Casgliad newydd Recordiau Afiach: Stop The G8

stop-g8-de-cymruDyma gasgliad er mwyn codi arian i’r grŵp Stop G8 De Cymru gan Recordiau Afiach. Grŵp ydyw sydd am brotestio yn Llundain ar yr 11eg o Fehefin yn erbyn cynhadledd y G8, ble mae arweinwyr yr wyth gwlad gyfoethocaf yn gwneud penderfyniadau dros bawb arall. Dydyn nhw ddim yn ein cynrychioli ni, pobol eu gwledydd eu hunain, ac yn sicr nid ŷnt yn cynrychioli pobl o wledydd eraill y mae eu penderfyniadau yn eu heffeithio.

Mae’r CD ei hunain yn gasgliad ffrwydrol o 23 can sydd yn drawstoriad eang o genres, arddulliau cerddorol ac ieithoedd gwahanol.

Ceir traciau gan artistiaid breakcore, pync, drwm a bas, pop, hip hop, gwerin, ska i enwi rhai. Y mae cyfraniadau o’r Eidal (Gab de la Vega), gan deithwyr sydd yn byw ‘ar site’ yn Ne Cymru (Kilnaboy) a chyfraniad gan artist sydd yn byw ym Merlin (Lost Soul). Ceir lu o gyfraniadau gan ferched, Efa Supertramp gyda’i acwstig-pync, hip hop Rufus Mufasa, electronica amrwd Ammon ac anrhefn electronica popwyllt Little Eris. Ceir hefyd artistiad o gefndiroedd ethnig amrywiol ac transrywiol ar y CD. Gwahanol iawn i’r traddodoad yn yr SRG o ddynion ifanc gwyn ddosbarth canol sydd yn llenwi rhaglenni Ochr 1 a chylchgronau fel Y Selar.

Peth difyr arall ynghylch y CD hon yw bod trawstoriad o ansawdd recordio. Y mae recordiad Mwstad a Amon yn ‘low-fi’ ac yn adlewyrchu natur D.I.Y eu recordiadau, tra mae caneuon gan rai fel Grand Collapse a’r Parlimentalist, o safon ‘broffesiynol’.

Adlewyrchai hyn oll slogan Stop G8 y flwyddyn hon sef: ‘un frwydr gyffredin’ y mae pobl o bob math o gefndiroedd yn dod at ei gilydd i gwffio’r system. Yn y CD y mae hyn ar waith gyda’r genres, artistiad a cherddoriaeth amrywiol yn cael ei gyrfranu fel rhan o’r frwydr. Mae’r cerddoriaeth ei hyn yn ysbrydoliaeth ond mae gormod o ganeuon i rhoi adolygiad teg ohonynt i gyd! Dwi’n chwarae’r CD yn ddi stop a un peth gellid dwed am y cerddoriaeth yma, rhaid ei chwarae’n uchel! Cerddoriaeth ar gyfer dawnsio’n wyllt ydyw.

Y mae gwrthdystiadau Stop G8 yr wythnos hon yn Llundain, mae arian o’r CD hwn yn talu ar gyfer trafnidiaeth i ymgyrchwyr ymuno yn y protestio a’r hwyl. Os gwerthir rhagor o CD’s ar ol protestiadau yn erbyn y G8 mi fydd gweddill yr arian yn talu i ymgyrchwyr o Dde Cymru deithio i brotestio yn erbyn y G8 yn yr Almaen y flwyddyn nesaf. Mae modd prynu’r CD arlein a hefyd mae modd ei brynu yn nigwyddiad Afiach nesaf.

Disc-claimyr!: Dwi’n ffrindiau gyda’r criw Afiach, oeddwn eisiau bod yn glir am hynny gan fod nepotistiaeth yn y byd Cymreig yn bob man ond oeddwn hefyd eisiau ysgrifennu am y CD gwych hwn. Efallai fy mod i yn ‘biased’ gan fod caneuon gan fy nghariad a fy ffrindiau ar y CD (wUw, Radio Rhydd, Efa Supertramp, Little Eris a Ammon i enwi rhai).Os yr wyt ti am gefnogi’r system ariannol pryna y CD a sgwennu adolygiad dy hyn! Be wyt ti’n feddwl ohoni?

Awdur: Heledd Melangell Williams

Dwi'n byw yng Nghaerdydd ac yn hoff o hip-hop a cherddoriaeth electroneg yn bennaf. Yr wyf hefyd yn blogio yn Saesneg i Radical Wales ynglŷn â gwleidyddiaeth adain chwith.