Anghofiwch Edward H: Yr hen, hen, hen ffordd Gymreig o fyw

Yng nghanol paratoadau byrlymus gig Nadolig Mafon yng Nghrymych wythnos diwethaf, daeth i mi ennyd prin o glirder meddwl: nostalgia sydd ar fai. Mae’n hen jôc yn y Gymru freintiedig Gymraeg mai gair Cymraeg yw hiraeth, yn unigryw i’n hiaith a’n diwylliant; ni cheir gair sy’n cyfateb iddo yn y Saesneg dlawd. Ond hiraeth yw ein brwydr fwyaf. Pam arall y mae digwyddiadau fel Tryweryn yn dal i fod mor ganolog i’r ffordd y mae nifer fawr o genedlaetholwyr yn diffinio eu Cymreictod? Bu storm enfawr (ar Twitter, beth bynnag) y llynedd wedi i Iolo o Y Ffug bostio ‘Anghofiwch Tryweryn’ o gyfrif y band. Heb ystyried tarddiad y llinell cafwyd unigolion o bob oed yn rhegi a bloeddio mai amharch llwyr oedd y datganiad. Ai’r rhamant ynghlwm a’r symudiad yn y 60au sydd ar fai? Ai ni’r Cymry sydd wedi bod o dan orthwm ac wedi brwydro mor hir hyd nes ein bod ond yn gallu cymryd ysbrydoliaeth o’r trychinebau diwylliannol? Wedi’r cyfan, anaml iawn y sonir am lwyddiannau’r symudiad iaith Gymraeg ond am brotest symbolaidd Pont Trefechan (a doniol oedd gweld dicter nifer o Gymry nad oedd cynhyrchiad y Theatr Gen o’r digwyddiad yn ddigon nostalgic iddyn nhw). Efallai mai angen cyffredinol sydd ar Gymry i fod yn hyderus yn ein diwylliant yn lle defnyddio grym diwylliannau arall fel esgus dros fethu. Ond dadl arall yw honno. Yr eiliad o glirder meddwl i mi oedd mai nostalgia sy’n gyrru sîn roc Cymru ers y 60au a’r 70au chwyldroadol hynny. Mae bron pob symudiad ers hynny wedi bod yn ymgais i ail-fyw cyfnod Edward H a Neuadd Blaendyffryn.

Meddwl oeddwn i ar y pryd am yr oedolion ifanc nad oedd yn y gig; pobl tua’r un oed a mi, rhai ychydig yn hŷn; a nifer o rheini ddim yn dod gan nad oedd bandiau yr oedden nhw’n eu hadnabod ers eu dyddiau ysgol (llynedd, Mattoidz oedd yn chwarae). Dwi’n hoff iawn o Mattoidz, ond sîn gerddoriaeth, a diwylliant yn gyffredinol yw’r hyn sy’n digwydd yn awr, ar yr eiliad hon. Y pedwar band ifanc yn chwarae i 400 o bobl y noson honno oedd y sîn a nhw oedd y diwylliant. Nhw sy’n byw’r Gymru fodern; yn palu trwyddi, yn siarad amdani, yn ei llusgo ymlaen gyda nhw. Ond nid yma y mae pobl eisiau. Mae llawer o Gymry eisiau i’w diwylliant Cymreig nhw aros lle y mae, fel novelty bach hyfryd iddyn nhw ei fwynhau pan mae nhw adref o Gaerdydd dros y Nadolig. Dwi’n cofio sefyll ar ymylon protest Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan ym mis Chwefror yn gwrando ar rhywun (ymddiheiriadau, gwn i ddim bwy) yn datgan mae eisiau i’w hardal HI aros yn Gymraeg oedd hi. Dyna pam oedd hi yn y brotest. Eisiau cadw ei hardal fach hi yr union fel yr oedd pan adawodd hi am y coleg. Pa ots am bawb arall. A dyma yw problem y sîn mewn nifer o lefydd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, lle mae nifer yn dianc i ffwrdd beth bynnag. Mae’n braf cael mynd yn ôl yno i fwynhau’r ‘diwylliant traddodiadol’ ond dydyn nhw methu aros i fynd nôl i’w dinasoedd mawr am ychydig o ddiwylliant go iawn.

