Dilyniant i R.I.P. SRG

Oeddwn i ‘rioed wedi disgwyl cael y fath ymateb i’r erthygl SRG R.I.P… Ond pwy wnaeth ei lofruddio?

Pan weles i fod sôn amdano fo ar ddalen flaen Y Cymro a’i fod yn cael ei drafod ochr yn ochr a sylwadau aflan bigot penderfynnais bod pethau wedi mynd yn hollol dros ben llestri. Dyma’r rheswm dwi’n sgwennu’r ail erthygl. Teimlais fod pobl wedi camddehongli’r erthygl wreiddiol ac mae nifer o bobl wedi codi pwyntiau ac yma ceisiaf rhoi eglurhad iddyn nhw. Dwi ddim yn disgwyl mynd o’r twll dwi ynddo ond dwi’n gobeithio  na wnai gloddio’n  hun yn ddyfnach!

Teimlaf yn gyntaf fy mod wedi cael fy nghamddehongli, yn Y Cymro lle dywedodd fy mod i yn dweud mai cyfalafiaeth a’r artistiaid sydd ar fai. Erthygl yn ymosod ar CYFALAFIAETH a’r hyn y mae’n ei feithrin yn yr SRG a chymdeithas ysgrifenais i; cyfalafiaeth a chyfalafiaeth yn unig oeddwn i’n ei felltithio. Crux yr erthygl oedd bod y system gyfalafol yn milwrio yn erbyn yr SRG ac yr ateb ydi ymgyrchu dros newid yn y system.

Os nad ych yn deall beth yw y gwrth ddywediadau o fewn chyfalafiaeth sy’n golygu ei bod hi’n anghynaladwy o ran cerddoriaeth iaethoedd leafrifol ac anghenion pobol y byd yn gyfredinol darllenwch Introducing Marxism gan Icon Books, eglurhad graffig o safon ydyw a mi wneith o bosib newid y ffordd y dadansoddwch y byd. Mae llu o wefanau ond dyma un fideo GWYCH yn egluro’r syniad yn fras yng nghyd destun yr argyfwng economaidd diweddaraf (mewn ffordd hwylys a doniol peidiwch a poeni, rhowch siawns iddi!):

Awgrymiad tymor byr yw i ffans, artistiaid a phawb ynglwm a’r sin yn rhoi mwy o’u hamser a’u harian i’w gynnal. Dydi hyn ddim yn datrys y brif broblem ond gan fy mod yn gwybod efallai ni newidith y system am amser eto dyma awgrymiad ymarferol o rywbeth all roi hwb i’r SRG. Dwi heb ddarllen pob sylwad oherwydd pan aethon nhw’n bersonol ac yn gas teimlais nad oedd pwynt eu darllen mwyach. Hyd y gwelaf i does neb arall wedi awgrymu’n ymarferol be allwn ni ei wneud i achub diwylliant ifanc Cymraeg. Digon teg fy marnu os oeddech yn credu bod fy mhwyntiau i yn anghywir a buasai’r pethau dwi’n ei hawgrymu yn neud dim i hybu’r SRG ond dim hynny oedd y broblem gan fwyafrif o’r beirniadaethau. Y prif feirniadaeth o’m erthygl oedd mwy neu lai ‘pam ddylai unrhyw un neud rhywbeth am ddim?’. Dyma fy nadleuon i pam y credaf y byddai’n fuddiol  i’r sin os gwnaiff artistiaid rhoi oleiaf dipyn o’u cynnyrch ar y we. Yn gyntaf mae rhai o artistiaid yn rhoi eu cerddoriaeth am ddim ar y we yn barod yn y byd cerddooriaeth iaith Saesneg a Chymraeg, dyma rhai ohonynt:

Dyma pam dydw i ddim yn gweld fod be ddwedais i yn gwbwl afresymol. Wedi ystyried y peth dwi’n deall y feirniadaethau ynglyn a’r pwynt yma. Taswn i yn fy hen swydd mewn siop prydau parod wedi rhoi kebebs a sglodion am ddim buaswn i wedi colli fy swydd. Yr oeddwn yn cymryd yn ganiataol fod creu cerddoriaeth yn bleser a bod pobol yn ei wneud er mwynhad. Mae fel celf graffiti, mae pobol sy’n creu celf graffiti yn gwario pres ac amser yn ei greu er mwynhad eu hunain a phobol eraill a chyffelybu hyn i gerddoriaeth oeddwn i efallai.

