ngwyneb.

Aled Hughes, Cowbois Rhos Botwnnog

The Border Trilogy sy’n cynnwys All The Pretty Horses, The Crossing a Cities of the Plain gan Cormac McCarthy

Huckleberry Finn gan Mark Twain

Border Trilogy gan Cormac McCarthy ydi’r peth gorau i mi ei ddarllen ers blynyddoedd. Mae’r lleoliad, y disgrifiadau a’r delweddau yn gallu bod mor brydferth a rhamantaidd ar brydiau. ond eto y mae’r stori a’r cymeriadau yn medru bod mor ddiffaith a chreulon. Hollol anhygoel.

Does dim lot mwy fedrai ddeud am Huckleberry Finn na sydd wedi ei ddweud yn barod, felly mi adawai hynny i Ernest Hemingway: “all modern American literature comes from one book by Mark Twain called Huckleberry Finn. American writing comes from that. There was nothing before. There has been nothing as good since.

Gwyneth Glyn

Women Who Run With The Wolves gan Clarissa Pinkola Estes

Dyma fy argymhelliad o lyfr Nadolig: Women Who Run With The Wolves gan Clarissa Pinkola Estes. Dyma’r llyfr dwi’n ei brynu i’n ffrindiau benywaidd i gyd ‘leni (er y bysa fo’r un mor ddifyr i ddynion bori rhwng ei gloriau!) Ma Women Who Run With The Wolves yn glasur oesol sy’n gyfuniad o seicoleg a chwedloniaeth. Ma effaith darllen y llyfr yn rymus gan ei fod o’n taflu goleuni ar gymaint o agweddau o’r psyche benywaidd, ac yn dod a rhywun i gysylltiad agos hefo greddfau a phatrymau cynhenid bywyd. Nid llyfr i’w lyncu mewn penwythnos mohono ond trysorfa i’w mwynhau ac i ail-ymweld a hi am flynyddoedd. Cipiwch gopi a rhedwch hefo’r bleiddiaid!

Geraint Pickard, Clinigol

Coming Back To Me; The Autobiography of Marcus Trescothick

Fi’n caru criced, fi’n caru hunangofianau, a fi’n caru llyfrau sy’n gosod safon newydd o fewn eu genre. Yn gymaint mwy na chofiant cricedwr, mae Coming Back To Me – sy’n cyfleu brwydr Marcus Trescothick gyda’i salwch meddwl yn rhagorol – yn must-read go iawn.

Aled Pickard, Clinigol

Conversations With Myself gan Nelson Mandela

Wedi treulio 6 mis eleni yn gweithio gydag un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica, mae Nelson Mandela yn dipyn o arwr i fi, yn ogystal â phobl De Affrica, oherwydd y ffordd llwyddodd e drawsffurfio’r wlad a’r maddeuant dangosodd tuag at y rhai garcharodd e am 27 mlynedd. Casgliad yw Conversations With Myself o nodiadau, llythyrau a’i feddyliau dros y blynyddoedd. Mae’r adolygiadau i gyd yn addo siwrnai hynod trwy hanes bywyd un o bobl fwyaf eiconig ein hoes.

Siôn Glyn, Y Niwl

Revenge of the Lawn gan Richard Brautigan

Casgliad o straeon byrion gan Brautigan ydi’r gyfrol yma. Mae pob stori yn dudalen o hyd fel arfer, felly y mae’r llyfr yma yn un hawdd i’w godi ar unrhyw adeg or dydd. Mae hefyd yn cynnwys un o fy hoff straeon gan Brautigan sef The Scarlatti Tilt, “‘It’s very hard to live in a studio apartment in San Jose with a man who’s learning to play the violin.’ That’s what she told the police when she handed them the empty revolver. Dim ond dwy frawddeg ydi, ond ma hi’n cyfleu gymaint.

