Y Twll » Steffan Cravos

Budapest yn galw – Ez itt a Tilos Rádió
Ers ei ddyfodiad mae’r we yn sicr wedi chwyldroi ein bywydau ni am byth. Mae wedi chwarae rhan enfawr yn y modd da ni’n cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda’n gilydd; sut dda ni’n prynu a gwerthu nwyddau ac wedi trawsnewid y ffordd dda ni’n derbyn, rhannu a chael mynediad at gerddoriaeth. Bellach mae’n hawdd i ni gael gafael ar unrhywbeth da ni isho (yn gyfreithlon neu yn anghyfreithlon) – diolch i’r we fyd eang. Nid yn unig y gallwn ni islwytho a dosbarthu cerddoriaeth ond fe allwn wrando ar wasanaethau radio o bob math ac o bob man ar draws y glôb ar unrhyw adeg drwy glicio botwm.

Dwi’n gwrando ar bob math o wahanol fathau o gerddoriaeth, ond cerddoriaeth electroneg, yn ei gyd-destun eang, sy’n mynd a fy mrid. Drwy’r we fe allai wrando unrhyw amser o’r dydd neu’r nos ar ystod eang o orsafoedd radio sy’n apelio at fy chwaeth gerddorol. Dwi ddim angen bod yn Llundain er mwyn clywed y tiwns grime, dybstep a crack house diweddaraf ar Rinse FM. Allai ymlacio i synnau ambient llorweddol y Buzz Out Room heb orfod mynd i Ganada neu fe allay neidio o gwmpas y ty i drac sain tecno, jyngl a drwm a bas sydd ar Full Vibes Radio o Ffrainc. Os dwi yn fwd i wrando ar weithgaredd sain, ffonograffi a chofnodion maes (field recordings innit) yna mi a’i draw at Framework Radio heb orfod mentro allan o’r tŷ, heb sôn am fynd i Estonia. Ond o’r nifer enfawr o orsafoedd radio sydd ar gael i mi, fy ffefryn yn sicr ydi Tilos Rádió, Budapest.

Ar droad y mileniwm fe ddes i gysylltiad â Beáta Pozitíva, cerddor a DJ oedd o dras Hwngareg. Ar y pryd rho ni yn rhedeg label recordiau o’r enw Fitamin Un, a dyma hi yn cynnig cytundeb dosbarthu digidol ar gyfer ôl-gatalog y label gyda Xenomusic, Budapest. Roedd Beáta yn ogystal â bod yn aelod o’r grŵp Széki Kurva, yn DJ ar Tilos (mae hi dal i fod) ac roedd hi ac amryw o’r DJs eraill ar yr orsaf wedi bod yn chwarae recordiau Tystion. Dyna sut ges i fy nghyflwyno gyntaf i Tilos.

Fast-forward deng mlynedd a dwi’n mynd allan gyda merch o Budapest sydd bellach wedi ymgartrefi yng Nghymru. Am unwaith yn fy mywyd mae gen i gariad sy’n rhannu’r un chwaeth gerddorol a fi ac mae Mara, wrth gwrs, yn ffan o Tilos Rádió. Yna yn Hydref 2009 dyma’r ddau ohonom ni’n hedfan allan i brif ddinas Hwngari ac yn ystod ein cyfnod yna, yn galw mewn (heb wahoddiad!) i Stiwdios Tilos Rádió wedi ein harfogi gyda llwyth o CDs o gerddoriaeth electroneg o Gymru. Roedd yn union fel y dychmygais – stiwdio ddiymhongar wedi ei leoli lawr stryd gefn ac i fyny ar drydydd llawr adeilad digon di-nod ond yn byrlymu ag egni unwaith aethon ni mewn drwy’r drws…

Ystyr Tilos ydi ‘gwaharddedig’ yn Hwngareg, a hon oedd yr orsaf radio gymunedol gyntaf i’w sefydlu yn Hwngari yn 1991 – gorsaf radio ‘pirate’ oedd hi bryd hynny. Erbyn 1995 daeth yr orsaf mor boblogaidd rhoddod yr awdurdodau drwydded iddi ac erbyn 2002 fe estynnwyd y drwydded darlledu o 12 i 24 awr. Serch hynnu, o’r cychwyn mae Tilos wedi bod yn orsaf nid-am-elw, gwirfoddol a chymunedol sydd byth wedi darlledu unrhyw hysbysebion. Mae’r orsaf wedi ei ymrwymo i ethos cryf o ryddid i fynegiadaeth gan chwarae rhan amlwg ym mywyd diwylliannol Budapest. Nid ydi’r DJs na’r cyflwynwyr yn cael eu talu am ei gwaith, ond hytrach yn ei wneud allan o gariad am ei bod nhw’n angerddol am y gerddoriaeth maen nhw’n troellu.  Mae’r orsaf yn cael ei ariannu yn bennaf gan gyfraniadau gan wrandawyr ac incwm o ddigwyddiadau codi arian ac yn rhannol gan brosiectau’r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol rhyngwladol.

Felly, os ydych chi, fel fi, yn ddwli ar gerddoriaeth ffync, soul, reggae, hip hop a phob ystod o gerddoriaeth electroneg o Detroit tecno i dyb step, yna mae Tilos Rádió yn nefoedd cerddorol. Rhwng 6 y nos a 10 y bore mae’r orsaf yn darlledu sioeau arbenigol a’r DJs yn cymysgu yn fyw. Heblaw am gyfarchiad byr ar gychwyn a diwedd slotiau dwy i dair awr yn achlysurol, mae’r pwyslais ar y miwsig. Does dim ‘personality DJs’. Dim malu cachu rhwng caneuon – unai mae DJs fel Palotoi yn cymysgu’r gerddoriaeth ddawns fwyaf cutting edge diweddar yn esmwyth am ddwy awr neu ma DJs fel I.Ration ar ei sioe Dub Vibration yn chwarae hen LPs Reggae o’r 60au gan adael gaps rhwng pob trac heb ddim ‘inane chatter’ fel sy’n bla ar donfedd radio fel arfer.

Os ydw i wirioneddol ishe gwybod be sy’n cael ei chwarae, yna mi edrychai ar fforwm fyw (a bywiog) yr orsaf sydd ar ei gwefan, lle ma’r DJs o bryd i’w gilydd yn dweud be sydd ymlaen, neu mi allaf eu holi nhw. A hyd yn oed gyda’r sioeau sgwrsio yn ystod y dydd ar Tilos, ma’r gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae yn hollol cŵl. Eat your heart out Jonsi.  Ond dwi’n licio’r syniad mod i allu gwrando yn fyw ar rywun tair mil o filltiroedd i ffwrdd yn chwarae records gwych am 4am. A dyna pam dwi’n caru Tilos Rádió – gorsaf lle mae’r gerddoriaeth yn cael y flaenoriaeth.

tilos.hu