Gweledigaeth 360? Hoff draciau 2011

Mae rhestrau 10 uchaf yn un o’r ffurfiau yna o ysgrifennu sydd yn mynnu ymateb. Dyna ydi eu pwrpas nhw’n aml iawn. Mae rhestr fel hyn mor oddrychol, ond eto, mae’r ffaith ei fod yn cael ei argraffu mewn papur newydd neu gylchgrawn yn aml yn rhoi’r argraff (heb drio gwneud hynny) ei fod yn definitive.  Wrth gwrs, mae pawb sydd â ffefryn sydd ddim ar y rhestr yn teimlo rywsut bod y rhestr yn RONG. “On’d yw hiwmor yn rhywbeth personol” meddai’r feddargraff ar grys-t rhaglen Hwyrach Slaymaker bac in ddy dei, a dyw cerddoriaeth ddim gwahanol debyg. Ond mae na asgwrn gen i i’w grafu efo rhestr ddiweddar.

Mi ddarllenais i restr 10 cân uchaf 2011 Owain Sgiv ar flog Golwg360 gyda diddordeb (Rhan 1 a Rhan 2), ond mae’n rhaid cyfadde i mi gael fy siomi gan rychwant yr arddulliau oedd yn cael ei arddangos yn y caneuon. Mae’r rhestr i gyd wedi ei boblogi gan ddynion ac i gyd bron yn gerddoriaeth sydd er efallai ddim i gyd yn beth allai rywun alw’n indie, yn yr un cyffiniau.  O’n i’n disgwyl gweld ambell i curveball yna, ambell syrpreis sonig i dawelu fy meddwl. O’n i’n sicr yn disgwyl gweld merch yna, ond wela i ddim syrpreis yn y pac yma sori. Ydi sîn gerddoriaeth Gymraeg wir yn meddu ar cyn lleied o amrywiaeth â hynny?

Lleuwen: un o'r artistiaid 'eraill' llynedd?!

Dwi’n gwybod yn sicr nad ydi’r rhestr fod yn gynrychioladol, ac efallai wir ei bod yn anheg honi bod Sgiv yn awgrymu hynny, ond oes dim un artist electronig yno er enghraifft, er bod nifer o gerddorion Cymraeg gwych yn torri cwys yn y maes yma, a’u bod wedi bod yn cael eu chwarae gan DJs radio Cymraeg a Saesneg. Does dim merchaid yno, er bod nifer fawr o ferchaid talentog a gwych yn artistiaid solo ac aelodau o fandiau Cymraeg (be ddigwyddodd i Rufus Mufasa gyda llaw?). Lle mae nhw?

Dwi ddim am ymateb gyda deg uchaf fy hun, ond mi hoffwn i gynnig rai synau sydd yn mynd tu hwnt i’r hyn mae Sgiv yn gynnig, er mwyn trio dangos ychydig o’r amrywiaeth dwi’n weld. Mae llawer heb iaith, lot yn electronig, mae gan rai deitl Saesneg (oooh!), ond mae nhw gyd gan Gymry Cymraeg hyd y gwn i ac yn haeddu cael eu trin fel rhan o sîn gerddoriaeth Gymraeg. Faswn i wrth fy modd yn clywed am rai traciau eraill sydd falle heb gael sylw digonol, felly postiwch ddolen iddyn nhw yn y sylwadau.

Y Pencadlys – Ymestyn Dy Hun
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/26394273[/soundcloud]

Ifan Dafydd – Miranda
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/25970775[/soundcloud]

Crash.Disco! – Chezza V
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/25211565[/soundcloud]

Y Gwrachod – SaiMo
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/9171219[/soundcloud]

The High Society – Nos Ddu (live in the woods)
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/13802734[/soundcloud]

Gwibdaith Hen Frân – Trôns Dy Dad (Plyci Mix)
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/25051895[/soundcloud]

Jakokoyak (feat. Stuart Jones) – 2 Lions Fflat
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/19843263[/soundcloud]

Trwbador – Eira (Avan Rijs Remix)
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/30441443[/soundcloud]

Huw M – Ba Ba Ba (Dileu Remix)
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/28526109[/soundcloud]

Y Llongau – Llwyd
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/31305142[/soundcloud]

Ojn – Tonfedd Oren
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/19366892[/soundcloud]

Kronwall – Y Gwir (Plyci Mix)
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/15899366[/soundcloud]

Aeron – Clear Morning
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/16258132[/soundcloud]

Auftrag – International Gemological Symposium (1991)
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/18924790[/soundcloud]

Banc – Arogl Neis
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/31868409[/soundcloud]

Codex Machine – Santa vs. Barbara
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/25466668[/soundcloud]

Daniel ‘Dano’ Llyr Owen – Fi ‘di Fi, Gary! by Gary Bendwr
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/12492765[/soundcloud]

El Parisa – Lleuad Llachar
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/30371910[/soundcloud]

JG Mix (demo)
[soundcloud]http://api.soundcloud.com/tracks/28618325[/soundcloud]

Y Bwgan – Penmon 95

Lleuwen – Dwi’n Gweld

Pocket Trez – Ie Ie Ie

Dr Wuw – Bong Song

MC Mabon, Ed Holden, Tesni Jones, Ceri Bostock a Dave Wrench – Dwi’n Dod o Rhyl (trac 3)
http://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/unnos/orielau/rhaglen12.shtml

10 sylw ar “Gweledigaeth 360? Hoff draciau 2011”

  1. Fel un oedd arfer gwario cryn dipyn o bres ac arian ar gerddoriaeth, dw i wedi gadael fynd a cholli cysylltiad braidd dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Er mawr cywilydd, doeddwn i heb glywed am rai o’r rhain, heb sôn am fod yn gyfarwydd â’u miwsig. Diolch mawr, wrth fy modd. Gwych.

