FIDEOS! Jamie Bevan a’r Gweddillion/Greg Bevan, Losin Pwdr/Siôn Mali, Yucatan/Eilir Pierce

Mae llwythi o miwsig fideos gwych ar hyn o bryd. Dyma dri newydd o 2014.

Mae’r gwaith cyntaf gan Greg Bevan (sy’n rhan o’r Twll ac wedi cyfrannu sawl cofnod am ffilm). Y gân yw Bron gan Jamie Bevan a’r Gweddillion o’r Bach yn Ryff EP. Fideo annibynnol oedd e gyda dosbarthiad tanddaearol trwy becyn diwylliant Fersiwn1 yn wreiddiol ond mae fe wedi cael ei ddarlledu ar Heno yr wythnos hon.

Mae’n siŵr bod unrhyw wyliwr S4C wedi gweld gwaith Siôn Mali fel golygydd teledu o’r blaen ond dyma’i début fel cyfarwyddwr, fideo trawiadol iawn a gomisiynwyd gan Ochr1 ar gyfer Losin Pwdr, arallenw Mini (gynt o Texas Radio Band). Yr actorion yw Lois Jones a Rhodri Trefor.

Yn olaf mae’r campwaith Eilir Pierce ar gyfer Cwm Llwm gan Yucatan a gomisiynwyd gan Ochr1 wedi bod o gwmpas ers mis Mai eleni ond rhag ofn eich bod chi wedi ei fethu, dyma fe (dolen allanol). Elin Siriol a Lisa Erin yw’r actorion.

yucatan-eilir-pierce-fideo

Un awgrym ar “FIDEOS! Jamie Bevan a’r Gweddillion/Greg Bevan, Losin Pwdr/Siôn Mali, Yucatan/Eilir Pierce”

  1. Diolch am y sylw i’r fideo. Cytuno bod fideo Eilir Pierce yn gampwaith – mae’r fideo yn ddehongliad perffaith o’r trac. Er, pryd ddaeth y fideo mas, wnaeth rhywun ar Twitter ei ddisgrifio fel ‘sausage fest’!

Mae'r sylwadau wedi cau.