-
Cofnodion diweddar
- Diwrnod yn y Ddinas
- Darn fideo gorau o Gruff Rhys erioed (IFANC!)
- Skream + Benga + Artwork = Magnetic Man
- SRG yn 2010, beth sy’n digwydd? Y gorffennol.
- Uchafbwyntiau Matthew Herbert yn y babell Far Out, Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
- Joanna Newsom yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
- Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
- Penblwydd Hapus Geraint Jarman! 60 oed heddiw
- Fideos Casey ac Ewan: John Grant, Cate Le Bon, Richard James a mwy
- Bwyty Hooters yng Nghaerdydd: pam yr holl helynt?
Sylwadau diweddar
- contes ar Skream + Benga + Artwork = Magnetic Man
- Pethau Bychain – casgliad amser cinio | Pethau Bychain ar Diwrnod yn y Ddinas
- Carl Morris ar Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
- Rhys ar Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
- Aled Wyn ar Joanna Newsom yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
-
Cyfranwyr
- Anwen Ebenezer (2)
- Carl Morris (24)
- Daf Tudur (1)
- Geraint Ffrancon (5)
- Lowri Haf Cooke (2)
- Menna Machreth (1)
- Philip Wyn Jones (1)
- Steffan Cravos (1)
- Y Twll (4)
Archif
Categorïau
- Amrywiol (3)
- Cerddoriaeth (27)
- Cyfryngau (2)
- Digwyddiadau (4)
- Ffilm (3)
- Llyfrau (3)
- Pobol (5)
- Radio (3)
- Teledu (3)
- Theatr (2)
-
Tanysgrifio (RSS)
Mannau eraill

Radio Amgen, cyfweliad gyda Steffan Cravos
Dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi datblygu a tyfu yn araf bach a heb ffwdan i fod yn drysor cenedlaethol (ymddiheuriadau i Stephen Fry). Mae bodolaeth parhaol yr orsaf yn arbennig o bwysig nid yn unig yng nghyd destun tirlun cerddorol ‘mainstream’ Cymru, ond hefyd y ‘Sîn Roc Gymraeg’, byd mewnblyg lle mae bandiau ffync gwael yn gael eu cysidro yn ‘alternative’ a ‘edgy’. Heb swnio fel ormod o hipi, mae gwir angen presenoldeb fel Radio Amgen i herio’r sefydliadau hyn – mae bodolaeth yr orsaf yn cyfrannu’n enfawr tuag at amrywiaeth a iechyd ein diwylliant cerddorol.
Y dyn tu ol i Radio Amgen yw Steffan Cravos – yr un person a fu’n gyfrifol am chwyldroi/dyfeisio cerddoriaeth hip hop Cymraeg ar droad y ganrif gyda’r Tystion. Sioe gynta’r orsaf oedd mics gan DJ Lambchop (aka Cravos), a’r trac gynta un ar y sioe honno oedd y clasur tanddaearol Cymreig “Dwi’n Licio Dafydd Iwan” gan Gwallt Mawr Penri (aka Dyl Mei).
Sut ddechreuodd yr orsaf?
Steffan Cravos: O ni’n rhedeg label o’r enw Fitamin Un ar y pryd ond doedd dim digon a arian da fi i rhyddau’r holl traciau oedd yn cael eu hanfon atai. Oedd Johnny R wedi cychwyn yr orsaf radio Cymraeg gyntaf ar y we cwpwl o flynyddoedd yn gynt (Radio D – gweler DVD Ankst ‘Crymi No.1′ am raglen ddogfen fer) a nath hwnna ysbrydoli fi i gychwyn Radio Amgen. Oedd e’n ffordd gwych o rhoi platfform i deunydd newydd yn gyflym ac ar lefel rhyngwladol. Outlet oedd Radio Amgen ar gyfer cerddoriaeth tanddaearol doedd ddim yn cael ei chwarae ar Radio Cymru.
Sut ddyliwn ni disgirifio RA? Radio we? Weradio? Gweradio?
Radio rhydd annibynnol ag onest.