  2. “Pres ac arian”? Pres ac amser!

    ta waeth. Am basio’r dudalen yma ymlaen i unrhyw un sy’n awgrymu bod miwsig Cymraeg yn mynd trwy gyfnod tawel

  3. Sdwff eraill dwi di mwynhau:

    Highlife – Best Bless EP
    Sculpture – Toad Blinker (a rili mwynhau lot o bethau ar Dandelion Radio)
    Nigeria Special! Modern Highlife, Afro-Sounds & Nigerian Blues 1970-6
    65 Days of Static – Silent Running
    Bjork – Biophilia
    Texas Radio Band – Bluescreen
    Klaus Kinski – Skellington Horse

  4. @Dylan mae rhai yn Soundcloud-yn-unig neu YouTube-yn-unig. Dw i ddim yn licio’r gair ‘demo’ os dyw’r artist ddim yn ei defnyddio ond yn trio ffeindio gair am gerddoriaeth sydd ddim yn rhyddhad ‘go iawn’. Weithiau mae rhyddhad gallu bod yn ffilter ansawdd ond hefyd gallu bod yn ffilter ceidwadol. Mae DJs fel Adam Walton yn chwarae rhai ohonyn nhw ond mae dal angen lot mwy o sylw yn y cyfryngau yn fy marn i.

  5. Sgan Owain ddim lot i ymddiheuro drosto ac ystyried fod hannar dy restr yn ganeuon o rhywun yn rhoi donc ar gan rywun arall (dim byd yn bod ar hynny ond `can y flwyddyn`?), bron i gyd heb gael eu rhyddhau’n fasnachol, a fod rhai ddim hyd yn oed wedi eu gwneud yn 2011 heb son am gael eu rhyddhau o gwbwl. A debyg mai dynion oedd y rhan helaeth o’r bobl a ryddhaodd, felly dydi’r cyhuddiad o fod yn secsist ddim yn un anhygoel o ysbrydoledig chwaith.

  6. @ Hefin

    Diolch am ymateb. Wn im pam ti’n defnyddio tôn braidd yn ymosodol, achos dwi’n cynnig y gofnod uchod nid fel ymosodiad personol ar Sgiv ond i drio ymateb gyda rhywfaint o her i’r dewis (ac mae rhestr ddeg uchaf yn gwahodd herio yn ei natur), ac yna ceisio cynnig traciau amgen o fewn genres eraill i bobol gael gwneud eu penderfyniad eu hunain amdanyn nhw.

    Dwi ddim yn unman yn awgrymu bod rhain yn ‘ganeuon y flwyddyn’, dyna pam dwi ddim di neud deg uchaf. Fy mhwynt i oedd nad oedd rhestr Sgiv yn adlewyrchu lot o’r genres o gerddoriaeth sy’n cael ei gynhyrchu. Efallai wir bod rheswm da dros hynny, ond dydi o ddim yn amlwg i mi. Ydi hi ddim yn werth holi pam does na ddim artistiaid benywaidd wedi cyrraedd y deg uchaf yn 2011? Dwi’n ei weld chydig yn od nad oes un cerddor benywaidd yn gwneud rhestr ddeg uchaf; ond dydi hynny ddim gyfystyr a galw Sgiv yn secsist. Bosib bod rhesymau digon teilwng dros hynny fel llai o recordiadau, neu lai o airplay, ond dwi’n meddwl ei bod yn deg codi’r cwestiwn pam nad ydyn nhw’n fwy amlwg?

    O ran dy bwynt am ailgymysgu: oes na unrhywbeth arbennig yn ei hanfod sy’n gwneud fersiwn wreiddiol yn well na remix mewn unrhyw ffordd o safbwynt cerddoriaeth? A pham ddylai cân sydd wedi ei ryddhau yn fasnachol gael ei drin yn wahanol mewn unrhyw ffordd i gân sydd wedi ei ‘ryddhau’ yn annibynnol heb ofyn am arian? Pam na ddylen ni ystyried caneuon ar eu telerau eu hunain?

    Ta waeth, prif bwynt hwn oedd cynnig cipolwg ar rai caneuon ac artistiaid dwi’n hoffi ac sydd yn cyfrannu at sîn gerddoriaeth yn eu ffyrdd eu hunain, yn y gobaith bod o ella’n cyflwyno eu cerddoriaeth nhw i glustiau newydd.

  7. @Hefin
    Wnest ti ddarllen y pedwar paragraff cyntaf o gwbl?! Diolch am y sylw.

    Ô.N.
    VIVA LA DONC

  8. dros y nadolig, fe wnes i weld dyn yn neud cyfyr o Y Brawd Houdini gan Meic Stevens. Dwi’n meddwl dylai hwn fod yn y 10 uchaf.

Mae'r sylwadau wedi cau.