Yn ail credaf mai’r rheswm yr oeddwn ddim yn gweld problem i gerddorion wneud rhai pethau am dim oedd oherwydd o nabod pobol hollol anhunanol fel y sosialwyr, anarchwyr, ymgyrchwyr iaith, ymgyrchwyr ecolegol yng Nghaerdydd a ymgyrchai er lles pobol (am ddim) nid oeddwn yn gweld dim byd syfrdanol mewn pobl yn gwneud pethau am ddim os ydynt yn teimlo’n angerddol am y peth. Mae pobol yn treulio amser hamdden, arian, amynedd a hyd yn oed tori’r gyfraith dros ein hawliau a rhyddid. Edrychwch mor bell yr ym wedi dod yn y canrifoedd diwethaf, mae ffordd bell i fynd  eto i gael gwir tegwch a chyfiawnder edrychwr ar hanes y Suffragettes dyna engrhaifft gwych a ddengys fod ymgyrchu yn gallu newid pethau.

Nesaf byddaf yn trafod fy sylwadau am gerddoriaeth y bandiau ifanc. Mae pobl yn meddwl fod apathi yn gyfystyr a niwtralrwydd gwleidyddol o ond allai addo i chi dydi hynny ddim yn wir. Dyma pam mae apathi yn yr SRG yn mynd ar fy nerfau braidd.  Chwedl y Sais ‘If you’re not part of the solution then you’re part of the problem’. Mae apathi yn safbwynt o dderbyn sefyllfa’r byd fel y mae, bod popeth digon da yn barod ac nac oes angen newid dim. Esgusodwch fi ond os nad ych yn gallu gweld problemau’r byd yr ych yn hollol ddall. Yng nghyd destyn Gwledydd Prydain mae’r argyfwng economaidd diweddaraf wedi ei hachosi gan y bancwyr ond y ni sydd yn gorfod talu. Pam ddim cael y Robin Hood Tax? Pam na all y bancwyr dalu am eu llanast? Pam nad yw pobol yn mynnu hyn?

Un o’r pethau yr wyf yn teimlo dylwn i ei ymddiheuro amdano fo oedd tôn yr erthygl. Wedi ei hysgrifennu’n frysiog oedd o a heb ei editio (fel eich bod wedi gweld o’r camsillafu a’r darnau oedd ddim yn llifo). Yr oeddwn yn difaru defnyddio’r dôn or-feirniadol yn enwedig yn y paragraff olaf. Dydw i ddim yn meddwl oedd be ddwedais i yn hollol anghywir, ond yr oedd y ffordd yr oeddwn yn ei ddweud dim yn ystyried teimladau pobl am y pwnc hynod sensitif hwn. Dwi’n ymddiheuro am frifo teimladau- dim hynny oedd y bwriad o gwbl. Efallai ei fod wedi bod mor ymosodol gan fy mod i ychydig yn ddigalon weithiau fod pobol i weld mor apathetig a di hid am dloti, yr iaith, yr amgylchedd a phopeth.  Dydi o ddim yn esgus dros ddefnyddio tôn mor gas ond trio egluro pam oeddwn i wedi ysgrifennu erthygl oedd yn swnio mor flin ydw i.  Teimlo bod pobol ddim yn malio a rhwystredigaeth oedd be wnaeth i mi swnio mor bigog yn y rant ond mi wn fod beiriadu pobol mor llym a ysgrifennu fel mi wnes i ddim am eu hysgogi i ddechrau ymgyrchu debyg iawn.

Dydw i ddim chwaith yn deall pam fod pobol yn cymryd yn ganiataol mai fi sydd yn cwyno am cost CD’s a gigs oedd y darn lle oeddwn yn sôn am cost pethau. Dwi’n mynd i gigs a hapus i dalu pres i weld nhw, mis yn ôl talais 12 punt dim ond i weld Llwybr Llaethog (ac yn anffodus oedd eu set bron a bod drosodd)! Er fy mod i yn talu am gerddoriaeth cymraeg ac yn talu i fynd i fynd i gigs mae’n amlwg dydi hynny ddim yn wir am y lot o Gymry fy oed i. Does dim osgoi’r ffaith bod y mwyafrif llethol o bobol yng Nghymru ddim efo’r amynedd neu yn malio digon am yr iaith neu’r gelfyddyd i brynu’r cd’s a mynd i’r gigs. Wrth i mi ddisgrifio’r rhesymau dros hyn dydw i ddim yn eu cynnig fel cyfiawnhad oherwydd credaf dylai pobol wneud yr ymdrech dros eu diwylliant cynhenid. Cynnig eglurhad gonest oedd fy amcan i ac o ddeall pam bod pobol yn ymddwyn fel hyn gallwn geisio cael syniadau am  ffyrdd i newid y tueddiadau hyn.

