Ffilmiau yng Nghymru: Oes yr Addewid?

Separado!
Mae bod yn film-geek yng Nghymru yn gallu bod yn brofiad hynod fasocistaidd ar adegau, yn enwedig os yw’r film-geek dan sylw wrth ei bodd gyda gallu’r cyfrwng poblogaidd hwn i gyffroi cynulleidfaoedd a chyfathrebu negeseuon di-ri, ac ar dân i weld ei diwylliant ei hun yn cael cynrhychiolaeth ar y sgrîn fawr.

Safon amrywiol iawn sydd wedi bod ym maes ffilmiau o Gymru, am Gymru, a gan Gymry yn ddiweddar, a hynny ar DVD, yn y sinemâu ac ar y teledu, ond rhaid dweud i mi gael fy mhlesio ar y cyfan.

Afraid dweud mai nifer bychan iawn o ffilmiau a ryddhawyd, ac y byddai’n braf gweld yr arian sydd ar gael yn cael ei gyfeirio’n gywir at feithrin auteurs newydd – gyda’r pwyslais ar annog sgriptiau ffilm gwreiddiol, ac i fod o gymorth i gynhyrchwyr anibynnol, ac nid enwau – a chwmniau – sefydliedig yn unig.

Gadewch i mi eich atgoffa o rai o’r perlau – a’r tyrcwn – a ryddhawyd dros y flwyddyn ddwetha.

I gael dechrau’n gronolegol, ac ar begwn ysgafnaf y sbectrwm, ges i fy siomi ar yr ochr orau gan ffilm ro’n i wedi disgwyl ei chasáu, sef The Baker gan Gareth Lewis – cynhyrchiad a ryddhawyd ar DVD Gwanwyn dwetha. Film Noir o fath yw hi, ond un hynod ysgafn, gyda’r seren pengoch Damien Lewis fel hitman o Lunain sy’n dianc i bentre bach yng nghefn gwlad Cymru, ac yn ffeindio gyrfa newydd fel pobydd. Dwi’n gwbod, mae’n swnio’n erchyll, ond wir i chi, ar ôl blynyddoedd o ddiodde dehongliadau ystrydebol o Gymru (a Chymry) mewn ffilmiau mawr a bach, mae natur cwyrci, hoffus, a hynod hwyliog y trysor syth-i-DVD hwn yn werth ei phrofi.

Siomedig iawn, fodd bynnag, oedd fy mhrofiad i o wylio ffilm arall am Lundeiniwr yn dychwelyd i gefn gwlad Cymru, sef Abraham’s Point, a ddangoswyd gyntaf yn ystod gwyl ffilm Soundtrack fis Tachwedd y llynedd (ac sydd bellach ar gael ar DVD). Road-Movie tu hwnt o ddiflas yw hon sy’n dychmygu ei bod hi’n cynnig arlwy alternatif, am insomniac o’r enw Comet Snape (a chwareir gan Mackenzie Crook) sy’n teithio adre i ymweld â’i dad, sy’n sâl. Ag ystyried i’r cynhyrchiad gael ei ariannu gan gronfa ED Creadigol y Cynulliad, treuliwyd hanner cyntaf y cynhyrchiad ar ymylon yr M4 yn Lloegr, a nes i fethu’n lân a deall sut lwyddodd y sgwennwr-gyfarwyddwr Wyndham Price i gyfiawnhau ceiniog o’r nawdd hwn tan yr olygfa olaf un, a ffilmiwyd o hofrennydd uwchlaw traeth Rhosili ar Benrhyn Gwyr. Golygfa hyfryd yn sicr, ond fu bron iawn i mi golli’r ewyllys i fyw ‘rôl jyst iawn i ddwyawr yng ngwmni cymeriad mor ddi-ddim.

Cynhyrchwyd cyfres o ffilmiau yn y Gymraeg gan Boom Films y llynedd, a darlledwyd nifer ohonynt ar S4C dros y flwyddyn ddwetha. Rhaid dweud i mi fwynhau addasiad ffilm y ddrama Cymru Fach gan William Owen Roberts, gafodd ei phremière – yn addas iawn, am ffilm sy’n herio’r cysylltiadau llosgachol sydd yn cynnal y diwylliant Cymraeg – adeg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae na ormod o lawer o enghreifftiau o glyfrwch gweledol y cynhyrchiad hwn i’w rhestru yma, ond dwi’n credu mai fy hoff ran i oedd gweld cymeriad y Cougar Cymraeg, a chwaraewyd gan Nicola Beddoe, mewn maxi-dress drawiadol a’i breichledi amryliw yn asio’n berffaith â’r rhesaid o Gyfansoddiadau’r Eisteddfod ar y silff lyfrau y tu cefn iddi. (Cyfaddefiad; mae’r film-geek yma’n Eisteddfod – geek a fashion-geek hefyd). Yr unig beth faswn i’n ddweud yn ei herbyn yw bod Cymru Fach yn addasiad ffilm statig iawn o ddrama lwyfan statig, gyda nifer fawr iawn o fonologau a’r un hen gwynion ystrydebol yn perthyn iddi. Serch hynny, cafwyd cyfuniad diddorol iawn o actorion, a braf gweld y testun hwn yn cael cynrhychiolaeth ar ffilm.

