Twinfield: “Dwi’n creu popeth fy hun mewn un stafell fach…”

twinfield
Ymddangosodd artist pop electronig o’r enw Twinfield ar Soundcloud ychydig dros hanner flwyddyn yn ôl.

Dyma gyfweliad newydd gyda Twinfield am ei brofiad o fod yn artist solo a’i agweddau tuag at greu a rhyddhau cerddoriaeth yn 2016.

Fel prosiect solo, un unigolyn sy’n cyfrifol am bob elfen o brofiad Twinfield. (Yr unig eithriad i’r priodoliad ‘popeth gan Twinfield’ yw’r gân Ceri Dwi Angen Cysgu, cydweithrediad gyda’r grŵp Pop Negatif Wastad.)

Hyd yn hyn mae e wedi gwneud un gig cychwynnol fel rhan o’r Peskinacht olaf (perthynas sydd wedi bod ers ei gyfraniadau i label Peski fel aelod o’r grŵp VVolves).

Anfonodd Twinfield ei ymatebion i’r cwestiynau drwy e-bost ar 24 mis Mehefin 2016.

Y TWLL: Yn draddodiadol byddai dau aelod mewn grŵp pop electronig ond rwyt ti wedi profi bod y cyfan yn bosibl gydag unigolyn erbyn hyn. Mae disgrifiad y gân newydd Rhwng Cerrig a Phridd yn dweud ‘popeth gan Twinfield’ sydd yn awgrymu ysgrifennu, canu, samplo, chwarae, cynhyrchu a dylunio graffeg. Pa mor gynaliadwy yw Twinfield?

TWINFIELD: Dwi’n creu popeth fy hun mewn un stafell fach, a dwi wedi dysgu bron popeth technolegol o’r we. Mae’r ffordd yma o weithio yn cymryd lot fwy o amser a chanolbwyntio na chwarae mewn band, ond yn y diwedd mae’n creu darn o ‘waith’ llawer mwy personol yn fy marn i. Fi wir yn caru’r broses o greu rhywbeth o ddim byd a dwi wastad yn edrych am ffyrdd newydd creadigol i wneud hynny.

Bydd gwrandawyr siŵr o fod yn chwilfrydig am eiriau fel “siaradwyr Cymraeg / byth yn dweud y gwir / Dw i wedi cael digon / ar y gwenu ffug”. Beth yw dy bolisi ar ymhelaethu ar eiriau rhag ofn bod cylchgrawn Golwg neu raglen Heno am dy wahodd di i wneud eitem?

Gofyn ydw i “Siaradwyr Cymraeg, beth am ddweud y gwir?”. Rwy’ wedi mynd trwy’r systemau arferol cerddoriaeth Cymraeg o’r blaen a dwi ddim isie ‘neud hynny eto, mae’n lladd fy mrwdfrydedd i. Dwi isie cefnogi’r bobol sy’n neud stwff achos bod nhw’n caru cerddoriaeth nid achos bod nhw’n chwennych arian a ‘viewing figures’. Dyw’r cyfryngau ddim yn helpu cerddoriaeth Cymraeg mewn gwirionedd. Ma nhw’n chware’n saff ac yn ‘uncool’ trwy roi sylw i’r un bandiau crap trwy’r amser. Dwi am aros yn glir o glique y ‘sin roc Cymraeg’ a chanolbwyntio ar sgwennu cerddoriaeth dda Cymraeg fy hun.

Tua pob mis rwyt ti’n rhannu recordiad newydd o gân newydd ar dy gyfrif Soundcloud ac wedi troi lawrlwytho ymlaen ar bob un, chwarae teg. Dwedodd rhywun yn ddiweddar “It’s probable that the greatest song ever made is sitting on soundcloud with 23 plays.”. Mae rhannu gwaith cerddorol yn haws nag erioed, ac ar yr un pryd yn anoddach nag erioed. Unrhyw sylwadau am hyn?

Mae’n wych bod unrhyw un yn gallu creu a rhannu cerddoriaeth mor hawdd dyddie yma, ond bydd lot o hanes cerddoriaeth yn cael ei golli oherwydd does dim copi caled ar gael. Dyw rhywbeth digidol ddim yn sefydlog iawn, ond mae’n rhatach a fwy cyfleus na chreu finyl a CDs. Mae’n hollol nyts bod unrhyw un yn y byd sydd efo’r we yn gallu lawrlwytho tracs fi am ddim, a dwi isie i bobol fwynhau cerddoriaeth Cymraeg o ble bynnag ma nhw’n dod.

Mae naws dywyll i eiriau dy ganeuon a’r teitlau (Strydoedd Y Nos, Does Dim Byd I Wenu Amdano, Gwaed ar Gyllell, …). Ond mae pob un yn ddawnsiadwy iawn. Pa mor bwysig yw dawns yn dy fywyd?

Baswn i yn hoffi dweud bod rheswm dyrys am y gwrthgyferbyniad rhwyg y geiriau a’r gerddoriaeth, a falle bod ‘na, ond dwi ddim yn gwybod beth yw e. Dwi methu dawnsio ond fi wir yn mwynhau clybio nos. Adre rwy’n gwrando ar lot o gerddoriaeth electronig Ewropeaidd yr wythdegau, bandiau fel Deux a Telex, ma na hefyd band da o’r Alban o’r enw Secession, gwrandewch ar Touch (part 3) o 1984 mae’n wych!!! Rhaid cyfaddef fy mod i’n geek, dwi’n hoffi technoleg, synthesisers a pheirianneg electronig a dyna pam dwi’n meddwl bod diddordeb mawr gen i mewn cerddoriaeth dawns.

Bydd rhaid i mi ofyn beth sydd ar y gweill achos o’n i’n methu ffeindio unrhyw gyfrifon na thudalennau o wybodaeth heblaw am Soundcloud (heb sôn am unrhyw gynrychiolydd sy’n delio gydag ymholiadau ar ran y wasg). Beth sydd ar y gweill?

Dwi ddim yn bodoli ar y cyfryngau cymdeithasol, mae nhw’n wastraff amser. Os mae rhywun gwir isie cysylltu gyda fi byse nhw yn ffeindio ffordd o wneud. Dwi’n poeni am be sy’n dod nesa, ‘dwi ddim isie ymlacio a chwympo mewn i ‘comfort zone’. Dwi isie arbrofi lot mwy efo synthesisers a dysgu mwy am wyddoniaeth cerddoriaeth. Dwi ddim yn siŵr os dwi am neud mwy o gigs a dwi ddim yn siŵr os nai ryddhau record! Pwy a ŵyr cawn weld.