Adolygiad albwm Gruff Rhys v Tony Da Gatorra – The Terror Of Cosmic Loneliness

Mae Gruff Rhys wedi cydweithio â nifer o artistiaid gwahanol yn ystod ei yrfa gerddorol, megis y band post-rock Albanaidd Mogwai ar y trac anferthol Dial:Revenge, a gyda Bryan Hollon/Boom Bip ar y trac gwych Do’s And Don’ts ag albym difyr Neon Neon Stainless Style a enwebwyd am y Wobr Mercury.

Cydweithiad â cherddor unigryw o Frasil, Tony Da Gatorra, yw’r albwm newydd hon. Mae Gatorra wedi dyfeisio teclyn gitâr/peiriant drwm lloerig o’r enw y ‘Gatorra’, ac mae’r ddau wedi creu casgliad o ganeuon yma sydd heb os yn cynrychioli gwaith mwya out there Gruff Rhys.

Mai rhai wedi disgrifio’r record hon fel electronica, ond er bod peiriant drwm y Gatorra a chydig o synau electroneg eu naws i’w clywed yn y cefndir, mae nhw’n cael eu boddi rhan fwya o’r amser gan ton ar ôl ton o gitars swnllyd, wyrgamus sy’n rhoi teimlad bowld ac arbrofol i’r gwaith. Yn wir, mae’r trac agoriadol ‘O Que Tu Tem’ yn swnio mwy fel synth-pync y band Suicide o Efrog Newydd, neu synau diwydiannol Cabaret Voltaire. Mae Da Gatorra yn swnio’n dywyll a brawychus: dau air Portiwgaleg o’n i’n medru deallt oedd ‘capitalista’ a ‘mercenarios’.

Na, tydi’r albym hon ddim yn hawdd gwrando arno ar y cyfan (heblaw efallai ar un neu ddau o’r tracs ble mae Gruff yn canu ac mae pethau’n nesáu at pop/harmoni). Ond mae yn record uffernol o ddifyrrus, yn llawn hwyl a rhyddid sonig – weithiau’n swnio fel Bill a Ted yn jamio yn eu garej, ac ar adegau eraill yn fy atgoffa o vibe chwareus The Whitey Album gan Sonic Youth. Dydi The Terror Of Cosmic Loneliness ddim yn mynd i apelio i holl ffans Gruff Rhys a’r Super Furry Animals, ond efallai dyna’r pwynt – gwneud rhywbeth hollol gwahanol ac annisgwyl.

Rhannwch
  • Twitter
  • Facebook
  • Digg
Ffeiliwyd y cofnod hwn dan Cerddoriaeth a'i tagiwyd gyda , , , , , , , , , . Rhowch nod tudalen i'r paraddolen. Postio ymateb neu gadael trackback:URL Trackback.

Un Trackback

  1. [...] Paid anghofio’r adolygiad o’r albwm The Terror of Cosmic Loneliness yn Y Twll. [...]

Postio Ymateb

Ni chaiff eich cyfeiriad ebost ei rannu na'i gyhoeddi. Nodir maesydd gofynnol gyda *

*
*

Cewch ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML canlynol: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

Subscribe without commenting