Hoffwn ddatgan nad ydw i yn cynrychioli barn cymdeithas yr iaith o gwbwl er fy mod i’n aelod eithaf gweithgar ohoni; siarad fel unigolyn ydw i rhag ofn i chi fynd i gandlyniadau. Nes i ddim ‘trefnu gigs am 2 mlynedd’ efo cymdeithas yn y gogs fel dywedodd Y Cymro, dwi’n byw yng Nghaerdydd i Dwi wedi helpu allan efo y Disgo Dydd i’r Di-waith wedi trio a methu trefnu gig fy hyn efo help trefnwraig lleol noson electroneg. Dwi wedi trio helpu efo gigs cymdeithas  ond dydw i heb fod yn ‘trefnu ers 2 mlynedd’ o gwbwl. Oedd llawer bwriad blwyddyn diwethaf i gell y brifysgol drefnu un ond ni ddigwyddodd unrhywbeth yn anffodus am amryw resymau. I feddwl bod y dau beth ‘mwyaf’ i’r iaith wedi digwydd y flwyddyn dwethaf; y mesur iaith ac toriadau S4C mae pethau eraill wedi cymryd y sylw.

Be sydd yn fy synnu yw fod ymateb mor chwyrn tuagat rhywyn sydd wedi sgwenu erthygl bach am gerddoriaeth a bod hyn yn cythurddo pobol mwy na’r bygythiadau go iawn sy’n bodoli. Mae’r toriadau arfaethedig a’r potensial i rwygo ein cymunedau’n ddarnau a newid bywyd llawer person. Bydd hyd yn oed llai o swyddi yn y Fro Gymraeg (e.e. Gwynedd sydd eisioes gyda mwy na 60% o’r swyddi yno’n ddibynnol ar y sector gyhoeddus) bydd pobl ifanc yn symyd iffwrdd ac arwhan i’r difrod a wnaiff colli swyddi a gwasanaethau hanfodol,  bydd ffaith bod y pobol ifanc yn gadael yn effeithio ar yr iaith Gymraeg hefyd. Fel y dwedais, ymuno a mudiad gwrth gyfalafol neu sefydlu grwpiau cymunedol i gwffio’r toriadau yw’r peth call i unrhywun wneud rwan. Dim un grwp ond y system gyfalafol oedd dan y lach gennyf felly os gwelwch yn dda peidiwch a cymryd yr erthygl yn rhy bersonol. Gobeithiaf fy mod wedi egluro fy hyn yn well tro hyn, os ddim cawn gytuno i anghytuno a’i gadael hi fanna.

Awdur: Heledd Melangell Williams

Dwi'n byw yng Nghaerdydd ac yn hoff o hip-hop a cherddoriaeth electroneg yn bennaf. Yr wyf hefyd yn blogio yn Saesneg i Radical Wales ynglŷn â gwleidyddiaeth adain chwith.

15 sylw ar “Dilyniant i R.I.P. SRG”

  1. Mae creu cerddoriaeth yn costio. Mae’n rhaid cael pres i mewn i’r system rhywsut. Mae’n annodd cael llawer o bres mewn i’r SRG i’w chynnal drwy’r llwybrau masnachol arferol (neu gyfalafol fel wyt ti’n eu galw) oherwydd fod miwsig Cymraeg yn perthyn i ddiwylliant lleiafrifol sydd, yn naturiol, methu creu refeniws mor fawr a diwylliannau mwyafrifol fel y Saesneg. Mae’r sefyllfa yn waeth byth rwan achos penderfyniad milain PRS.

    Mae’r byd cyhoeddi llyfrau wedi delio gyda’r ddilema yma drwy gael system gynhwysfawr o grantiau via y Cyngor Llyfrau. Mae’r byd teledu Cymraeg wedi delio gyda’r ddilema yma drwy gael pres cyhoeddus i ariannu S4C ac mae’r byd radio Cymraeg wedi delio gyda’r broblem drwy gael pres y drwydded i gynnal Radio Cymru. Does dim un o’r tri peth yna, print, teledu na radio yn gallu bodoli yn fasnachol/cyfalafol. Ac mae’r run peth yn wir gyda cerddoriaeth Gymraeg.

