RIP Rammellzee, arloeswr hip-hop

Bu farw Rammellzee (neu RAMMΣLLZΣΣ) yn Far Rockaway, Queens, Efrog Newydd wythnos yma.

Oedd e’n rhan bwysig o’r sin hip-hop (y sin gynnar yr 80au yn enwedig) fel cerddor ac artist graffiti. Mae’r fideo yn dangos e ar y llwyfan yn rapio yn y ffilm Wild Style.

Mae fe’n enwog am y can Beat Bop o 1983 gyda K-Rob. Mae cefnogwyr hip-hop yn galw’r record 12″ y holy grail o recordiau hip-hop achos mae pobol yn fodlon talu prisiau gwallgof amdano fe. Mae pob copi yn dod gyda chlawr sydd wedi cael ei pheintio gan Jean Michel-Basquiat.

Cafod y cofnod ei gofnodi yn Cerddoriaeth a'i dagio yn , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>