Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant

Un o fy hoff categoriau ar Y Twll ydy cyfryngau sydd yn cynnwys podlediadau, blogiau, teledu annibynnol, ffansins a chyfryngau annibynnol o bob math. Fel arfer os ydy rhywun wedi creu ‘brand’ cyfryngau annibynnol yn Gymraeg mae’n tueddu i fod yn dda iawn. Mae sawl enghraifft.

Dyma un syniad da gan Nwdls a Gai Toms: Hanner Can cofnod am gig Hanner Cant, blog sydd newydd ddechrau dogfennu profiadau o’r gig penwythnos diwethaf – sydd ymhlith y gigs mwyaf cofiadwy (ac efallai dylanwadol) erioed yng Nghymru ers parti coroni Hywel Dda yn y degfed ganrif.

Mae Nwdls wedi dechrau gydag atgofion a meddyliau personol am egni diwylliannol a grym cerddoriaeth:

Dwi wedi sylweddoli ar ôl blynyddoedd o gwffio yn ei erbyn o taw cerddoriaeth yw’r un peth diwylliannol Cymraeg sydd yn gallu croesi ffiniau fel dim un arall. Mae cerddoriaeth yn treiddio trwy gymaint o ffiniau. Dwi wedi bod yn trio hyrwyddo y llun a’r gair (ffilm/fideo a blogio/sdwff ar y we) ers troad y mileniwm ond yn sylwi rwan cymaint mwy yw’r grym diwylliannol sydd gan gerddoriaeth. [...]

Mae unrhyw yn gallu cyfrannu felly paid ag aros yn rhy hir nes bod ti’n anghofio manylion pwysig am y penwythnos.

Ynghylch Carl Morris

Mae gen i blog arall hefyd.
Cafod y cofnod ei gofnodi yn Cerddoriaeth, Cyfryngau, Digwyddiadau a'i dagio yn , , , , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>