    Un ateb posib felly fod fod rhyw fath o bres ar gael i gyhoeddi senglau, EPs ac LPs Cymraeg yn yr un ffordd a mae yna bres ar gael i gyhoeddi llyfrau Cymraeg.

    Dwi’n gwybod nad ydy hi’n ddelfrydol i ddibynnu ar arian cyhoeddus, ond os nad ydy’r peth yn viable yn fasnachol/cyfalafol yna does dim dewis gwell rili.

  2. Haia Heledd.
    Roedd hi’n ddrwg gen i glywed bod sylwadau wedi mynd yn bersonol tro dwytha. Tydi hynny ddim yn dderbyniol nac yn adeiladol.
    Fodd bynnag, ‘dwi’n ffindio fo’n od dy fod ti’n mynnu gwneud cerddoraieth Gymraeg yn bwynt gwleidyddol (ac mi wnes chwerthin yn uchel pan yr awgrymaist ti ein bod ni oll i ddarllen Introducing Marxism. Toeddwn i ddim yn dallt bod Marcsiaieth yn golygu cael stwff am ddim). Mae ‘na gerddorion sydd jest isho creu cerddoriaeth am y pleser o wneud cerddoriaeth, a tydyn nhw ddim isho bod ar eu colled o’r herwydd. Tydi o ddim yn bwynt gwleidyddol i bawb.
    Plis paid a disgwyl i Llwybr Llaethog aros i ti gyrraedd cyn dechra’ ei set. Cer i’r gigs ar amser.

  3. sorrrrrrrrrrrrrriiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiii0nd da chi gid llawn chachu stopiwch teimlo sorri dros eich hunan ………………………………………… ac gnewch rwbath am dan o cooooooooooooooooooooooonnttttttttttttt…………………………………………

  4. @Manon: Dwi’n meddwl fod cerddoriaeth Gymraeg yn gallu bod yn bwynt gwleidyddol. Yn bersonol roedd o wastad yn naturiol i mi wneud cerddoriaeth yn Gymraeg ond wrth godi fyny yn Aberystwyth roedd yr holl school bands er yn siarad Cymraeg yn canu yn Saesneg. Pam? Oherwydd eu bod nhw’n dilyn y diwylliant anglo-americanaidd. Dyna oedd yn naturiol iddyn nhw, digon teg achos roedden nhw’n bod yn driw i’r dylanwadau oedd arnyn nhw. Yr hyn oedd yn naturiol i fi oedd canu yn Gymraeg; ac er ei fod wedi dod yn naturiol i mi, o’i roi mewn cyferbyniad a pawb arall yn Aber ar y pryd oedd yn canu yn Saesneg mi roedd yn wleidyddol.

    Yn anffodus mae diwylliant lleiafrifol ym merw brwydr wleidyddol barhaus. Hyd yn oed os nad am resymau gwleidyddol mae bandiau Cymraeg yn creu cerddoriaeth dwi’n meddwl eu bod nhw by default yn rhan o’r cyd-destun hwnnw. Ond dwi ddim yn meddwl fod cyfrifoldeb gan fandiau Cymraeg fod yn ymgyrchwyr gwleidyddol – eu cyfrifoldeb yw cyfrannu fel cerddorion i’r diwylliant ac i gerddor mae hynny, yn ei ffordd ei hun, yn gyfraniad bach gwleidyddol i ddiwylliant lleiafrifol beth bynnag.

  5. Ma rhai pobl jysd isho pob agwedd o’r cyfryngau cyfweledol Cymraeg fod yn Wleidyddol rili, dim ond achos fod o yn Gymraeg.Dallt dy bwynt di Rhys, ella bod o by default i rhai pobol,ond ma mond yn Wleidyddol gan y pobl sydd isho fo fod. Ma’ angen sdopio mynu rhoi miwsig Cymraeg a Gwleidyddiaeth law yn llaw.Sdopiwch o, man boen yn ffycin din i rhai sydd jysd isho neud ei miwsig bo nw yn cael ei dragio mewn i betha fatha campaigns i achybu y’r iaith a ballu.Diolchwch fod na bobl yn neud miwsig Cymraeg, a hynu achosna dyna ma nhw isho, a fod o ddim problem gwneud, Dim achos bullshit gwleidyddol. Fair inyff os di bandiau isho bod yn wleidyddol, ond os dynw ddim, what’s the problem?Gadwch lonydd iddynw neud be manw isho.

