Aelod o’r Gorwel

Dyma grŵp newydd o’r enw Aelod o’r Gorwel. ‘Grŵp arbrofol’ yw’r unig disgrifiad sydd gyda ni hyd yn hyn. Gwnes i benderfynu bostio’r fideo yma yn syth ar ôl i mi ei darganfod. Mae grŵp addawol newydd yn peth cyffrous ac mae gymaint o bosibiliadau. Dw i’n joio ffaith ein bod ni ddim yn nabod pwy yn union ydyn nhw eto a’r ffaith bod y gân Mantra’r Bore Tywyll a’r fideo yma yn annisgwyliedig ac yn cymharol unigryw. Os ydyn ni i gyd yn sgwennu llythyrau at Radio Cymru fyddan nhw yn chwarae’r gân hon yn ystod y dydd?

3 sylw ar “Aelod o’r Gorwel”

  1. Rwy’n aelod o dîm sy’n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel ‘mod i’n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?

    Cofion,
    Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle

Mae'r sylwadau wedi cau.