Dyma pam yr oedd 5000 (3000-8000 yn dibynnu ar y ffynhonnell) yn gwylio Edward H Dafis yn yr Eisteddfod fis Awst. Wrth gwrs, mae gan bawb hawl i edmygu eu caneuon, ond peidiwch ag esgus fod eu cerddoriaeth yn berthnasol yn awr na’u bod nhw erioed wedi bod yn offerynwyr na chyfansoddwyr arbennig o safonol. Yna oherwydd yr hiraeth oedd nifer fawr; a’r peth trist yw bod nifer o’r rhai hyn wedi pasio’r hiraeth ymlaen i’w plant. Dyna lle ‘roedd bandiau ag artistiaid ym Maes B yn chwarae i gynulleidfa o wyth o bobl, a’n pobl ifanc – achubwyr yr iaith – yn gwylio hen ddyn yn canu o gopi. Petai’r digwyddiad yn un ynysig mewn sîn fywiog, hunan-gynhaoliol, buasai’n ddigwyddiad positif, ond mae gweld cynifer o bobl ifanc, a thrwch diwylliant iaith Gymraeg Cymru yn pentyru i ail-fyw gorffennol na fu, yn dorcalonnus. Pa ots os yw gigiau y dyddiau yma’n debyg i gigiau’r 70au? Dyw technoleg ddim yr un peth, dyw ein cyfryngau ddim yr un peth, a dyw pobl ifanc yn sicr ddim yr un peth. Mae’n hen bryd i’r hen ffordd Gymreig o weld ein diwylliant i newid.

Ar ben arall y sbectrwm mae bandiau ifanc, di-brofiad sy’n ysu i gael eu caneuon wedi eu clywed. Roedd yn ddiddorol i mi ddechrau sgwrsio gydag ambell i fand dros Twitter yn ddiweddar am effaith y cyfryngau ar y sîn Gymraeg, a darganfod bod nifer ohonynt yn cwyno am nad oeddent yn cael sylw ar Radio Cymru. Eto, mae ein diwylliant Cymraeg wedi mynnu mai Radio Cymru YW diwylliant; mai yma yn unig y mae’r pethau da yn digwydd; yma yn unig y cewch glod sydd werth unrhywbeth; yma y mae pob band gwerth ei halen yn cyrraedd. Rôl gorsaf radio mewn diwylliant bychan yw i ddarlunio diwylliant i gynulleidfa ehagach. Nid eu rol nhw yw i greu a hyrwyddo’r gerddoriaeth, ond yn hytrach, i ddefnyddio digwyddiadau fel dechreubwynt i’w gwaith. Gellir dadlau a ydynt yn gwneud hyn yn effeithiol ai peidio, ond cefais fraw clywed y bandiau ifanc yma’n cwyno nad oeddent ar y radio. Yn amlwg, mae angen dechreubwynt, ac mae gigiau’n cael eu cynnal dros Gymru (yn achlysurol), ond os mai llafur cariad yw eu cerddoriaeth, dylai chwarae i gynulleidfa ddim bod yn broblem. O safbwynt trefnydd gigiau, dwi’n teimlo mai arna i y mae’r cyfrifoldeb i gynnwys bandiau ifanc, addawol ar y line-up yn hytrach na swyddogaeth gorsaf radio. Yr hyn sy’n ofid ydy nad ydy Radio Cymru na rhai o gyfryngau arall amlwg Cymru wastad yn gwrando ar yr hyn sydd yn digwydd ar y gwaelod. Yn amlwg, y gigiau sy’n dod yn gyntaf ac airplay wedi hynny gyda nifer o gamau yn y canol, ac ar adegau, mae’n rhaid i fandiau ac artistiaid aberthu rhywfaint i gael y gigiau cynnar ac i roi eu sŵn eu hunain allan i’w glywed. Mae’n help os oes gyda nhw sŵn unigryw y mae pobl yn awchu i’w glywed. Rôl Radio Cymru, cwmnïau teledu a’r wasg yw i gofnodi’r digwyddiadau diwylliannol yma. I gynulleidfa ehangach, mae’n weithred holl-bwysig ond yn cael ei anghofio’n rhy aml.

Ta waeth, y noson honno roedd pedwar band go ifanc yn chwarae mewn pentref go fach mewn sir go amherthnasol i neuadd llawn o bobl ifanc nad sy’n rhan o’r brif ffrwd Gymreig gan amlaf. Yma mae diwylliant. Yma mae’r Gymru fodern. Anghofiwch Dryweryn, anghofiwch Edward H, Ni Yw yr Haul.

