Fy hoff gân Donna Summer

Wrth gwrs mae ei gwaith gyda Giorgio Moroder – I Feel Love, Bad Girls ac yn y blaen – yn bytholwyrdd ond pe tasiwn i’n DJo heno baswn i’n chwarae’r gân yma ar ddiwedd y nos. Mae’r cynhyrchiad ar y recordiad State of Independence gan Quincy Jones yn anhygoel, fel pryd o fwyd tri-cwrs i’r clustiau.

Mae sawl fersiwn gan gynnwys yr un wreiddiol gan sgwennwyr Jon a Vangelis ond dyma’r fersiwn hir o’r un Donna a Quincy, y gorau yn fy marn i. Chwilia am y finyl 12″ os wyt ti’n gallu.

RIP Donna.

Ynghylch Carl Morris

Mae gen i blog arall hefyd.
Cafod y cofnod ei gofnodi yn Cerddoriaeth a'i dagio yn , , , , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Fy hoff gân Donna Summer

  1. Mae Dafydd Tomos yn dweud:

    Ie wnes i wrando ar hwn y diwrnod o’r blaen. Mae gen i bias tuag at fersiwn gwreiddiol Jon/Vangelis achos dyna’r un glywes i gynta a mae albwm Friends of Mr Cairo yn wych. Ond mae fersiwn Donna Summer yn arbennig hefyd.

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>