Mae’r Twll yn dathlu degawd o Mwng gan Super Furry Animals

Mwynha’r fideo Drygioni hwn gan cefnogwr.

Mae’r Twll yn dathlu 10 mlynedd ers yr albwm Mwng gan Super Furry Animals yn 2000. Mae’r albym yn cynnwys y caneuon Drygioni, Ysbeidiau Heulog (yr unig sengl), Y Teimlad (fersiwn o’r can gan Datblygu) a Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer ar y Blaned Neifion (fy hoff personol). Naeth y band rhyddhau yr albwm ar eu label eu hun Placid Casual.

Mae’n anodd iawn i brynu’r albwm ar CD neu prynu lawrlwyth yn 2010. (Ti’n gallu trio Sadrwn efallai.) Dw i wedi gofyn aelod o’r band os maen nhw yn gallu  ail-rhyddhad. Gobeithio bydd y sefyllfa yn newid cyn hir!

ATEB GAN Y “FFYNHONNELL” SUPER FURRY ANIMALS: “Diolch i ti Carl, Am trio cael rhywbeth allan cyn diwedd y flwyddyn .”
“tan tro nesa!”

Cafod y cofnod ei gofnodi yn Cerddoriaeth a'i dagio yn , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Mae’r Twll yn dathlu degawd o Mwng gan Super Furry Animals

  1. Mae Liam yn dweud:

    Albwn epig, yn sicr! Un o fy hoff recordiau erioed.

    A dw i’n meddwl bod Mwng fy hoff SFA albwm. Dadleuol, dw i’n gwybod! Dw i’n hoffi ei symlrwydd…

  2. Mae Carl Morris yn dweud:

    Fy hoff – gyda Radiator, Outspaced, Hey Venus! a Phantom Power hefyd.

  3. Mae Rich yn dweud:

    Waw – 10 mlynedd! Bydd rhaid i fi wrando arni heddiw. Dwi’n cofio prynu 2 gopi o 7″ Ysbeidiau Heulog rhag ofn bydd hi’n werth ffortiwn rhyw ddydd…amau hynny ond mae’n diwn gwych.

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>