14 sylw ar “Anghofiwch Edward H: Yr hen, hen, hen ffordd Gymreig o fyw”

  1. Diddorol iawn.
    Tra rydw i’n cytuno gyda 90% o hwn, gyda’r mater o radio Cymru, tra mae’n amlwg fod rhaglenni megis C2 yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy, ardderchog, dwyt ti ddim yn teimlo fod rhaglenni mwy prime-time, fel rhaglenni Daf a Caryl, ac eraill, yn euog o chwarae’r run hen ganeuon drosodd a throsodd a throsodd? Mi ydw i’n rhoi’r sialens yma i unrhywun sy’n eu hamddiffyn: Cymerwch gofnod o bob can sydd yn cael ei chwarae ryw fore, ac adiwch flynyddoedd eu hoedran, ac yna rhannu gyda nifer y caneuon… Mi fuaswn i’n mentro i ddyfalu y buasai’r oedran cyfartalog yn hyn na f’oedran i.
    Mae’na fwy o gynhyrchwyr cerddoriaeth ar hyn o bryd, mae’n teimlo i mi, yn y SRG na fuodd erioed o’r blaen, a rydw i’n teimlo y dylai Radio Cymru gychwyn darparu gwasanaeth mwy modern, mwy savvy, yn cadw fyny gyda’r deunydd gwych newydd sy’n bodoli. Drwy wneud hyn, byddant yn denu mwy o wrandawyr, fydd yna yn gallu, fel rwyt ti’n disgrifio, darlunio diwylliant.
    Ar y funud, mae’na gylch dinistriol; maent yn dal i chwarae Fflur Dafydd a’r barf (fel dwi’n teipio), felly y bobl fuodd yn ei gigs hi, faint bynnag o flynyddoedd yn ol, a sy’n dal i deimlo’r “hiraeth” yma rwyt ti’n ei ddisgrifio, a felly dydi pobl ifanc, fel fi, a channoedd fel fi ddim yn gwrando. A felly, dyda ni ddim yn gyrru ceisiadau i mewn, a mae’na hoelen fach arall yn arch y Gymraeg.

  2. Dim amharch at Fflur Dafydd, wrth sgwrs, ond ydi hi’n well nac unrhyw fand sydd ar y sin ar y funud, i gyfiawnhau yr holl sylw i hi, a’i thebyg?
    Petaw’na ddau gig hollol identical ar benwythnosau gwahanol yn Nghaernarfon, un gyda’r Candelas, a’r llall efo Fflur Dafydd, allai ddychmygu pa un fasa’ lawna. Ond eto pur anaml mae Candelas (a’i halbwm newydd gwych) ar y radio yn y dydd. Mae nhw, a bandiau fel nhw, wedi eu sdicio mewn cornel fach o’r min nos; C2.
    C2 yw esgus RC i beidio chwarae cerddoriaeth gyfoes yn ystod y dydd.

  3. Cytuno, Robat. Fydd sacio CPJ yn gam ymlaen, a gobeithio fydd Tommo yn gam arall… Er, dydw i ddim rhy obeithiol.

  4. Dwi methu beirniadu Radio Cymru am beidio chwarae cerddoriaeth bandiau ifanc yn ystod y dydd. Ddim dyma fwriad y rhaglenni yma. Gellwch chi ddadlu fod gwrando ar Terwyn yn darllen limrigau gan Dilys o Langennech yn crap llwyr, a fyswn i’n cytuno, ond ellwn ni ddim cael rhaglenni i bobl ifanc ar y brif orsaf radio drwy’r dydd. Angen llwyfan newydd sydd i gerddoriaeth Gymraeg, a fel ddywedes i, dechrau symud i ffwrdd o’r syniad mai RC yw’r dog’s bollocks o ddiwylliant cerddoriaeth Gymraeg.

    Ond fe wna i gytuno fod y rhan helaeth o’r gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae ar y radio yn ystod y dydd yn sothach llwyr. Y gwir yw, does dim sîn gerddoriaeth ganol y ffordd yn bodoli yng Nghymru, ac yn eu hymgais i lenwi’r bwlch yma yn y farchnad, yr oll mae RC yn gwneud yw talu cerddorion gwael i greu caneuon gwael nad oes neb yn gofyn amdanynt dim ond er mwyn llenwi ychydig o funudau mewn rhaglen. Buasai’n well petai rhai o’r rhaglenni yn fwy tebyg i BBC4, yn rhoi gwybodaeth neu’n cynnal trafodaethau ynlle trio bod yn easy-listening drwy’r amser.

  5. Cytuno Nico. Mae hiraeth yn wenwyn y Cymry, yn enwedig y rhai dosbarth canol. Dw i’n lwcus fel cyn-ddysgwr nad oes dim hiraeth gen i am y diwylliant a fu. Wnes i ddim deall gair o Gymraeg nes i mi ddechrau dysgu hi o ddifri yn 15 oed. Mae’n amser i Gymru newid ond mae angen hyder i wneud hynny, a does dim llawer gan rhai o’r hen do falle. Mae diffyg ddealltwriaeth technoleg newydd yn rhwystro hwn rhag digwydd hefyd. Mae cyflwr Radio Cymru yn drist. Mae angen meddalwedd Cymraeg nawr, nid becso am orsaf radio oes y rhufeiniaid.