  6. Ti di cael sylw hefo’r erthygl dwetha. Dos nol i dorri mewn i swyddfeydd anghywir wan.

  7. J.R

    Dwi mwy neu lai yn anhytuno’n llwyr efo pob pwynt mae Heledd yn ei wneud, ond plis gad i hon fod yn drafodaeth gall yn lle dangos dy hun am pa bynnag wybodaeth sgenti am ei bywyd personol. Dwi ddim isho gwbod, dio ddim byd i neud efo’r drafodaeth dan sylw, ac mae ganddi hi berffaith hawl a chwarae teg i gael deud be lecith heb orfod dioddef ymatebion fel yma am bethau hollol amherthnasol.

  8. Aled,

    Paid gôr ymateb, ddim rhywbeth o’i bywyd personol preifat wnes i gyfeirio at, yr oedd yn drosedd gyhoeddus , sydd i mi yn dangos meddylfryd Heledd, o ymosod, wedyn meddwl.

    Mae ton erthyglau Heledd wedi bod yn gwbwl nawddogol tuag at gerddorion Cymraeg, dwi’n gwybod mai dim ond erthygl gan ferch ifanc ar y we ydio, ond edrycha ar ymateb mae protestwyr yr iaith yn rhoi i erthygl “bach” wnaeth yr awdur Julian Ruck rhoi ar ei wefan. Os mae hi’n fodlon rhoi i enw i erthyglau sy’n gofyn am ladrad o waith cerddorion, ddylsa hi fod yn ddigon bodlon i gymryd rhywun yn ei galw yn Idiot.

    Be sy’n fy nghorddi fwy na dim ydi’r ffaith ei bod yn trio rhoi pwysau ar gerddorion Gymraeg i fod yn fwy gwleidyddol er mwyn yr Iaith, fyswn yn hoffi pwyntio allan y bod Cerddorion Cymraeg wedi gwneud lot fwy dros y blynyddoedd i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn fodern ac mai unrhyw aelod o gymdeithas yr iaith, awdur neu actor S4C wedi, A hyn heb greu unrhyw ffys neu feddwl ei bod nhw’n merthyr modern.

  9. Ia, dwi’n cytuno efo’rrhan fwya o be ti’n ddeud, a wedi gneud hynny’n berffaith glir yn y trafodaethau cynt. Dwi’n anghytuno’n llwyr efo syniadau Heledd.

    Be dwi’n ddeud ydu ddylia ni gadw’r drafodaeth yn berthnasol i’r erthygl, sa’m point dod a digwyddiadau eraill yn hanes yr awdur i mewn i’r peth, na galw neb yn idiot.

  10. jyst pwyntio allan, os fyse ymgyrchydd iaith yn gwneud bywoliaeth o ymgyrchu, fyse nhw yn byw ar y stryd yn begian a dyna pam fod llawer o ymgyrchwyr iaith efo swyddi eraill, i sicrhau fod yna incwm yn dod fewn i dalu morgais neu’r bil trydan/dwr. Mae rhai cerddorion wedi dewis gwneud bywoliaeth allan o’i crefft, i allu bod yn llawn amser. A’r pwynt anodd na all cerddorion ei stumogi ydi, fod gofyn iddynt wneud ei bywoliaeth bron am ddim. A dydi pwyntio at gerddorion sy’n rhyddhau stwff am ddim, ddim yn addas o gwbl gan fod nhw’n cael incwm i greu bywoliaeth o lefydd erill. Mewn ffordd, mae’r erthygl yn annog cerddorion i fod yn rhan amser a rhyddhau eu cynnyrch am ddim, yn lle byw ar ei cerddoriaeth achos wedyn fyddai raid iddynt fynd yn athro neu rwbeth broffesiwn tebyg.

  11. Ddim am ymateb i’r sylwada dwi wedi dweud be oni am ddeud, os chi methu cymryd ymddiheuriad a methu dallt fy mhwyntia i problem chi ydi hynnu. Fideo yma yn berthnasol, ‘Pam fod pobol yn gwneud petha am ddim’ yn rhan o’r cwestiynau. Reit diddorol sbiwch. http://www.youtube.com/watch?v=u6XAPnuFjJc&feature=feedbul O.N. Pwyslais ETO ddim diben y blog odd dweud ‘dylsai pawb neud pob dim am ddim’ fel y cyfryw er na dyna ma pawb yn mynd yn mental amdana fo, ateb tymor byr ydi hynnu i roi hwb i’r SRG (da chi efo syniada gwell?), yr unig ateb hir dymor basa newid y system gyfalafol sy’n milwrio yn erbyn diwyllianau llefarifol. So thare!