O ran ffilmiau’r Nadolig, wel, darlledwyd dwy ffilm am driawdau cwbl wrthgyferbynniol ar S4C dros y tymor Ewyllys Da 2008, sef Beryl Cheryl a Meryl, a Martha Jac a Sianco. Anheg fydde cymharu’r ddwy ffilm, a dwi’n gwbod i garfannau gwahanol fwynhau a chasau’r naill a’r llall gymaint â’i gilydd. Ibiza Ibiza i’r Dim-Dimau oedd Beryl Cheryl a Meryl yn ei hanfod – hynny yw, bach o sbort a dim byd mwy – wedi’i seilio ar sgets hwyliog o raglen gomedi Mawr!, ond serch perfformiadau hynod hoffus gan Iwan John a Rolant Prys, doedd y sgript un-deimensiwn ddim patch ar glasur Caryl Parry Jones, ac roedd hi’n rhy hir o lawer. Ar y llaw arall, “Depressing”, a “Chwbl Anaddas” oedd y prif feirniadaeth yn erbyn darlledu addasiad ffilm o’r hanes teuluol dywyll Martha Jac a Sianco ar Noson Nadolig, ond i mi, dyma oedd uchafbwynt darlledu’r wyl ar unrhyw sianel. Diolch i dîm cynhyrchu amldalentog, llwyddwyd i dalu teyrnged i gampwaith o nofel trwy greu clasur o ffilm deledu Gymraeg.

Addasiad llai llwyddianus o nofel arall gan Caryl Lewis oedd Y Rhwyd (Ffilmiau Apollo), ffilm a ddarlledwyd ar S4C yn ystod yr Hydref. A bod yn deg, addasiad o “Stori Sydyn” digon arwynebol oedd hon, a’r prif broblem gen i gyda’r ffilm oedd natur chwerthinllyd o geidwadol y stori dan sylw, am ddyn priod sydd – yn ddiarwybod i’w wraig ddiflas – yn hoff o bach o S&M gyda phutain dwyllodrus. Yn naturiol, o gofio i’r ffilm gael ei darlledu ar nos Sul – yn fuan wedi Dechrau Canu Dechrau Canmol – cafodd y cyfeiliornwr cywilyddus ei gosbi’n enbyd am chwenychu’r fath chwantau, a cawson ni wylwyr ein cosbi gan gynhyrchiad hynod ddiflas a hen-ffasiwn.

Roedd na rywbeth reit hoffus a diymhongar am y cynhyrchiad Omlet (Boom Films) – addasiad arall o waith llenyddol, ond o nofel boblogaidd gan Nia Medi y tro hwn – diolch yn bennaf i berfformiad hwyliog Delyth Eirwyn fel y Bridget Jones Cymraeg, Angharad Austin. Ond i mi, un cymeriad cry wedi’i llunio’n grefftus oedd sail Omlet, a methodd y cynhyrchiad hwn a chynnig stori – a chymeriadau cynorthwyol – digon sylweddol o’i chwmpas i gyfiawnhau ffilm amdani.

Diwedd partneriaeth dau gymeriad eiconig oedd yr ysbrydoliaeth i’r ffilm Ryan a Ronnie – addasiad sgript Meic Povey o’i ddrama lwyfan ei hun, Life of Ryan… and Ronnie. Unwaith eto, roedd hi’n amlwg mai drama ar gyfer y theatr oedd gwreiddiau’r cynhyrchiad hwn, ond yn wir, cafwyd adloniant o’r radd flaena diolch i berfformiadau trawiadol gan Aled Pugh a Rhys ap Hywel, sgript wych, a threfniannau cerddorol meistrolgar o rai o glasuron Ryan gan ei fab, Arwyn Davies.Yr hyn sydd yn braf am y cynhyrchiad hwn yw mai prif nôd y tîm cynhyrchu oedd sicrhau bod ei chynulleidfa’n mwynhau pob munud, ac o ystyried i daith sylweddol o amgylch sinemau Cymru yn gynharach eleni brofi llwyddiant ysgubol, gellid ystyried y ffilm hon yn hit a hanner. Gwyliwch allan amdani ar S4C Nadolig yma.

Ffilm arall a gynhyrchwyd ar gyfer y sgrîn fawr oedd Cwcw (Ffilmiau Fondue/ S4C) gan y sgwenwraig-gyfarwyddwraig Delyth Jones, ac yn fuan ar ôl enill gwobr yng Ngwyl Ffilm Ryngwladol De Affrica, cafodd ddangosiad yng ngwyl Ffilm Soundtrack ar ddiwedd 2008. Yn sylfaenol, dyma ffilm aml-haenog am sgwenwraig (a chwareir gan Eiry Thomas) sy’n briod ag actor alcoholig (perfformiad cryf gan Rhys Richards), a dilynwn ei hymdrechion i dorri’n rhydd o hualau’r berthynas ac o ddryswch ei meddwl ei hun. Er bod iddi syniadau diddorol, actio campus, cerddoriaeth hyfryd, ac ambell olygfa wirioneddol wych – heb sôn am berlau o linellau – mae Cwcw ar adegau yn ffilm arteithiol o hunanfaldodus ac mae’n llawer rhy hir.

