-
Cofnodion diweddar
- Diwrnod yn y Ddinas
- Darn fideo gorau o Gruff Rhys erioed (IFANC!)
- Skream + Benga + Artwork = Magnetic Man
- SRG yn 2010, beth sy’n digwydd? Y gorffennol.
- Uchafbwyntiau Matthew Herbert yn y babell Far Out, Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
- Joanna Newsom yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
- Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
- Penblwydd Hapus Geraint Jarman! 60 oed heddiw
- Fideos Casey ac Ewan: John Grant, Cate Le Bon, Richard James a mwy
- Bwyty Hooters yng Nghaerdydd: pam yr holl helynt?
Sylwadau diweddar
- contes ar Skream + Benga + Artwork = Magnetic Man
- Pethau Bychain – casgliad amser cinio | Pethau Bychain ar Diwrnod yn y Ddinas
- Carl Morris ar Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
- Rhys ar Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
- Aled Wyn ar Joanna Newsom yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
-
Cyfranwyr
- Anwen Ebenezer (2)
- Carl Morris (24)
- Daf Tudur (1)
- Geraint Ffrancon (5)
- Lowri Haf Cooke (2)
- Menna Machreth (1)
- Philip Wyn Jones (1)
- Steffan Cravos (1)
- Y Twll (4)
Archif
Categorïau
- Amrywiol (3)
- Cerddoriaeth (27)
- Cyfryngau (2)
- Digwyddiadau (4)
- Ffilm (3)
- Llyfrau (3)
- Pobol (5)
- Radio (3)
- Teledu (3)
- Theatr (2)
-
Tanysgrifio (RSS)
Mannau eraill

Hywel Teifi Edwards – Cawr o Gymro
Roedd Hywel Teifi Edwards yn un o’r enghreifftiau prin hynny o feirniaid diwylliannol Cymraeg a oedd â holl gynhysgaeth hanes a diwylliant Cymru yn berwi trwy ei wythiennau. Deuai hynny’n glir i bawb a gafodd y fraint o wrando arno’n areithio mewn raliau wrth iddo gyfeirio at wahanol adegau mewn hanes a chyffelybu â’r sefyllfa bresennol. Nid rhywbeth sych oedd hanes iddo ond rhywbeth a allai roi goleuni i’n llywio yn ein presennol a thuag at y dyfodol.
Y rali Cymdeithas yr Iaith cyntaf i fi ei mynychu erioed oedd rali ynghylch dyfodol cymunedau Cymraeg tua 2002, a bu araith Hywel Teifi Edwards yn gymaint o ysbrydoliaeth fe ymunais â’r mudiad. Sôn yr oedd e’ bryd hynny y mae y Cymry fel cenedl yn tenacious ac fe ddefnyddiodd y gair Saesneg oherwydd fod y gair mor addas i’n disgrifio (yr unig le roeddwn i wedi clywed y gair o’r blaen oedd wrth wrando ar gerddoriaeth Tenacious D – cofiwch mai deunaw oeddwn i ar y pryd). Mae’r gafael hwn sydd gyda ni ar ein hanes a’n diwylliant, y cof cenedl tenacious hwn, yn bwysig iawn meddai Hywel Teifi Edwards.
Yn ei gyfrol olaf, The National Pageant of Wales, fe adroddodd hanes perfformio pasiant mawr yn dathlu hanes Cymru drwy’r oesoedd yng nghysgod Castell Caerdydd, gyda dros 5000 o bobl yn cymryd rhan o bob dosbarth o gymdeithas. Yn y dyfyniad hwn, dengys sut y gwelai perthnasedd y digwyddiad hwn gyda’r angen am addysgu pobl Cymru am hanes eu gwlad ynghyd â’r sefyllfa wleidyddol bresennol:
Meddylfryd neu seicoleg y Cymry oedd ei ddiddordeb mawr, ac er y dywedai fod hyn o ganlyniad i imperialaeth Lloegr yng Nghymru roedd hefyd yn awyddus i’r Cymry adfer yr hyder ynddynt eu hunain ac ymladd y seicoleg hwn. Ysgrifennodd yn helaeth am Frad y Llyfrau Gleision er enghraifft gan sôn sut y trodd y ‘sgarmesi’ ynghylch yr iaith ‘yn faes rhyfel cartref’ wrth i’r feddylfryd fod angen addysg drwy gyfrwng y Saesneg i lwyddo yn y byd ymledu tra gwthiwyd a cyfyngwyd y Gymraeg i’r aelwyd a’r capel. Y neges i wyrdroi ein hanes a’n seicoleg am yr iaith Gymraeg oedd ei gri yn ei araith mewn rali fis Mai 2009, a oedd yn galw am ddatganoli pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru: ‘Ni ein hunain sydd i iachau y wlad ma lle mae’r iaith yn y cwestiwn’ meddai, ‘drwy ein cynrychiolwyr yng Nghaerdydd.’ Cyfeiriodd at allu’r genedl i reoli ei hun yn wâr a theg drwy gyfraith Hywel Dda yn y gorffennol gan ddweud am y presennol: ‘ni’r Cymry biau’r busnes yma.’ Nid oedd pwyslais Hywel Teifi ar ymyrraeth Lloegr â Chymru, ond ar yr hyder sydd angen ei adfeddiannu i ryddhau o’r feddylfryd o israddoldeb ynghylch yr iaith Gymraeg.
Nid dyn dweud yn unig oed Hywel Teifi Edwrads, ond dyn gwneud. Rhai blynyddoedd yn ôl roeddwn i’n gwrando ar ei feirniadaeth befriog yn y Pafiliwn o gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ac fe ddywedodd fel hyn: ‘Pe bae pawb sy’n bresennol yn y pafiliwn yn prynu chwech neu saith llyfr Cymraeg y flwyddyn fe fyddai gennym ni chwyldro yn y wasg Gymraeg.’ Nes i feddwl – WOW – ma hynna’n wallgo! Ers hynny rwyf wedi gwneud yn siwr fy mod i’n prynu o leia’r nifer hynny o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn.
Ni all unrhyw Gymro gwneud llai nag edmygu ei ymroddiad a’i gyfraniad i Gymru. Dangosodd mai dim ond ni ein hunain all godi Cymru unwaith eto a bod angen torri’n rhydd o’r feddylfryd israddol am yr iaith Gymraeg. Hefyd, roedd ei wybodaeth a’i allu hudolaidd i draethu am ystod eang o bynciau hanesyddol a diwylliannol yn rhywbeth i ni fel cenhedlaeth ifanc ei edmygu, fel y gallwn edmygu llawer o haneswyr diwylliannol rydym ni’n prysur eu colli. Gan obeithio y bydd ein cenhedlaeth ni mor frwd â pobl fel Hywel Teifi Edwards i ddal cyfoeth y dychymyg Cymraeg ar lafar gwlad!
Llun gan dogfael