Adolygiad albwm: Geraint Jarman – Brecwast Astronot

Dyna lle ro’n i’n arnofio am ddyddiau ar gwmwl rhif 9, newydd ddychwelyd o Efrog Newydd ac yn dyheu am fynd nôl, pan laniodd yr albwm Brecwast Astronot drwy’r post. A minnau di bod yn chwarae cyfuniad o High Violet gan The National a’r Treya Quartet yn ddi-dor ers dod nôl – yn dychmygu bo fi dal rhywle rhwng Bedford Ave yn Brooklyn a siop lyfrau Rizzoli ar West 57th – roedd hi’n hen bryd i mi ddychwelyd i’r ddaear, a diolch i Geraint Jarman cês y comedown melysaf erioed i realaeth y Rhath.

Heb fynd dros ben llestri’n llwyr, mae’r albwm hirddisgwyliedig hon yn wych. Dwi di cael wythnos dda o wrando arni’n nosweithiol bellach, ac wedi dod at y casgliad ei bod, nid yn unig yn instant classic, ond yn instant classic sydd hefyd yn treiddio’n dawel i’ch isymwybod nes bod ambell gan yn gwmni gloyw wrth giniawa al desko y diwrnod wedyn.

Y mae’r casgliad hwn yn cynrhychioli cam yn ôl o’r dylanwadau reggae a dub fu’n llywodraethu gwaith Jarman dros y degawd a mwy diwetha gan greu naws cyfarwydd, cynnes a chartrefol diolch i griw o gerddorion sy’n rhan o’i deulu estynedig, ac yn artistiaid y mae gan y dyn ei hun yn amlwg barch anferthol tuag atynt.

Mae hi’n albwm llawn atgofion melys a theyrngedau annwyl i gariadon, arwyr ac eneidiau hoff cytun, sydd yn achos ambell un- y gân gynta Miss Asbri 69 a Syd Ar Gitar, er enghraifft- yn cynrhychioli peiriant amser ‘nôl i’w ieuenctid seicadelig, gydag eraill wedyn yn cyffwrdd â cholled a byrhoedledd bywyd mewn ffordd annisgwyl o gadarnhaol .

Efallai ar y gwrandawiad cyntaf fod rhai’n eich taro fel caneuon tywyll, rhybuddiol, ond ar ôl gwrando arnynt eto, datgelir dirgelion pellach a delweddau cryfion sy’n croesddweud hynny’n llwyr.

Yn wir, dim ond un gân faswn i’n ei disgrifio sy’n ymylu ar felancoli, ac un o’r harddaf yw’r rheiny, sef Nos Sadwrn Bach – cân hyfryd o hudolus am noson random, glawiog mas yng Nghaerdydd y clywais i gynta ddeg mis yn ôl, pan roedd Geraint yn ddigon caredig i ganiatáu i mi ei defnyddio ar ddiwedd seinlun o’r ddinas y cês i’r pleser o’i chynhyrchu ar gyfer BBC Radio Cymru y llynedd.

Roeddwn i wedi edrych mlaen yn arw i glywed yr albwm gyfan fyth ers hynny, gan ddychmygu y byddai pob cân yn debyg i’r hwiangerdd hiraethus honno, ond cês fy siomi ar yr ochr orau wrth sylweddoli bod y casgliad mewn gwirioned yn cynrychioli dathliad bywyd, a’r rhan fwyaf yn ganeuon bywiog, yn byrlymu o egni da a chi.

Heb fynd i sgwennu traethawd am bob cân- rhywbeth y gallwn i wneud yn hawdd, ond nai i’ch sbario chi rhag y boen – dwi wir yn dwlu ar y caneuon tawelach, adlewyrchol, fel Brethyn Cartref a Brecwast Astronot sydd nid yn unig yn cynnwys llais tyner a geiriau gwych gan Geraint ei hun, ond yn arddangos dawn a medr ei gyd-gerddorion, fel Siân James a Siôn Orgon, gan bwysleisio natur gydweithredol yr albwm, sydd gyda llaw wedi’i chynhyrchu’n rhagorol gan Frank Naughton yn Tŷ Drwg, Grangetown.

A minnau di agor y llifddorau wrth ddechrau trafod fy “hoff blant” mae’n rhaid i mi hefyd bwysleisio mor braf , ac annisgwyl, yw clywed dylanwadau gwledig mewn perlau pop perffaith fel Llinyn Arian a Roedd Hwnna’n Arfer Bod yn Ddigon.

Ac os o’n i’n ddigon rhyfygus i feddwl bo fi eisioes wedi dewis fy ffefryn ymhell cyn clywed yr albwm ar ei hyd, wel dwi’n falch iawn i ddweud i mi gael fy llorio’n llwyr gan y gân ola sy’n dilyn Nos Sadwrn bach , sef Baled y Tich a’r Tal. Dwi’n herio unrhywun i gyrraedd diwedd y gân hwyliog hon – ac felly’r albwm- heb ddeigryn yn eich llygaid, na’ch crys yn llawn chwys.

Y mae’r anthem afieithus nid yn unig yn eich gorfodi i ddawnsio fel gwallgofddyn, ond hefyd yn deyrnged i gyd-gerddor a ffrind mawr Geraint, Tich Gwilym, ac yn cynnwys rhai o’r geiriau gorau i mi’u clywed erioed, gan orffen gyda choda distaw a dirdynnol sy’n adleisio yn y côf ymhell ar ôl i’r albwm ddod i ben.

Os oes gen i feirniadaeth o gwbl, hoffwn ofyn i anwyliaid Ankstmusik lle mae geiriau’r caneuon o fewn cloriau’r clawr CD trawiadol? Ydy peth o’r fath yn gwbl anffasiynol nawr ein bod i gyd, mae’n debyg, yn lawrlwytho fel ffyliaid i’n peiriannau mp3? Mae gen i ofn bod cryn amser i fynd nes y gwnaiff Lowri’r Luddite feistroli’r ddawn dechnolegol honno , ac felly yr unig beth sydd ar ôl i wneud yw i daeru ar gwmnïau cyhoeddi ledled Cymru i fachu ar y cyfle i gael sit-down bach da Jarman a chyhoeddi cyfrol gyfan o eiriau caneuon gan y dyn sydd nid yn unig yn gerddor a hanner, ond yn bencerdd Penylan.

Un awgrym ar “Adolygiad albwm: Geraint Jarman – Brecwast Astronot”

Mae'r sylwadau wedi cau.