Paris: nofel newydd gan Wiliam Owen Roberts

Wiliam Owen Roberts - Paris

Wiliam Owen Roberts ydy un o’r awduron mwyaf trawiadol yn ein hoes ni. Wel, ymhlith fy ffrindiau i. Mae nofel newydd ganddo fe o’r enw Paris ar fin cael ei rhyddhau.

Mae’n anodd cael gafael ar wybodaeth ond dyma ddatganiad amdano fe i chi!

DAW’R hir ymaros am ddilyniant y nofel Petrograd i ben yr wythnos hon wrth i nofel newydd Wiliam Owen Roberts gael ei chyhoeddi gan Barddas.

Paris yw ail ran trioleg y nofelydd poblogaidd sy’n olrhain hanes teulu sy’n ymfudo yn sgil Chwyldro Rwsia ym 1917.

Mae’r nofel hanesyddol hon yn parhau i ddilyn Alyosha a’i ddwy gyfnither, Margarita a Larissa, wrth i’r newid byd dychrynllyd eu taro. Mae’r cymeriadau eisoes wedi croesi un ffin ddaearyddol yn Petrograd yn sgil y chwyldro ond ffiniau eraill sy’n rhwystro’r cymeriadau rhag byw bywydau cyflawn ac ystyrlon yn y nofel hon – a rheiny’n ffiniau seicolegol yn aml iawn.

Mae Wiliam Owen Roberts, sy’n wreiddiol o Garndolbenmaen ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn un o brif nofelwyr Cymru ac mae ei nofelau hanesyddol wedi ymestyn ffiniau’r genre, gan wneud cyfraniad pwysig ato – enillodd Petrograd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009.

Dywed Wiliam Owen Roberts: “Mae’r stori yn edrych ar sut mae’r cymeriadau yn ymgodymu â’r her o fyw mewn alltudiaeth barhaol a sut maent yn dygymod ag argyfyngau emosiynol ac ideolegol. Epic teuluol yw hi yn y bôn gyda themâu gwahanol wedi’u plethu ynddi.”

Wedi ei lleoli yn rhai o ddinasoedd mwyaf dylanwadol Ewrop ac Asia rhwng 1925-1933, mae’r amgylchiadau bellach yn atal ein cymeriadau rhag byw bywydau cyflawn ac ystyrlon, ahynny mewn cyfnod o chwalfa gymdeithasol enbyd a gwrthdaro gwleidyddol cynyddol dreisgar rhwng Comiwnyddiaeth a Ffasgiaeth.

“Mae’r teulu eisoes wedi dianc o Petrograd i Berlin, a nawr i Baris, ond maent yn dal i hiraethu am eu hen gartref.”

Fel yn Petrograd, cefnlen yn unig yw’r digwyddiadau hanesyddol yn y nofel hon. Canolbwyntia Paris, yn hytrach, ar archwilio natur hiraeth a’r berthynas rhwng colli ac ennill mewn cyd-destun gwleidyddol.

“Er mai cefnlen yn unig yw dinas Paris mae hi’n chwifio i fewn ac allan drwy gydol y stori. Mae’r ddinas wedi bod yn gysylltiedig ag ymfudwyr comiwnyddol erioed; bu Ho Chi Minh a Vladimir Lenin yn ymgartrefu yno am gyfnodau yn eu bywydau.”

Mae hon yn nofel swmpus ac uchelgeisiol, wedi ei hysgrifennu ar gynfas eang a thros gyfnod maith o amser.

“Mae gan y Cymry obsesiwn gyda gwreiddiau ond mae’r cymeriadau yn y stori hon wedi cael eu gorfodi i adael eu cynefin er mwyn dianc rhag y chwyldro. Sut mae rhywun yn gwarchod ei ddiwylliant ei hun, eiwerthoedd ei hun, ei identiti ei hun, mewn gwlad ddieithr?

“Tydi bywyda’ neb yn syml, ond mae pethau’n digwydd weithia’ sydd wirioneddol yn newid bywydau, ac yn gorfodi pobl i wneud penderfyniadau anodd.”

Mae Cyhoeddiadau Barddas yn eich gwahodd yn gynnes iawn i lansiad PARIS pan fydd Wiliam Owen Roberts yn sgwrsio am ei nofel ddiweddaraf:

6.30yh, Nos Fercher 27ain o Fawrth yn y Mochyn Du, Caerdydd
6.30yh, Nos Fercher 3ydd o Ebrill yn Palas Print, Caernarfon

Paris
Barddas
£12.95
ISBN: 9781906396527

Ar gael o’ch siop lyfrau leol neu gwales.com

NODIADAU

– Cafodd Wiliam Owen Roberts ei eni a’i fagu yng Ngarndolbenmaen. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1978 ac 1981 gan raddio mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Theatr. Ymgartrefodd yng Nghaerdydd a daeth yn awdur llawn amser ym 1989.

– Mae Wil yn awdur toreithiog sy’n ysgrifennu ar gyfer y radio, teledu a’r theatr, ond y mae’n fwyaf adnabyddus fel nofelydd. Mae eisoes wedi cyhoeddi Bingo (1985), Y Pla (1987), Paradwys (2001) a Petrograd (2008). Enillodd Petrograd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009.

– Cyhoeddwyd argraffiad newydd o Y Pla gan Gyhoeddiadau Barddas eleni.

Os dych chi’n cael cyfle i ddarllen y llyfr byddai’r Twll yn croesawu eitem go iawn amdano fe.

3 sylw ar “Paris: nofel newydd gan Wiliam Owen Roberts”

  1. Hwre, roedd Petrograd yn arbennig o dda, felly dw i’n edrych ymlaen at hon.

    Wnes i ddim mwynhau ei nofel ‘Paradwys’ gymaint, ac oherwydd camddealltwriaeth prynodd fy rhieni y cyfieithiad Saesneg o Y Pla yn anrheg i mi am ryw reswm, felly dyma esgus i mi brynu copi o argraffiad newyddydd o’r gwreiddiol Cymraeg.

  2. Dyma’r nofel gorau a ddarllenais yn y Gymraeg erioed.
    Mae’r awdur yn deall llawer am wleidyddiaeth
    y cyfnod yn yr Almaen ac yn portreadu hon yn fanwl fel
    cefndir i’r nofel.
    Am ryw rheswm, mae Paris yn llawer mwy darllenadwy
    na Petrograd, lle yr oeddwn wedi drysu yn llwyr gan yr holl
    gymeriadau, a doedd y stori ddim yn llifo
    o gwbl imi. Bydd rhaid imi ail-ddarllen Petrograd yn awr, a gobeithio
    y gwnaiff mwy o synwyr.

Mae'r sylwadau wedi cau.