    O ran Anghofio Tryweryn, cytunaf fod angen ddathlu llwyddiannau. Beth am ‘Cofiwch Bleidlais ’99’ neu ‘Cofiwch Grav’. Beth am baentio nhw ar gerrig ein mynyddoedd? Dathlu nid hiraeth sy angen weithiau. Da iawn am y blog.

  6. Mae C2 yn rhoi gormod o sylw i ddigwyddiadau Seisnig fel Greenman a Festival No6 yn lle rhoi sylw i ddigwyddiadau uniaith Gymraeg fel gig Mafon. Mae’r rhaglenni hefyd yn mawrygu bandiau ac artistiaid Cymraeg sy’n dewis canu yn Saesneg a dydy hyn ddim yn annog artistiaid i ganu’n uniaith Gymraeg.
    Llongyfarchiadau i drefnwyr gig Mafon + Y Bandana, Y Ffug, Bromas a Swnami ar lwyddo i ddenu dros 400 o bobl ifanc i’r gig.

  7. Blog da iawn. Roeddwn i’n un o’r rhai fu’n parablu yn erbyn neges “Y Ffug” y llynedd, ond erbyn hyn yn barod i syrthio ar fy mai! Ie, mae’r hiraeth yn ffactor mawr i rywun o oed arbenning. (Yn fy achos i, hiraeth am ysbryd perfformiadau Ar Log (a Dafydd Iwan i raddau) yng nghanol y 1980au). Tybed i ba raddau y gellid ddadlau bod diwylliant protest Cymraeg, gan gynnwys cerddoriaetg roc a gwerin, yn dioddef o’r syndrom ôl-ddatganoli – bod yr hunan-lywodraeth sydd gennym wedi bodloni ni i raddau helaeth- ac felly’n cael “knock-on” o ran cicio yn erbyn y tresi? Jyst teimlo bod cyd-destun gwleidyddol yn ffactor allweddol o ran y sîn canu Cymraeg. Gyda llaw, ray’n hoffi’r syniad o “Ddathlu pleidlais 99!”

  8. Please accept my apologises for writing in English, my written Welsh is poor but I think this historical perspective is still a particularly significant but often ignored subject for young people growing up in Wales today and ‘nostalgia for the ‘golden age’ has been voiced ‘spectacularly’ in the media, to show the pioneering moments where changes occurred that might have stirred a few bursts of moral outrage and resulted in public demonstration and political responses, but I believe in some ways it has revealed the despondency, impotency to bear great results and sadness oft seen by the browbeaten cultures and people born into subjugation. of course there have been some positives, particularly in the Welsh music scene and there has been such a strengthened resolve to retain the language but for some the main stream media has become embarrassingly out of touch with the relevance of today and smacks of social control and distraction trivia.
    There are so many ways you can take this argument. As a shop keeper in Llangollen, I tried to support local crafts people and went (once) to the Llandudno Show and was dismayed at how little choice of original and saleable goods were on offer- it seemed very old fashioned and irrelevant for today’s market place…I wandered ‘who on earth bought these products?’ but noticed that the successful stalls seemed to be importing most of their goods from Bombay, Bali etc and these were not fair trade or particularly well produced either, of course there were the Welsh dollies (made in Taiwan) and the rugby t-shirts, red dragons Celtic love spoons and daffodils…but how many ‘Welsh flags do we need or should we wait for a tour bus with rich Americans to pop in during a 10 minute piss stop? This got me worrying- where were all the new exciting product designs, in this flagship for Wales show? Or, were they needed or do we have to buy our stock from further afield and not support the local economy? My market research showed that while good artists and craftsman struggled not only to produce in a down trodden economy , but they were often too isolated or ill supported by marketing experts who were either too tired or long in the tooth crying out for more bling bong a bling (Bombay).~
    R.S. Thomas addressed this subject of old values and lost nostalgia in his poem ‘Welsh Landscape’ as cynically as ‘The times they are a-changin’ Dylan did in the 60’s…

    “There is no present in Wales,
    And no future;
    There is only the past,
    Brittle with relics,
    Wind-bitten towers and castles
    With sham ghosts;
    Mouldering quarries and mines;
    And an impotent people,
    Sick with inbreeding,
    Worrying the carcase of an old song. To live in Wales is to be conscious
    At dusk of the spilled blood
    That went into the making of the wild sky.”
    http://famouspoetsandpoems.com/poets/r__s__thomas/poems/11304