  12. Cerddor, ma LOT o ymgyrchywyr dwi’n nabod yn agos iawnb at fyw ar y stryd, rhai ohonynt wedi. Dim gymaint yn sin ymgyrchu ieithyddol ond yr anarchwyr a lot or sosialwyr heb os. Ma lot o anarchwyr yn byw mewn sgwatiau a byta allan o biniau archfarchnadoedd. Dim ond swyddogion cyflogedig syn gwneud bywoliaeth o ymgyrchu a ma mwyafrif llethol ddim yn gwenud hynn. Ma rhanfwya yn gwario pres ar posteri, past a trafnidiaeth.
    Dwi ddim yn deud bod dim yn foesol rong efo neud bywoliaeth yli ond ma pawb wedi colli’r pwynt. Ma rhanfwyaf o fobol sy’n siarad cymraeg ddim gwbo bod yr SRG yn bod a fydda nhw byth yn meddwl prynu CD, efallai tasa fo yn cael hysbysebu, sticeri, graffiti a dros y we a bod oleiaf saml da o’r cerddoriaeth am ddim bydd yna siawns i lot o fobol mynd fewn idda fo a bydd o mwy o fudd i’r cerddorion yn diwedd a mwy o fobol yn dod i gigs. Ella dyla rhai gigs fod am ddim a dipyn o’u cerddoriaeth bod am ddim dim o safbwynt ‘moesol’ achos o fewn cyfundrefn fel hyn man anodd bod yn foesol ma’n enyn pawb weithio yn erbyn ei gilydd a chystadlu ond o safbwynt atgyfodi miwsic cymraeg a dim jest i pobol posh cymraeg ond i bawb.

  13. O a i’r mypet yna, natho nio ddim torri ifewn i’r swyddfa anghywir, swyddfa MP toriaidd oedd o ond ddaru y western mail a’r echo camarwain achos bod nhw’n wrth gymraeg yn fy marn i, tasa chi sbio ar newyddion y bbc ma’n wahanol. Odd y press release yn dweud pencadlys ond pencadlys toriaid caerdydd/swyddfa’r toris oeddyn nhw’n feddwl. Ti neud fi chwerthin efo cheap shots fela deud gwir tyfa ifynnu.

  14. A un ola sori! Dwi methu credu da chi yn cyhuddo o deimlo’n sori dros fy hyn ar ol cael fy ngalw pob enw dan haul ac am fisoedd yn poeni am carchar a mynd i cwrt a ballu a hyna jest i dechra efo.

    Cerddorion cymraeg sydd wedi bod yn teimlo’n sori drost eu hunain drwy’r ffrae yma, bod nhw yn cael bywyd mor anodd methu neud bywoliaeth, dwi ddim yn siwr os ma nhw yn gwbo be ydi tlodi go iawn de. Sbiwch ogwmpas ma rhanfwya pobol ifanc yn ddi waith ma tlodi yn bob man, dewch i stad lle ma mam fi byw yn Rhiwlas i weld tai cownsil ma nhw yn llawn malltod yn afiach. Ma gwleidyddiaeth adain dde yn gwneud hyn a fydd elusenau ddim yn dileu tlodi fama na nunlla. Ydi pobol maes g a sgubs a stadai erail efo pres ychwanegol i fynd i siops cymraeg a prynu miwsic cymraeg ma nw rioed d glwad oblaen? Ma miwsic cymraeg ym perthyn i bawb so rhannwch fo! Dwim yn deud hyna achos genai wbath yn erbyn chi a dwmisho chi gal bres na achos dwimishio talu, dwi di gwario canoedd ar cds dros y blynyddoedd heb gwyno ond dwisho miwsig cymraeg fod ynb mainstream, mae o mor marginalised a mae’r ansawdd ddim gwaeth na stwff saesneg! Rheswm esi mor ypset dros ymateb i’r erthygl yma achos mod i yn parchu cerddorion cymraeg a be ma nhw yn greu, dyna pam dwin medwl dylsa pawb gael siawns i glwad stwff nhw a dylsai pawb eu gwerthfawrogi. Iawn rant drosodd!!!

Mae'r sylwadau wedi cau.