Supercuts: dadansoddi cliché Hollywood a mwy trwy fideo

Fy obsesiwn newydd yw Supercuts, fideos doniol sydd yn casglu clipiau ar thema. Maen nhw wedi bodoli am flynyddoedd yn ôl y sôn ond nawr mae rhywun o’r UDA o’r enw Andy Baio wedi casglu pob un o YouTube a Vimeo.

Bydd yr enghreifftiau isod yn egluro’r apêl.

Dyma casgliad o ffilmiau lle mae cymeriad yn dweud ‘You just don’t get it, do you?’.

Dw i’n caru’r casgliad yma o sinau gyda drych mewn ffilmiau arswyd.

Mae’r diweddar Steve Jobs yn dweud ‘Boom’ mewn cyflwyniad sawl gwaith. Joio.

Mae cyfanswm o 295 fideo Supercut ar y wefan supercut.org hyd yn hyn gan gynnwys ffilm, gemau, teledu a bywyd go iawn.

Gweler hefyd: Kevin Kelly, sefydliwr cylchgrawn Wired, yn trafod Supercuts.

Cafod y cofnod ei gofnodi yn Celf, Comedi, Ffilm a'i dagio yn , , , , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Supercuts: dadansoddi cliché Hollywood a mwy trwy fideo

  1. Mae Rhodri ap Dyfrig yn dweud:

    Paid ag anghofio’r Wilhem Scream.

  2. Mae Rhodri ap Dyfrig yn dweud:

    Ma’r ffordd ma nhw wedi rhoi SuperSuperCuts at ei gilydd yn ddiddorol fyd. Sa’n hwyl gwneud random generator o set o fideos Cymraeg yn yr un ffordd.

  3. Mae Carl Morris yn dweud:

    Wilhem Scream, wrth gwrs!

  4. Mae Geraint Ffrancon yn dweud:

    Roedd arddangosfa ddiweddar yr artist Savage, yn Spike Island Bryste, yn cynnwys ffilm supercuts o actorion Hollywood yn gweiddi “WHAT DO YOU WANT FROM ME?!” drosodd a throsodd a throsodd. ar sgrin fawr mae’r effaith yn hypnotig

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>