  9. Mae’n dweud cyfrolau bod erthygl am gerddoriaeth(ish) yn gallu arwain at sgwrs mor ddifyr ac amrywiol am ddiwylliant a gwleidyddiaeth yn fwy cyffredinol. Mae’n amlwg fod yr hiraeth am ein hunaniaeth ‘traddodiadol’, neu hyd yn oed, y ddelwedd y mae Prydain wedi ei roi arnom yn dal i fod yn ddwfn yn isymwybod nifer o Gymry, ac yn gyfrifol am ein cadw’n syml ac hen ffasiwn – un arall o driciau clyfar yr ymerodraeth efallai. Ond mae gobaith. Dwi’n teimlo fod yna grwp bach yn gweld Cymru a’u lle nhw o fewn y wlad mewn ffordd wahanol. Oes, mae angen llawer mwy o fentregarwch, a hynny’n fentergarwch gyda hyder. Mae cymorth yno wrth Fentrau Iaith ac eraill, ond ni gyd yn gwybod am ffaeleddau’r system honno. Wnes i flog ar ‘Y Gwyll’ ychydig fisoedd yn ol yn son am yr hyder newydd y gwelais yn y ffordd y crewyd y rhaglen honno. Nid ceisio newid delwed Cymru, nag ychwaith cwympo yn ol ar hen ystrydebau, ond bod a hyder yn ein adnoddau, yn ein tirwedd ac yn yr hyn sydd YN digwydd yng Nghymru. MAE yna bobl ifanc yn gwneud pethau chwyldroadol; a hynny, nid yn ceisio efelychu diwylliant Americanaidd, nag ychwaith gwthio yn ei erbyn, ond cyd-redeg fel ffrwd annibynol, hyderus.

    Nid ‘gwlad y gan’ lle caiff ‘iaith y nefoedd’ ei siarad yw Cymru i fi, ond rhywbeth mwy, cyffrous gyda phosibiliadau enfawr. Hyder ym mhob agwedd o Gymru a’i Chymreictod.

  10. Wedi mwynhau y blog yma a’r blog dilynol gan Ifan Morgan Jones. Trafodaeth difyr tu hwnt. Hefyd wedi darllen blog Rhys Mwyn “What would it take for a Welsh Language Band to pull 7000 punters”.

    Un peth sydd yn aros yn y cof trw’ hyn i gyd yw mae rhaid cofio mae “buyers market” yw’r cyfan. Dwi wir yn teimlo bod nifer o bandiau ifanc y SRG yn rhy ymwybodol o’u “hawliau” ac yn cymryd yn ganiataol bod Radio Cymru a threfnwyr gigiau a gwyliau yna i’w “gwasanaethu” nhw ac nid y ffordd arall rownd. Mae’n sgandal llwyr bod bandiau a perfformwyr y Gymraeg yn mynnu chargeo crocbris am eu gwasanaethau mewn gig heb y “pulling power” yna i denu’r crowd sy’n cyfiawnhau y pris. Mae nifer or bandiau ifanc yma sydd dim ond wedi ysgrifennu 5/6 can yn ceisio chargeo £200/300 am gig – ac rwy’n siarad o brofiad yma.

    Y ffaith yw bod bandiau Saesneg (sy’n fwy niferus na bandiau Cymraeg) yn fodlon dod i chwarae mewn digwyddiad am bris llawer iselach na bandiau Cymraeg gan ddenu’r un niferoedd (a mwy ambell waith).

    Mae bandiau y gorffenol, heb cefnogaeth S4C ayyb wedi gorfod brwydro yn galetach a fel ma Rhys Mwyn yn weud yn eu blog e:-

    “I know, I know, some bands are out there grafting, well, you just have to keep keeping on if you believe in what you do – my point is don’t believe the Welsh hype, you have to believe the audience – they are what counts. If no one turns up then you have to ask why – lack of advertising and blame the promoter or face up to the fact you band’s shit !”

  11. Dadl ddifyr, finnau hefyd yn meddwl bod y nostaljia ma am yr hen gantorion/bands gan hen ac ifac fel necroffilia diwylliannol.

  12. Gyda llaw os rhwyun mas yno a diddordeb i gyfrannu yn ariannol i’r contract sydd angen ei dynnu mas ar y person sy’n mynnu chware Eliffant ar radio Cymru bob dydd.. band sydd heb fodoli ers yr 80au?

Mae'r sylwadau wedi cau.