Rhys Ifans, Gwyrth a Chymraeg mewn ffilmiau

Newydd ddod ar draws y clip yma o’r ffilm The Five-Year Engagement gyda Rhys Ifans a’i gi. Er bod i’n gwenu ar ôl y clip yma heb weld y ffilm lawn eto maen nhw yn wneud yr un jôc am yr iaith, sef: mae geiriau yn anodd ei ynganu. Fel Llanfair PG ayyb ayyb.

Does ‘na ddim lot o gyfeiriadau i’r Gymraeg mewn ffilmiau Hollywood neu ddiwylliant Anglo-Americanaidd yn gyffredinol chwaith nac oes? Mae’r diffyg presenoldeb yn cyfrannu at syniadau od am yr iaith sydd gyda rhai o bobl. Felly mae argymelliad gyda fi. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhyw dau neu tri ffilm bob blwyddyn trwy’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol o Gyllid Cymru. Mae rhestr anghyflawn o’r ffilmiau ar IMDB. Felly beth am ryw fath o gytundeb product placement lle mae angen cyfeiriad bach positif i’r iaith mewn bob ffilm fel rhan o’r termau ac amodau ariannol. Dim cyfeiriad, dim cytundeb. Diwedd y gân yw’r geiniog.
:-)

Dyma un arall: actor Cymreig ifanc Christian Bale yn canu Suo Gân mewn yr addasiad Spielberg o Empire of the Sun…

Ynghylch Carl Morris

Mae gen i blog arall hefyd.
Cafod y cofnod ei gofnodi yn Ffilm a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Rhys Ifans, Gwyrth a Chymraeg mewn ffilmiau

  1. Mae Dylan yn dweud:

    Diolch am hyn! Doedd gen i ddim syniad am y clip Christian Bale yna o’r blaen.

    Hoffi dy syniad hefyd!

  2. Mae Carl Morris yn dweud:

    Wel ie, beth yw Hollywood ond peiriant diwylliant Americanaidd?
    :-)

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>