Sleep Furiously

I gael dirwyn i ben ar nodyn ychydig yn fwy positif, ga i eich cyfeirio chi at ddwy ffilm ddogfen a osodwyd yng nghefn gwlad Cymru. Mae La Casa di Dio yn cynnig portread o eglwys fechan yng Ne Ceredigion, tra blwyddyn ym mywyd cymuned Trefeurig, yng ngogledd y sir sy’n hawlio sylw’r cyfarwyddwr Gideon Koppel yn y ffilm Sleep Furiously.

Mae’r cynhyrchiad olaf hwn yn arbennig yn cynrhychioli teyrnged hudolus i’r gymuned lle cafodd y cyfarwyddwr ei rannol fagu, gyda cherddoriaeth gyfareddol gan yr artist Aphex Twin. Yn wir, awn mor bell a’i disgrifio’n llythyr cariad i Drefeurig, ei thirlun a’i phobol. Y newyddion da yw bod DVD Sleep Furiously bellach ar werth, ac y byddai’n gwneud anrheg perffaith i gefnogwr brwd o’r sinema yng Nghymru.

Cyn cloi – nodyn i’ch hysbysu am ffilm greodd argraff fawr arna i yng Ngwyl Soundtrack 2009, ac sy’n bownd o gydio yn nychymyg nifer pan aiff ar daith o amgylch Cymru flwyddyn nesa’, sef cynhyrchiad hirddsgwyliedig Gruff Rhys a Dyl Goch – Separado! Cafodd y ffilm ei disgrifio yn y Guardian, wythnos cyn ei phremière, fel “magical realist road movie”, ac er mor briodol yw’r tag-line twt honno, mae’r ffilm yn cynnig cymaint mwy i’r gwyliwr na hynny. Yn un peth, mae hi’n cynrhychioli cydymaith ddogfennol i daith albwm Candylion Gruff Rhys yn Ne America yn 2006. Mae hi hefyd yn cynnig clytwaith uchelgeisiol o arddulliau ffilm – o’r Spaghetti Western, i antur bicaresg – ac yn cyflwyno stori sy’n pontio dwy gyfandir, tra’n cyfuno hanes gymdeithasol a helfa deuluol ddifyr tu hwnt.

Mae’n wir fod rhan helaeth o’r ffilm gerddorol dairieithog hon – fel cymaint o gynyrchiadau Cymreig diweddar – wedi ei gosod ym Mhatagonia, ond rhaid cyfadde, yr eiliad i mi glywed yr awdur – mewn troad cyfrwys o ôl fodernaidd – yn cyfeirio yn ystod y ffilm at obsesiwn y cyfryngau Cymraeg â’r rhanbarth fel gang-bang ddiwyllianol, nes i faddau’n syth iddo am ymuno â’r fintai fodern ma, am iddo – yn sylfaenol – gynnig y cyflwyniad gorau eto i awen ddiflino’r Wladfa.

Os welwch chi’r ffilm hon ar ddangos mewn sinema leol yn 2010, cerwch i’w gweld – chewch chi mo’ch siomi.

4 sylw ar “Ffilmiau yng Nghymru: Oes yr Addewid?”

  1. Mae Casa Di Dio hefyd ar gael ar DVD drwy’r post neu o siopau Cymraeg.

    Braf gweld trosolwg drylwyr a theg o gyfnod yn hanes y ffilm Gymraeg heb ei debyg ers dechrau’r 90au. Diolch Lowri!

    Y ffilm arall sy’n haeddu cael ei gynnwys yw Saunders Lewis vs Andy Warhol gan Emyr Glyn Williams. Sgraplyfr o bytiau ffilm a fideos cerddoriaeth yn olrhain bandiau Ankst yw hi, yn hytrach na ffilm ddogfen am y cyfnod, ond cafodd ei dangos mewn sinema neu ddwy yn 2009.

    Hefyd yn werth nodi ar gyfer y record bod y ffilm blant Rhestr Nadolig Wil wedi ennill BAFTA plant ddiwedd mis Tachwedd.

    Edrych mlaen yn arw i weld Separado!

  2. Methu cysgu. Yn y gwaith erbyn 5.15, Chwilio am ddeunydd ar gyfer llyfr am Ryan a Ronnie. Yr ymchwil bron ar ben, a’r sgwennu’n dechra ( neu ddim yn dechra-pwy a wyr) ddiwedd y mis. Wedi bod yn syrffio a darllen erthyglau ddiddorol yn ‘Y Twll’ yn arbennig felly Dyl Mei a’r sin Gymraeg, ac adolygiad Lowri Cooke o Geraint Jarman a Brecwast Astronot.

  3. Diolch Hywel, braf cael sylw gan un o’r prif actorion Gwaed ar y Sêr!!! Pa fath o waith wyt ti wedi bod yn wneud ers hynny?

Mae'r sylwadau wedi cau.