Dros y blynyddoedd mae’r orsaf wedi pledu allan nifer fawr o sioeau o fewn amser byr, a wedyn wedi cymryd saib am wythnosau neu fisoedd, neu blynyddoedd maith.
Da ni yn ein pedwerydd cyfnod ond dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi cymryd seibiant am wahanol rhesymau – diffyg amser, diffyg adnoddau, gan fwyaf. Ar y foment da ni’n rhoi sioe allan bob yn ail ddydd(ish) ac yn derbyn dros 6,000 ergyd y mis.
Pam nad yw sefydliadau fel y Cyngor Celfyddydau ayb yn cefnogi’r orsaf?
Dwi ddim eisiau pres gan y CCC. Well bod yn annibynnol.
Mae na elfen politicaidd gref i’r orsaf.
Dwi wedi bod yn ymwneud a gwleidyddiaeth radical ers i fi fod yn fy arddegau, felly mae’n siwr bod hwnna yn dod drosodd weithiau yn y sioeau, yn enwedig y rhai dwi’n greu. Dwi’n teimlo hefyd fod y cyfryngau Cymraeg yn llawer rhy geidwadol o rhan allbwn, felly ma angen platfform ar gyfer cerddoriaeth heriol a syniadau radical.
Fy hoff enw ar gyfer DJ gwadd yw ‘Athro Diflas Ffwc’ – neu efallai ‘DJ Dai Trotsky’.
Athro Diflas oedd enw gwreiddiol Y Lladron. DJ Dai Trotski, ie fi oedd hwnna!
Mae Huw Stephens, ac eraill ar adegau, yn chwarae cerddoriaeth ‘tanddaearol’ ar Radio Cymru erbyn hyn. Ydi pethau wedi gwella?
Mae angen mwy. Pam ddim cael DJs i mewn a chwarae drwy’r nos (DJs go iawn hyny yw, nid radio DJs) – jyst miwsig, dim malu cachu!
Weithiau mae’n teimlo mai Radio Amgen yw’r unig allbwn ar gyfer cerddoriaeth ‘gwahanol’ o Gymru. Be fysa’n digwydd i tirlun cerddorol Cymru petai’r orsaf yn dod i ben?
Se ni’n gobeithio fase rhywun arall yn cychwyn rhywbeth tebyg… ond mae Radio Amgen yn mynd trwy gyfnodau o ddim gweithgaredd. da ni yn ein 4ydd neu 5ed cyfnod ar y foment. Da ni’n rhoi sioeau allan bob yn ail ddydd, ond wrth rheswm, nid cerddoriaeth o Gymru neu Gymraeg ydi ein darpariaeth, achos does dim digon ohono fe i gael. Fase ni’n dwli rhoi sioe dyb step Cymraeg allan – ond lle ma’r tracs? Does dim! Ma dyb step gyda ni ers 2004 fel genre newydd, ond neb yn ei gynhyrchu yn y ‘sîn gymraeg’
Oes rhaid i pobol o tu hwnt i Gymru wrando ar Radio Amgen er mwyn i ti cysidro’r gorsaf yn ‘llwyddiant’? Neu ydi hynny’n bonus?
Dim rili, ond ar ddiwedd y dydd, y we fyd ehang yw’r cyfrwng! Ma na agwedd shit yn bodoli os ti’n cael dy ‘dderbyn’ tu hwnt i Gymru (hynny yw yn Lloegr) bod ti wedi ‘llwyddo’. A dim ond wedyn bydd ti’n cael dy dderbyn yng Nghymru. Adolygiad yn yr NME – o woopie ffycin dooo – ti di ‘llwyddo’.
Ma miwsig yn gyfrwng rhywngwladol. Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth mewn ieithoedd erill nad ydw i’n deall (ond falle fi sy’n od) a dwi’n siwr bod na mwy o bobl fel fi o gwmpas y glôb.
Sa well da fi ddarlledu Radio Amgen ar FM yn ogystal a’r we – hwnna fydd y sefyllfa ddelfrydol, a basa grandawyr rhyngwladol yn fonws wedyn.