Huw M

Hen Benillion gan TH Parry-Williams

Llyfr, neu law-lyfr, gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn Mehefin 1940 yw Hen Benillion, ac un o’r anrhegion Nadolig gorau i mi erioed dderbyn. Mae’n lyfr sy’n cofnodi cannoedd o hen benillion – yn hwiangerddi, cerddi ysgafn, cerddi difrifol, caneuon chwarae, carolau – sydd wedi eu pasio o un genhedlaeth i’r llall ar hyd y canrifoedd. Dwi’n troi at y llyfr yn aml i helpu cyfansoddi, a dwi wedi cynnwys nifer fawr o’r penillion mewn caneuon. Ond y gwir amdani yw eu bod nhw’n berthnasol i bawb gan eu bod nhw’n cynnwys cyngor, doethinebau, a gwirioneddau sydd cyn wired heddiw ag yr oedden nhw 3 neu 4 canrif yn ôl. Dyma un o fy hoff rai i:

Haws yw codi’r môr â llwy,

A’i roi oll mewn plisgyn wy,

Nag yw troi fy meddwl i,

Anwylyd fach, oddi wrthyt ti.

(EP newydd am ddim: Yn Ddistaw Ddistaw Bach gan Huw M)

Mared Lenny, Swci Boscawen

Dirgelwch yr Ogof gan T Llew Jones

Llyfr am smyglwyr a Cwmtydu – mae’n wych.

Gruff Pritchard, Yr Ods

Revolution in The Head; The Beatles’ Records and The Sixties gan Ian MacDonald

Mae miloedd o lyfrau am y grwp a hwn ydi’r gorau dwi wedi ddarllen – cafodd o’i gyheoddi yn wreiddiol yn 1994 ond mae sawl argraffiad a diweddariad wedi bod ers hynny. Mae’n rhoi’r hanes tu ol pob recordiad a chân – o ba ffath o feicroffon gafodd ei ddefnyddio ar y kick drum i ba liw siwmper oedd Paul yn wysgo. Mae’n lyfr hawdd iawn i syrthio fewn ac allan ohono fo – anrheg perffaith i unrhyw un sydd ag attention span mor fyr a fi!

Radio 4: Twm Morys a Faust
Mae’r stori Faust wedi cael llawer o fersiynau gwahanol dros y blynyddoedd. Enghraifft berffaith o ailgymysgiadau ac addasiad.

Rhaglen BBC Radio 4 gan Twm Morys am Faust (iPlayer)

Mwy o wybodaeth (gwefan BBC Radio 4)

Eisiau sgwennu nofel? Tips gan Ifan Morgan Jones
Mae Ifan Morgan Jones (Igam Ogam, Yr Argraff Gyntaf) yn rhannu cynghor am sgwennu nofel:

Safbwynt – Mae’n bwysig dewis y safbwynt y mae’r olygfa yn cael  ei weld ohono ac aros gydag ef. Os ydych chi’n neidio yn ormodol o un un  cymeriad i’r llall mae yna beryg y bydd y darllenydd yn drysu. Os oes  rhaid newid safbwynt ynghanol golygfa gwnewch hynny’n hollol glir.

Yn Igam Ogam roedd bron pob golygfa o safbwynt Tomos Ap, ond yn yr  Argraff Gyntaf ces i dipyn mwy o drafferth, yn enwedig mewn un olygfa yn  y dafarn pan oedd tua phum cymeriad o bwys yn trafod gyda’i gilydd. Yr  ateb yn y pen draw oedd gadael bwlch ar y dudalen rhwng meddyliau un  cymeriad a dechrau meddyliau cymeriad arall.

Smwddio - Dyna ydw i’n galw’r broses o ail ddarllen dros beth ydw  i wedi ei ysgrifennu dro ar ôl tro a’i newid wrth i fi fynd ymlaen. Mae  drafft cyntaf bob tro’n wael, heb os. Dyna lle mae’r rhan fwyaf o bobol  yn digalonni a meddwl na fyddan nhw byth yn ysgrifennu unrhyw beth o  werth…

Llawer mwy ar blog Ifan Morgan Jones mewn cofnod penigamp. Paid anghofio – gadawa sylw os ti’n hoffi’r cofnod ac efallai bydd e’n rhannu mwy.

Adolygiad o Little Brother gan Cory Doctorow
“But you must remember, my fellow-citizens, that eternal vigilance by the people is the price of liberty, and that you must pay the price if you wish to secure the blessing.”

Dyma oedd geiriau Andrew Jackson, seithfed Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei anerchiad ffarwelio ym 1837.

Beth sy’n digwydd pan fo gwyliadwraeth yr awdurdodau yn tramgwyddo ar ryddid y bobl? A oes unrhyw derfyn i’r camau y dylai llywodraethau eu cymryd er mwyn diogelu eu pobl eu hunain? Dyma’r cwestiynau sy’n gefndir i’r nofel afaelgar hon gan Cory Doctorow sy’n dechrau gydag ymosodiad terfysgol ar San Fransisco rhywbryd yn y deng mlynedd nesaf ac ymateb Llywodraeth yr Unol Dalaethiau iddo.

Fe ddes i ar draws Cory Doctorow am y tro cyntaf ar bodlediad This Week in Tech yn rhoi sylwadau ar ddatblygiadau diweddaraf yn y byd technolegol. Yn ogystal ag ysgrifennu nofel, mae Doctorow yn gyd-olygydd y wefan dechnolegol Boing Boing ac yn cadw gwefan debyg ei hun o’r enw Craphound.

Mae diddordeb Doctorow mewn technoleg gyfrifiadurol i’w weld yn gryf ar y nofel Little Brother. Cyflwynir y stori o safbwynt y prif gymeriad Marcus Yallow, bachgen 17 oed sy’n ymddiddori mewn gemau cyfrifiadurol ac yn hacio yn ei amser hamdden. Heb ddatgelu gormod, mae Marcus yn cael profiad annymunol wedi iddo gael ei garcharu yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar amheuaeth o fod yn rhan o’r cynllun. Am weddill y nofel, mae’r darllenydd yn dyst i ymdrechion Marcus i danseilio’r awdurdodau llawdrwm yn San Fransisco ac i adfer ei hawliau o dan gyfansoddiad yr Unol Dalaethiau.

Mae’n stori uchelgeisiol a llwydda Doctorow i’w chyflwyno mewn dull gafaelgar. Gellir gweld rhywfaint o debygrwydd rhwng Little Brother a gwaith George Orwell Nineteen Eighty-Four. Ond nid yw Doctorow yn ymylu ar ysgrifennu campwaith fel ag y gwnaeth Orwell.

Mae gan Little Brother gwpl o wendidau amlwg. Dyma ddau ddaeth i’r meddwl yn syth.

Mae Doctorow yn symud yn rhy gyflym ar ddechrau’r nofel, heb roi digon o amser i ddod i adnabod y cymeriadau cyn y digwyddiad sy’n siapio gweddill y stori. Erbyn tua’r hanner ffordd, mae’r cysylltiad rhwng y darllenydd a Marcus yn teimlo’n llawer mwy cyflawn ac mae’r stori yn cryfhau yn yr ail hanner. Serch hynny, does dim byd yn annisgwyl am y diweddglo.

Nid yw’r agwedd dechnolegol o’r nofel yn mynd i apelio at bawb. Mae Doctorow yn mynd i drafferth ar adegau i geisio esbonio sut yn union y llwydda’r cymeriadau i gyrraedd eu hamcanion, ac fe allai fod yn ddigon i ambell ddarllenydd golli diddordeb yn y nofel.

Wedi dweud hynny, os oes gennych ddiddordeb mewn technoleg, consyrn dros ymateb llywodraethau i’r bygythiad o ymosodiad terfysgol, ac yr ydych yn chwilio am nofel ddarllenadwy, rwy’n siwr y cewch chi flas ar hon.